Crib Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Y Garn.JPG|bawd|350px|de|Y Garn, mynydd mwyaf dwyreiniol Crib Nantlle]] | |||
'''Crib Nantlle''' yw'r enw ar gefnen uchel o fynyddoedd ar ochr ddeheuol [[Dyffryn Nantlle]]. Mae'n ffurfio ffin deheuol [[Uwchgwyrfai]] hefyd, rhwng y cwmwd hwnnw a Chwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd. O'r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin, y mynyddoedd sy'n ffurfio Crib Nantlle yw Y Garn, Mynydd Drws-y-coed, Trum y Ddysgl, Mynydd Tal-y-mignedd, [[Craig Cwm Silyn]], Garnedd Goch, [[Craig Cwm Dulyn]] ac yn terfynu gyda [[Mynydd Craig Goch]]. Mae'r darn uchaf, sef ar Graig Cwm Silyn, yn 2408 o droedfeddi uwchben y môr.<ref>Mapiau Ordnans</ref> | '''Crib Nantlle''' yw'r enw ar gefnen uchel o fynyddoedd ar ochr ddeheuol [[Dyffryn Nantlle]]. Mae'n ffurfio ffin deheuol [[Uwchgwyrfai]] hefyd, rhwng y cwmwd hwnnw a Chwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd. O'r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin, y mynyddoedd sy'n ffurfio Crib Nantlle yw Y Garn, Mynydd Drws-y-coed, Trum y Ddysgl, Mynydd Tal-y-mignedd, [[Craig Cwm Silyn]], Garnedd Goch, [[Craig Cwm Dulyn]] ac yn terfynu gyda [[Mynydd Craig Goch]]. Mae'r darn uchaf, sef ar Graig Cwm Silyn, yn 2408 o droedfeddi uwchben y môr.<ref>Mapiau Ordnans</ref> | ||
Fersiwn yn ôl 19:57, 5 Medi 2019
Crib Nantlle yw'r enw ar gefnen uchel o fynyddoedd ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle. Mae'n ffurfio ffin deheuol Uwchgwyrfai hefyd, rhwng y cwmwd hwnnw a Chwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd. O'r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin, y mynyddoedd sy'n ffurfio Crib Nantlle yw Y Garn, Mynydd Drws-y-coed, Trum y Ddysgl, Mynydd Tal-y-mignedd, Craig Cwm Silyn, Garnedd Goch, Craig Cwm Dulyn ac yn terfynu gyda Mynydd Craig Goch. Mae'r darn uchaf, sef ar Graig Cwm Silyn, yn 2408 o droedfeddi uwchben y môr.[1]
Mae cerdded Crib Nantlle yn daith boblogaidd gyda cherddwyr mynydd profiadol, ond mae darnau serth ac ambell i le peryglus sydd yn gwneud y daith yn anaddas ar gyfer y rhai llai egnïol neu lai profiadol.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Mapiau Ordnans