Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Uwchgwyrfai''' yn un o gymydau (neu raniadau gweinyddol) hynafol Sir Gaernarfon (a thywysogaeth Gwynedd cyn hynny) er nad yw'n bodoli fel uned weinyddol bellach. Mae i'r cwmwd bum plwyf, sef [[Clynnog-fawr]], [[Llanaelhaearn]], [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]] a [[Llanwnda]].

Ystyr yr enw yw 'y tir yr ochr draw i'r afon Gwyrfai', a hynny oherwydd iddo fod yr ochr draw o safbwynt y llys yn Abergwyngregyn. Y rhan o dir oedd yn agosach at y llys oedd Is-gwyrfai, sef y plwyfi i'r gorllewin o Landygái, sef Pentir hyd at Llanbeblig, Llanfaglan a Betws Garmon.  

==Ffiniau==

Yn wreiddiol fe ddilynai ffin y cwmwd glannau de-orllewinol yr afon Gwyrfai o'r môr hyd ei tharddiad yn Llyn y Gader i'r de o [[Rhud-ddu|Ryd-ddu]], gan gynnwys rhan orllewinol y pentref hwnnw. Fe gollwyd peth tir i blwyf Betws Garmon ym 1888, sef yr holl dir ym mhlwyf [[Llanwnda]] i'r dwyrain o grib y mynyddoedd ac ar hyd yr Afon Gwyrfai rhwng Waun-fawr a Rhyd-ddu. Serch hyn, yn dechnegol, rhan o Uwchgwyrfai yw'r ardal honno hyd heddiw.

Fersiwn yn ôl 14:22, 9 Tachwedd 2017

Mae Uwchgwyrfai yn un o gymydau (neu raniadau gweinyddol) hynafol Sir Gaernarfon (a thywysogaeth Gwynedd cyn hynny) er nad yw'n bodoli fel uned weinyddol bellach. Mae i'r cwmwd bum plwyf, sef Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.

Ystyr yr enw yw 'y tir yr ochr draw i'r afon Gwyrfai', a hynny oherwydd iddo fod yr ochr draw o safbwynt y llys yn Abergwyngregyn. Y rhan o dir oedd yn agosach at y llys oedd Is-gwyrfai, sef y plwyfi i'r gorllewin o Landygái, sef Pentir hyd at Llanbeblig, Llanfaglan a Betws Garmon.

Ffiniau

Yn wreiddiol fe ddilynai ffin y cwmwd glannau de-orllewinol yr afon Gwyrfai o'r môr hyd ei tharddiad yn Llyn y Gader i'r de o Ryd-ddu, gan gynnwys rhan orllewinol y pentref hwnnw. Fe gollwyd peth tir i blwyf Betws Garmon ym 1888, sef yr holl dir ym mhlwyf Llanwnda i'r dwyrain o grib y mynyddoedd ac ar hyd yr Afon Gwyrfai rhwng Waun-fawr a Rhyd-ddu. Serch hyn, yn dechnegol, rhan o Uwchgwyrfai yw'r ardal honno hyd heddiw.

Bu i un arall o blwyfi Uwchgwyrfai, sef Clynnog-fawr, golli tir i blwyf Dolbenmaen yn gynnar yn y 20g. Yn wreiddiol, cynhwysai'r ardal o gwmpas Pant-glas a bron hyd at bentref Bryncir. Ar fapiau cynnar yr Arolwg Ordnans, fe'u gelwir yn Glynnog Uchaf, (neu, yn unol ag arferion Seisnig mapwyr y cyfnod, Upper Clynnog

Mae erthyglau yng Nghof y Cwmwd yn cynnwys y rhannau hynny o blwyfi Clynnog-fawr a LLanwnda a gollwyd.

Ffynonellau

Mapiau Ordnans 6" i'r filltir yr ardal I'w cyrchu ar [1]