Clwb Garddio'r Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10: Llinell 10:
Yn ddiweddarach cafwyd swyddogion newydd - Mr John A. Jones, Arlwyn yn ysgrifennydd o 1956-1972 a H. R.Williams, Dyfffyn yn llywydd ac ysgrifennydd o 1960-1977. Bu rhai fel T. Alun Roberts; Gwilym Jones a John R. Jones yn weithwyr ffyddlon am flynyddoedd.
Yn ddiweddarach cafwyd swyddogion newydd - Mr John A. Jones, Arlwyn yn ysgrifennydd o 1956-1972 a H. R.Williams, Dyfffyn yn llywydd ac ysgrifennydd o 1960-1977. Bu rhai fel T. Alun Roberts; Gwilym Jones a John R. Jones yn weithwyr ffyddlon am flynyddoedd.


Mae'r clwb yn dal mewn bodolaeth ond erbyn hyn y prif weithgaredd yw'r sioe flynyddol a gynhelir tua ddiwedd Awst. Erbyn hyn mae'r categorïau o gystadlaethau wedi ehangu ymhellach i gynnwys pobi, jam a diodydd, crefftau a ffotograffiaeth, a cheir dosbarthiadau cystadlu ar gyfer plant yn unig. Fe'i chynhelir yn [[Neuadd y Groeslon]].
Mae'r clwb yn dal mewn bodolaeth ond erbyn hyn y prif weithgaredd yw'r sioe flynyddol a gynhelir tua ddiwedd Awst. Erbyn hyn mae'r categorïau o gystadlaethau wedi ehangu ymhellach i gynnwys pobi, jam a diodydd, crefftau a ffotograffiaeth, a cheir dosbarthiadau cystadlu ar gyfer plant yn unig. Fe'i chynhelir yn [[Neuadd Y Groeslon]].




Llinell 17: Llinell 17:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Cymdeithasau]]
[[Categori:Cymdeithasau]]
[[Categori:Clybiau]]
[[Categori:Sioeau]]

Fersiwn yn ôl 11:26, 14 Medi 2019

Mae Clwb Garddio'r Groeslon yn un o gymdeithasau hiraf ei pharhad yn y pentref.

Ffurfiwyd pwyllgor yn Y Groeslon i sefydlu clwb garddio ar 21 Chwefror, 1941.Y swyddogion cyntaf a rhai a fu'n gwasanaethu am flynyddoedd oedd: Cadeirydd - Mr R. H. Gruffydd; 1941-1966; Llywydd - Mr Alwyn Hughes Jones 1944-1959; Trysorydd - Mr John Owen, Siop Newydd 1941-1960; Ysgrifennydd - Mrs M. Jones-Griffith, Bryn Du 1941-1954; a Mr John Parry, Llys Elen yn Ysgrifennydd yr.Arddangosfa o 1941-1966 a wedyn bu'n is-gadeirydd am ddwy flynedd. Penderfynwyd cael cyfarfod cyhoeddus i ddechrau gyda Mr J. Roberts, Madryn yn annerch ac aethpwyd o amgylch y pentref i chwilio am aelodau; swllt oedd y tâl aelodaeth. Cynhaliwyd yr Arddangosfa gyntaf ym mis Medi 1941 gan arddangos cynnyrch gardd yn unig. Y beirniad oedd Mr Roberts, Madryn.

Byddai'r clwb yn cyfarfod yn ystod y Gaeaf i gael cwis neu ffilm neu ddarlith. Dechreuwyd cynnal cystadlaethau arddangos blodau yn ystod y cyfarfodydd ac o hyn y datblygodd y Sioe Aeaf yn y pumdegau i ddangos Blodau Mihangel. Byddai'r aelodau yn gallu archebu hadau a llwch gwrtaith am brisiau ffafriol. Bob haf aent am wibdaith, y rhan amlaf i'r Amwythig, ond weithiau i Erddi Bodnant. Rhoddir Cwpan Schofield i enillydd y mwyaf o farciau yn y Sioe.

Yn ddiweddarach cafwyd swyddogion newydd - Mr John A. Jones, Arlwyn yn ysgrifennydd o 1956-1972 a H. R.Williams, Dyfffyn yn llywydd ac ysgrifennydd o 1960-1977. Bu rhai fel T. Alun Roberts; Gwilym Jones a John R. Jones yn weithwyr ffyddlon am flynyddoedd.

Mae'r clwb yn dal mewn bodolaeth ond erbyn hyn y prif weithgaredd yw'r sioe flynyddol a gynhelir tua ddiwedd Awst. Erbyn hyn mae'r categorïau o gystadlaethau wedi ehangu ymhellach i gynnwys pobi, jam a diodydd, crefftau a ffotograffiaeth, a cheir dosbarthiadau cystadlu ar gyfer plant yn unig. Fe'i chynhelir yn Neuadd Y Groeslon.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau