Arthur Griffith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gari (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|de|Bedd Griffith ym Mynwent Glasnevin. Yr ail arlywydd ar Iwerddon oedd '''Arthur Griffi...'
 
Gari (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Yr ail arlywydd ar Iwerddon oedd '''Arthur Griffith''' (1871-1922). Fe hefyd oedd sylfaenydd ac arweinydd cyntaf [[Sinn Féin]]. Roedd yn bennaeth y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig a arweiniodd at annibyniaeth Iwerddon yn 1921.

Ganed Griffith yn [[Dulyn|Nulyn]], o dras Cymreig. Fe hanai ei deulu o [[Drws-y-coed|Ddrws y Coed]] ger [[Llyn y Dywarchen]] yn Eryri.  O'r tŷ yma aeth teulu William Griffith, a oedd wedi coleddu'r ffydd Armenaidd, i'r Iwerddon.  
Ganed Griffith yn Nulyn, o dras Cymreig. Fe hanai ei deulu o [[Drws-y-coed|Ddrws y Coed]] ger [[Llyn y Dywarchen]] yn Eryri.  O'r tŷ yma aeth teulu William Griffith, a oedd wedi coleddu'r ffydd Armenaidd, i'r Iwerddon.  

Bu'n gweithio fel argraffydd am gyfnod cyn ymuno â'r Cynghrair Gaeleg oedd yn anelu at adfer yr iaith Wyddeleg. Daeth yn aelod o'r ''Irish Republican Brotherhood'' (IRB). Yn 1900, sefydlodd fudiad Cumann na nGaedheal ac yn 1903  gyngor cenedlaethol i wrthwynebu ymweliad y brenin Edward VII o Loegr ag Iwerddon. Yn 1905, ymunodd hwn â chyrff eraill i ffurfio Cynghrair [[Sinn Féin]] ("Ni'n hunain").  

Llinell 10: Llinell 10:

Ym mis Hydref 1921, gofynnodd yr Arlywydd Éamon de Valera iddo fod yn arweinydd y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig. Ar ôl llawer o fargeinio daethpwyd i gytundeb cyn diwedd y flwyddyn, Cytundeb Eingl-Wyddelig; cyfaddawd o ran mai statws dominiwn oedd yn cael ei gynnig yn hytrach na gweriniaeth. Ymddiswyddodd de Valera mewn protest, a daeth Griffith yn Arlywydd.  Erbyn hyn roedd iechyd Griffith yn dirywio, a bu farw ar 12 Awst, 1922, yn 50 oed. Claddwyd ef ym Mynwent Glasnevin, Dulyn.<ref>Addaswyd o erthygl Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Arthur_Griffith], cyrchwyd 28.8.2019</ref>

Gall [[Dyffryn Nantlle]] a Drws-y-coed yn benodol felly hawlio rhan fechan yn hanes buddugoliaethus Iwerddon fel gwlad annibynnol, Gwarth yw bod olion hen gartref Griffith wedi ei chwalu o fewn cof i wneud lle i bysgotwyr barcio eu ceir.

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 08:24, 28 Awst 2019

Bedd Griffith ym Mynwent Glasnevin

.

Yr ail arlywydd ar Iwerddon oedd Arthur Griffith (1871-1922). Fe hefyd oedd sylfaenydd ac arweinydd cyntaf Sinn Féin. Roedd yn bennaeth y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig a arweiniodd at annibyniaeth Iwerddon yn 1921.

Ganed Griffith yn Nulyn, o dras Cymreig. Fe hanai ei deulu o Ddrws y Coed ger Llyn y Dywarchen yn Eryri. O'r tŷ yma aeth teulu William Griffith, a oedd wedi coleddu'r ffydd Armenaidd, i'r Iwerddon.

Bu'n gweithio fel argraffydd am gyfnod cyn ymuno â'r Cynghrair Gaeleg oedd yn anelu at adfer yr iaith Wyddeleg. Daeth yn aelod o'r Irish Republican Brotherhood (IRB). Yn 1900, sefydlodd fudiad Cumann na nGaedheal ac yn 1903 gyngor cenedlaethol i wrthwynebu ymweliad y brenin Edward VII o Loegr ag Iwerddon. Yn 1905, ymunodd hwn â chyrff eraill i ffurfio Cynghrair Sinn Féin ("Ni'n hunain").

Yn dilyn Gwrthryfel y Pasg bu cynnydd mawr yn y gefnogaeth i Sinn Féin. Etholwyd Griffith yn aelod seneddol dros Ddwyrain Cavan mewn is-etholiad yng nghanol 1918. Gwrthodasant fynd i'r senedd, gan sefydlu senedd Wyddelig Dáil Éireann (1919-1922) Dilynwyd hyn gan Ryfel Annibyniaeth Iwerddon yn erbyn y fyddin Brydeinig. Carcharwyd Griffith am gyfnod yn 1921.

Ym mis Hydref 1921, gofynnodd yr Arlywydd Éamon de Valera iddo fod yn arweinydd y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig. Ar ôl llawer o fargeinio daethpwyd i gytundeb cyn diwedd y flwyddyn, Cytundeb Eingl-Wyddelig; cyfaddawd o ran mai statws dominiwn oedd yn cael ei gynnig yn hytrach na gweriniaeth. Ymddiswyddodd de Valera mewn protest, a daeth Griffith yn Arlywydd. Erbyn hyn roedd iechyd Griffith yn dirywio, a bu farw ar 12 Awst, 1922, yn 50 oed. Claddwyd ef ym Mynwent Glasnevin, Dulyn.[1]

Gall Dyffryn Nantlle a Drws-y-coed yn benodol felly hawlio rhan fechan yn hanes buddugoliaethus Iwerddon fel gwlad annibynnol, Gwarth yw bod olion hen gartref Griffith wedi ei chwalu o fewn cof i wneud lle i bysgotwyr barcio eu ceir.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Addaswyd o erthygl Wicipedia [1], cyrchwyd 28.8.2019