Pont Weddus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Pont Weddys i Pont Weddus
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:58, 8 Gorffennaf 2019

Codwyd pont dros Afon Weddus ym mhlwyf Clynnog Fawr. Dichon mai "Pont Weddus" oedd ei henw.

Mae'n bosibl mai'r bont gyntaf i'w codi oedd yr un a wnaed yn newydd ym 1776-7 ar orchymyn y Llys Chwarter ar y ffordd dyrpeg. Pont un bwa, 21 ' ar draws oedd y bont honno. Yr adeiladwyr oedd Francis Roberts, Coch-y-big, Clynnog Fawr, iwmon; Meyrick Roberts, Brysgyni, Clynnog fawr, saer coed; a Robert Roberts, Clynnog Fawr, saer coed. Roeddent hefyd i godi bont dros Afon Llifon, Llandwrog]], sef Pont Plas Newydd, a chost y ddwy bont oedd £200 am y bont dros y Llifon a £100 am Pont Weddus|Bont Weddus.[1]

Mae peth ansicrwydd ynglŷn â pha afon neu nant oedd yr Afon Weddus, ond mae'n bur debyg mai'r afonig sy'n rhedeg trwy bentref Clynnog ar hyd ochr y tŷ capel, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Tŷ Coch. Dichon felly mai ger Tŷ Coch yw, neu oedd, Pont Weddus.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau


Archifdy Gwynedd, XPlansB/169

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/169
  2. Gwybodaeth ar lafar gan Marian Elias Roberts