David Thomas Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Perlysieuydd meddygol oedd '''David Thomas Jones''' (1781-1849). Bu'n byw yn Hafod yr Esgob, Mynydd Llanllyfni, efo'i wraig Elizabeth lle y plannon n...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Perlysieuydd meddygol oedd '''David Thomas Jones''' (1781-1849). Bu'n byw yn Hafod yr Esgob, [[Mynydd Llanllyfni]], efo'i wraig Elizabeth  lle y plannon nhw ardd a oedd yn llawn o lysiau lleol ac estron. Weithiau, daethpwyd o hyd i blanhigion prin, degawdau ar ôl marwolaeth eu mab ieuengaf yn 1888.
Perlysieuydd meddygol oedd '''David Thomas Jones''' (1781-1849). Bu'n byw yn Hafod yr Esgob, [[Mynydd Llanllyfni]], efo'i wraig Elizabeth  lle y plannon nhw ardd a oedd yn llawn o lysiau lleol ac estron. Weithiau, daethpwyd o hyd i blanhigion prin, degawdau ar ôl marwolaeth eu mab ieuengaf yn 1888. Tyrrodd pobl y wald ato mewn oes pan oedd meddygaeth wyddonol ond yn dechrau datblygu.

Cyhoeddwyd llyfr o'i feddyginiaethau oedd,. mewn gwirionedd, yn addasiad a thalfyriad o waith y perlysieuydd Seisnig enwog Nicholas Culpeper (1614-1654).
Cyhoeddwyd llyfr o'i feddyginiaethau oedd, mewn gwirionedd, yn addasiad a thalfyriad o waith y perlysieuydd Seisnig enwog Nicholas Culpeper (1614-1654).

     "LLYSIEULYFR TEULUAIDD JONES LLANLLYFNI yn dangos Rhinwedd Meddygol Llysiau a chyfarwyddyd i'w casglu, ac i'w cadw'n ddilwgr trw'r flwyddyn. Yn cynwys dros 100 o Ddarluniau, wedi eu lliwio yn ôl lliw y Dail. At yr hwn yr ychwanegwyd Llyfr arall, LLYSIEUAETH FEDDYGOL: gan y diweddar THOMAS PARRY, Tre'rgarth. Pris y ddau yn rhwym, 4s. 6ch a'r dail wedi eu lliwio, neu 3s. 6ch heb eu lliwio."

Ar lethrau de-orllewinol [[Garnedd Goch]] mae [[Ffynnon y Doctor]] - mae'r dŵr oer i fod yn fuddiol i bobl efo crudcymalau, eryr a phroblemau eraill. Fodd bynnag, mae profion wedi dangos nad oes rhinweddau cemegol neilltuol gan ddwr y ffynnon.
 
Ar lethrau de-orllewinol Garnedd Goch mae Ffynnon y Doctor - mae'r dŵr oer i fod yn fuddiol i bobl efo crudcymalau, eryr a phroblemau eraill. Yn ôl y sôn, mae'n bosibl gweld y cerrig gwastad o'i chwmpas, ond mae'r grug wedi tyfu dros y rhan fwyaf ohonynt. Cynhalwyd profion ar ddŵr y ffynnon tuag ugain mlynedd yn ôl ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw wahaniaeth rhyngddi â dŵr y llyn, cronfa dŵr y Dyffryn.  

Roedd ei fab David Thomas Jones (1824-1888), hefyd, yn enwog am feddyginiaeth. Cafodd rhai o'i foddion i blant eu gwerthu dros Ewrop ac America.
Roedd ei fab David Thomas Jones (1824-1888), hefyd, yn enwog am feddyginiaeth. Cafodd rhai o'i foddion i blant eu gwerthu dros Ewrop ac America.
Llinell 13: Llinell 11:
Fe'u claddwyd ym Mynwent y Bedyddwyr Bach (Albanaidd), [[Llanllyfni]]. Mae englyn ar eu bedd yn darllen fel a ganlyn:
Fe'u claddwyd ym Mynwent y Bedyddwyr Bach (Albanaidd), [[Llanllyfni]]. Mae englyn ar eu bedd yn darllen fel a ganlyn:

    ''Er meddu ar y moddion - a wellant
''Er meddu ar y moddion - a wellant
     Eraill o glefydon;
     ''Eraill o glefydon;
    Angau trwch i'r llwch gell hon
  ''Angau trwch i'r llwch gell hon
     Yma ddug y meddygon.''
     ''Yma ddug y meddygon.''

Fersiwn yn ôl 09:43, 9 Medi 2019

Perlysieuydd meddygol oedd David Thomas Jones (1781-1849). Bu'n byw yn Hafod yr Esgob, Mynydd Llanllyfni, efo'i wraig Elizabeth lle y plannon nhw ardd a oedd yn llawn o lysiau lleol ac estron. Weithiau, daethpwyd o hyd i blanhigion prin, degawdau ar ôl marwolaeth eu mab ieuengaf yn 1888. Tyrrodd pobl y wald ato mewn oes pan oedd meddygaeth wyddonol ond yn dechrau datblygu.

Cyhoeddwyd llyfr o'i feddyginiaethau oedd, mewn gwirionedd, yn addasiad a thalfyriad o waith y perlysieuydd Seisnig enwog Nicholas Culpeper (1614-1654).

   "LLYSIEULYFR TEULUAIDD JONES LLANLLYFNI yn dangos Rhinwedd Meddygol Llysiau a chyfarwyddyd i'w casglu, ac i'w cadw'n ddilwgr trw'r flwyddyn. Yn cynwys dros 100 o Ddarluniau, wedi eu lliwio yn ôl lliw y Dail. At yr hwn yr ychwanegwyd Llyfr arall, LLYSIEUAETH FEDDYGOL: gan y diweddar THOMAS PARRY, Tre'rgarth. Pris y ddau yn rhwym, 4s. 6ch a'r dail wedi eu lliwio, neu 3s. 6ch heb eu lliwio."

Ar lethrau de-orllewinol Garnedd Goch mae Ffynnon y Doctor - mae'r dŵr oer i fod yn fuddiol i bobl efo crudcymalau, eryr a phroblemau eraill. Fodd bynnag, mae profion wedi dangos nad oes rhinweddau cemegol neilltuol gan ddwr y ffynnon.

Roedd ei fab David Thomas Jones (1824-1888), hefyd, yn enwog am feddyginiaeth. Cafodd rhai o'i foddion i blant eu gwerthu dros Ewrop ac America.

Fe'u claddwyd ym Mynwent y Bedyddwyr Bach (Albanaidd), Llanllyfni. Mae englyn ar eu bedd yn darllen fel a ganlyn:

Er meddu ar y moddion - a wellant
   Eraill o glefydon;
  Angau trwch i'r llwch gell hon
   Yma ddug y meddygon.