David Thomas Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Ar lethrau de-orllewinol [[Garnedd Goch]] mae [[Ffynnon y Doctor]] - mae'r dŵr oer i fod yn fuddiol i bobl efo crudcymalau, eryr a phroblemau eraill. Fodd bynnag, mae profion wedi dangos nad oes rhinweddau cemegol neilltuol gan ddwr y ffynnon.
Ar lethrau de-orllewinol [[Garnedd Goch]] mae [[Ffynnon y Doctor]] - mae'r dŵr oer i fod yn fuddiol i bobl efo crudcymalau, eryr a phroblemau eraill. Fodd bynnag, mae profion wedi dangos nad oes rhinweddau cemegol neilltuol gan ddwr y ffynnon.


Roedd ei fab David Thomas Jones (1824-1888), hefyd, yn enwog am feddyginiaeth. Cafodd rhai o'i foddion i blant eu gwerthu dros Ewrop ac America.
Roedd ei fab David Thomas Jones (1824-1888), hefyd, yn enwog am feddyginiaeth. Cafodd rhai o'i foddion i blant eu gwerthu dros Ewrop ac America.<ref>Gwefan Nantlle.com, [http://www.nantlle.com/hanes-nebo-nasareth-doctor-mynydd.htm], cyrchwyd 9.9.2019</ref>


Fe'u claddwyd ym [[Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd|Mynwent y Bedyddwyr Bach]], [[Llanllyfni]]. Mae englyn ar eu bedd yn darllen fel a ganlyn:
Fe'u claddwyd ym [[Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd|Mynwent y Bedyddwyr Bach]], [[Llanllyfni]]. Mae englyn ar eu bedd yn darllen fel a ganlyn:
Llinell 17: Llinell 17:


[[Delwedd:Llun o lyfr doctor mynydd.jpg|bawd|chwith|350px|Dwy dudalen o lyfr y Dr Mynydd]]
[[Delwedd:Llun o lyfr doctor mynydd.jpg|bawd|chwith|350px|Dwy dudalen o lyfr y Dr Mynydd]]
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Meddygon]]

Fersiwn yn ôl 10:25, 9 Medi 2019

Wynebddalen argraffiad cyntaf y Doctor Mynydd

Perlysieuydd meddygol oedd David Thomas Jones (1781-1849). Bu'n byw yn Hafod yr Esgob, Mynydd Llanllyfni, efo'i wraig Elizabeth lle y plannon nhw ardd a oedd yn llawn o lysiau lleol ac estron. Weithiau, daethpwyd o hyd i blanhigion prin, degawdau ar ôl marwolaeth eu mab ieuengaf yn 1888. Tyrrodd pobl y wald ato mewn oes pan oedd meddygaeth wyddonol ond yn dechrau datblygu.

Cyhoeddwyd llyfr o'i feddyginiaethau oedd, mewn gwirionedd, yn addasiad a thalfyriad o waith y perlysieuydd Seisnig enwog Nicholas Culpeper (1614-1654). Roedd hon yn gyfrol hynod boblogaidd mewn cartrefi Gogledd Cymru am flynyddoedd, ac aeth trwy nifer o argraffiadau hyd mor ddiweddar â 1883. Cynhwysodd luniau amrwd wedi'u lliwio, gyda'r bwriad o roi rhyw syniad o liwiau'r dail er mwyn osgoi camgymeriadau anffodus!

Ar lethrau de-orllewinol Garnedd Goch mae Ffynnon y Doctor - mae'r dŵr oer i fod yn fuddiol i bobl efo crudcymalau, eryr a phroblemau eraill. Fodd bynnag, mae profion wedi dangos nad oes rhinweddau cemegol neilltuol gan ddwr y ffynnon.

Roedd ei fab David Thomas Jones (1824-1888), hefyd, yn enwog am feddyginiaeth. Cafodd rhai o'i foddion i blant eu gwerthu dros Ewrop ac America.[1]

Fe'u claddwyd ym Mynwent y Bedyddwyr Bach, Llanllyfni. Mae englyn ar eu bedd yn darllen fel a ganlyn:

Er meddu ar y moddion - a wellant
   Eraill o glefydon;
  Angau trwch i'r llwch gell hon
  Yma ddug y meddygon.
Dwy dudalen o lyfr y Dr Mynydd


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Nantlle.com, [1], cyrchwyd 9.9.2019