John Hywyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Coroni-mon-1974 1 orig.jpg|bawd|de|300px|John Hywyn yn cael ei goroni yn Eisteddfod Môn, Amlwch, 1964]]
[[Delwedd:Coroni-mon-1974 1 orig.jpg|bawd|de|300px|John Hywyn yn cael ei goroni yn Eisteddfod Môn, Amlwch, 1964]]


Mae '''John Hywyn''' (John Hywyn Edwards nes iddo ollwng y cyfenw) yn fab i ficer (Y Parch Emrys Edwards, a enillodd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maelor, 1961). Fe'i anwyd yn Llandudno. Bu'n brifathro [[Ysgol Brynaerau]] am nifer o flynyddoedd, gan wneud ei gartref yn Nhŷ'n y Maes, plwyf [[Llanwnda]] ger [[Dôl Meredydd]], [[Llandwrog]]. Mae o'n dal i fyw yn ardal Llandwrog. Ei wraig oedd yr awdures llyfrau plant, [[Gwenno Hywyn]] a fu farw 1992.
Mae '''John Hywyn''' (John Hywyn Edwards nes iddo ollwng y cyfenw) yn fab i ficer (Y Parch Emrys Edwards, a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maelor, 1961). Fe'i ganwyd yn Llandudno. Bu'n brifathro [[Ysgol Brynaerau]] am nifer o flynyddoedd, gan wneud ei gartref yn Nhŷ'n y Maes, plwyf [[Llanwnda]] ger [[Dôl Meredydd]], [[Llandwrog]]. Mae'n dal i fyw yn ardal Llandwrog. Ei wraig oedd yr awdures llyfrau plant, [[Gwenno Hywyn]] a fu farw ym 1992.


Mae John Hywyn yn fardd llwyddiannus: enillodd coron Eisteddfod yr Urdd, Llanrwst, 1968 (pan yn byw ym Mynydd Llandygái) a choron Eisteddfod Môn, 1974, ymysg sawl wobr eisteddfodol arall. Mae'n feirniad poblogaidd a chraff mewn eisteddfodau.
Mae John Hywyn yn fardd llwyddiannus: enillodd goron Eisteddfod yr Urdd, Llanrwst, 1968 (pan yn byw ym Mynydd Llandygái) a choron Eisteddfod Môn, 1974, ymysg sawl gwobr eisteddfodol arall. Mae'n feirniad poblogaidd a chraff mewn eisteddfodau.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:03, 12 Chwefror 2022

John Hywyn yn cael ei goroni yn Eisteddfod Môn, Amlwch, 1964

Mae John Hywyn (John Hywyn Edwards nes iddo ollwng y cyfenw) yn fab i ficer (Y Parch Emrys Edwards, a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maelor, 1961). Fe'i ganwyd yn Llandudno. Bu'n brifathro Ysgol Brynaerau am nifer o flynyddoedd, gan wneud ei gartref yn Nhŷ'n y Maes, plwyf Llanwnda ger Dôl Meredydd, Llandwrog. Mae'n dal i fyw yn ardal Llandwrog. Ei wraig oedd yr awdures llyfrau plant, Gwenno Hywyn a fu farw ym 1992.

Mae John Hywyn yn fardd llwyddiannus: enillodd goron Eisteddfod yr Urdd, Llanrwst, 1968 (pan yn byw ym Mynydd Llandygái) a choron Eisteddfod Môn, 1974, ymysg sawl gwobr eisteddfodol arall. Mae'n feirniad poblogaidd a chraff mewn eisteddfodau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau