Cwm Gwared: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Cwm Gwara''' yw'r cwm cul y mae [[Afon Hen]] yn rhedeg ar ei hyd. Mae'r cwm yn ymestyn o ystlys [[Mynydd Gurn Goch]] ac yn rhedeg rhwng y mynydd hwnnw a [[Mynydd Bwlch Mawr]] i lawr i bentref [[Gurn Goch]]. Ym mhen uchaf un y cwm cae [[Cors y Ddalfa]], lle ceir olion hen waith manganîs. Mae fferm o'r un enw ar ochr ogleddol y cwm. Cwm coediog ydyw, wedi ei blannu gan [[Ystad Glynllifon]] mae'n debyg.  Gwerthwyd llawer o'r coed yn y 1870au-1880au. Yn wreiddiol, roedd Cwm Gwara'n rhan o ystad teulu Llwydiaid,Tŷ Mawr, [[Clynnog Fawr]]. Bu'r fferm a'r cwm yn eiddo i Glynllifon ers rywbryd tua 1721 pan brynodd John Wynn, Glynllifon, Gwm Gwara, ynghyd â [[Ystad Tŷ Mawr, Clynnog|Thŷ Mawr]], a hefyd Maesmawr a Choed Hywel yn nhrefgordd [[Dinlle]] oddi wrth Philip Lloyd, gŵr bonheddig a oedd wedi symudd o Gwm Gwara i Lundain. Y pris a dalwyd am y cwbl oedd £1170, swm sylweddol dros ben y pryd hynny.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/7710-7727</ref>  
'''Cwm Gwara''' yw'r cwm cul y mae [[Afon Hen]] yn rhedeg ar ei hyd. Mae'r cwm yn ymestyn o ystlys [[Mynydd Gurn Goch]] ac yn rhedeg rhwng y mynydd hwnnw a [[Mynydd Bwlch Mawr]] i lawr i bentref [[Gurn Goch]]. Ym mhen uchaf un y cwm cae [[Cors-y-ddalfa]], lle ceir olion hen waith manganîs. Mae fferm o'r un enw ar ochr ogleddol y cwm. Cwm coediog ydyw, wedi ei blannu gan [[Ystad Glynllifon]] mae'n debyg.  Gwerthwyd llawer o'r coed yn y 1870au-1880au. Yn wreiddiol, roedd Cwm Gwara'n rhan o ystad teulu Llwydiaid,Tŷ Mawr, [[Clynnog Fawr]]. Bu'r fferm a'r cwm yn eiddo i Glynllifon ers rywbryd tua 1721 pan brynodd John Wynn, Glynllifon, Gwm Gwara, ynghyd â [[Ystad Tŷ Mawr, Clynnog|Thŷ Mawr]], a hefyd Maesmawr a Choed Hywel yn nhrefgordd [[Dinlle]] oddi wrth Philip Lloyd, gŵr bonheddig a oedd wedi symudd o Gwm Gwara i Lundain. Y pris a dalwyd am y cwbl oedd £1170, swm sylweddol dros ben y pryd hynny.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/7710-7727</ref>  


Mae mapiau'n tueddu galw'r cwm yn ''Gwm Chwara'' neu'n ''Gwm Gwared''. Mae Myrddyn Fardd yn ei lyfr ar enwau lleoedd yn mynnu mai enw cywir y cwm yw ''Cwm Gwaedd'', sef Cwm Tirion neu Hynaws, ond prin bod yr esboniad yn taro tant.<ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwai Lleoedd Sir Gaernarfon'' (Caernarfon, d.d.), t.219</ref>
Mae mapiau'n tueddu galw'r cwm yn ''Gwm Chwara'' neu'n ''Gwm Gwared''. Mae Myrddyn Fardd yn ei lyfr ar enwau lleoedd yn mynnu mai enw cywir y cwm yw ''Cwm Gwaedd'', sef Cwm Tirion neu Hynaws, ond prin bod yr esboniad yn taro tant.<ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwai Lleoedd Sir Gaernarfon'' (Caernarfon, d.d.), t.219</ref>

Fersiwn yn ôl 17:28, 12 Medi 2019

Cwm Gwara yw'r cwm cul y mae Afon Hen yn rhedeg ar ei hyd. Mae'r cwm yn ymestyn o ystlys Mynydd Gurn Goch ac yn rhedeg rhwng y mynydd hwnnw a Mynydd Bwlch Mawr i lawr i bentref Gurn Goch. Ym mhen uchaf un y cwm cae Cors-y-ddalfa, lle ceir olion hen waith manganîs. Mae fferm o'r un enw ar ochr ogleddol y cwm. Cwm coediog ydyw, wedi ei blannu gan Ystad Glynllifon mae'n debyg. Gwerthwyd llawer o'r coed yn y 1870au-1880au. Yn wreiddiol, roedd Cwm Gwara'n rhan o ystad teulu Llwydiaid,Tŷ Mawr, Clynnog Fawr. Bu'r fferm a'r cwm yn eiddo i Glynllifon ers rywbryd tua 1721 pan brynodd John Wynn, Glynllifon, Gwm Gwara, ynghyd â Thŷ Mawr, a hefyd Maesmawr a Choed Hywel yn nhrefgordd Dinlle oddi wrth Philip Lloyd, gŵr bonheddig a oedd wedi symudd o Gwm Gwara i Lundain. Y pris a dalwyd am y cwbl oedd £1170, swm sylweddol dros ben y pryd hynny.[1]

Mae mapiau'n tueddu galw'r cwm yn Gwm Chwara neu'n Gwm Gwared. Mae Myrddyn Fardd yn ei lyfr ar enwau lleoedd yn mynnu mai enw cywir y cwm yw Cwm Gwaedd, sef Cwm Tirion neu Hynaws, ond prin bod yr esboniad yn taro tant.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/7710-7727
  2. John Jones (Myrddin Fardd), Enwai Lleoedd Sir Gaernarfon (Caernarfon, d.d.), t.219