Yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
Yr Eifl yw'r tri mynydd gosgeiddig sy'n ffurfio ffin ddeheuol cwmwd Uwchgwyrfai â chwmwd Dinllaen. Maent hefyd yn ffin rhwng cantref Arfon a chantref Llŷn. Ystyr yr enw yw dwy afl (dau fwlch) sydd i'w gweld rhwng y mynyddoedd. Yr enw unigol yw 'gafl' a'r lluosog yw 'gaflau'. Ond yn achos yr Eifl, defnyddir 'geifl' sef y gair deuol - gair am DDAU yn unig.  

==Garnfor==
==Garnfor==
'Garn' a 'môr' yw'r ddwy elfen geir yn yr enw hwn. Dywedwyd gan un llenor fod y mynydd hwn "â'i ben yn y cymylau a'i draed yn yr heli". Mae godre'r mynydd yn plymio'n glogwyn serth i'r môr fel Trwyn y Gorlech (ar fap) neu'r Fraich Las (ar lafar). Yr enw llafar ar Garnfor yw Mynydd Gwaith, oherwydd mai ar lethrau gogleddol y mynydd mae Chwarel yr Eifl, chwarel ithfaen fwya'r byd yn ei hanterth. Agorwyd y chwarel gyntaf yn y 1840au ar Graig y Farchas, yn sawdl y mynydd. Chwarel dwy bonc yn unig oedd hon.
'Garn' a 'môr' yw'r ddwy elfen geir yn yr enw hwn. Dywedwyd gan un llenor fod y mynydd hwn "â'i ben yn y cymylau a'i draed yn yr heli". Mae godre'r mynydd yn plymio'n glogwyn serth i'r môr fel Trwyn y Gorlech (ar fap) neu'r Fraich Las (ar lafar). Yr enw llafar ar Garnfor yw [[Mynydd Gwaith]], oherwydd mai ar lethrau gogleddol y mynydd mae [[Chwarel yr Eifl]], chwarel ithfaen fwya'r byd yn ei hanterth. Agorwyd y chwarel gyntaf yn y 1840au ar Graig y Farchas, yn sawdl y mynydd. Chwarel dwy bonc yn unig oedd hon.

==Garn Ganol==
==Garn Ganol==
Hwn yw'r uchaf o'r tri chopa, yn mesur uchder o 561 metr (1841 troedfedd). Enwau eraill arno yw Marchog a Mynydd Canol. Ar ei ochr ogleddol gwelir braich yn ymestyn o wyneb y mynydd - Braich y Cwm. Enw arall arni yw Trwyn Brân. Ond, meddir, pig sydd gan frân ac nid trwyn! Y dehongliad cywir yw mai cyfeiriad ydi hwn at Bendigeidfran, cawr y Mabinogi, neu Brân fel y'i gelwid, a bod y Fraich yn edrych fel trwyn y cawr yn torri'r ewyn wrth gerdded am Harlech trwy Fôr Iwerddon. Saif yr Eifl ar gyrion bro'r Mabinogi (yn bennaf ym mhlwyfi Clynnog, Llandwrog a Llanllyfni), a 'rhywle' ym mhlygion y mynydd mae Ogof yr Ellyllon o ble y cipiwyd y memrwn pwysig gan Cilmyn Droed-ddu. Gelwir y nant sy'n llifo o Graig y Cwm i Afon Tâl yn Nant Cilmyn, a dywedir fod ôl troed Cilmyn i'w weld ar wely'r nant nid nepell o furddun Nant-y-cwm. Ceir yr hanes yn y bennod 'Cipio Cyfoeth' yn llyfr 'Ellyll Hyll a Ballu' gan Mary Hughes, ac a gyhoeddwyd gan Wasg yr Utgorn (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr) yn Hydref 2008 (tt.1-12).
Hwn yw'r uchaf o'r tri chopa, yn mesur uchder o 561 metr (1841 troedfedd). Enwau eraill arno yw Marchog a Mynydd Canol. Ar ei ochr ogleddol gwelir braich yn ymestyn o wyneb y mynydd - Braich y Cwm. Enw arall arni yw Trwyn Brân. Ond, meddir, pig sydd gan frân ac nid trwyn! Y dehongliad cywir yw mai cyfeiriad ydi hwn at [[Bendigeidfran]], cawr [[Y Mabinogi]], neu Brân fel y'i gelwid, a bod y Fraich yn edrych fel trwyn y cawr yn torri'r ewyn wrth gerdded am Harlech trwy Fôr Iwerddon. Saif yr Eifl ar gyrion bro'r Mabinogi (yn bennaf ym mhlwyfi [[Clynnog Fawr]], [[Llandwro]] a [[Llanllyfni]]), a 'rhywle' ym mhlygion y mynydd mae Ogof yr Ellyllon o ble y cipiwyd y memrwn pwysig gan [[Cilmyn Droed-ddu]]. Gelwir y nant sy'n llifo o Graig y Cwm i [[Afon Tâl]] yn [[Nant Cilmyn]], a dywedir fod ôl troed Cilmyn i'w weld ar wely'r nant nid nepell o furddun Nant-y-cwm. Ceir yr hanes yn y bennod 'Cipio Cyfoeth' yn llyfr 'Ellyll Hyll a Ballu' gan Mary Hughes, ac a gyhoeddwyd gan Wasg yr Utgorn (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr) yn Hydref 2008 (tt.1-12).

==Ceiri==
==Ceiri==
Llinell 13: Llinell 13:
{{eginyn}}
{{eginyn}}

[[categori:daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Chwedlau]]

Fersiwn yn ôl 09:32, 3 Gorffennaf 2019

Mynyddoedd Yr Eifl yw'r ffin ddeheuol Cwmwd Uwchgwyrfai. Mae enwau unigol a nodweddion arbennig i'r tri mynydd:

Yr Eifl

Yr Eifl yw'r tri mynydd gosgeiddig sy'n ffurfio ffin ddeheuol cwmwd Uwchgwyrfai â chwmwd Dinllaen. Maent hefyd yn ffin rhwng cantref Arfon a chantref Llŷn. Ystyr yr enw yw dwy afl (dau fwlch) sydd i'w gweld rhwng y mynyddoedd. Yr enw unigol yw 'gafl' a'r lluosog yw 'gaflau'. Ond yn achos yr Eifl, defnyddir 'geifl' sef y gair deuol - gair am DDAU yn unig.

Garnfor

'Garn' a 'môr' yw'r ddwy elfen geir yn yr enw hwn. Dywedwyd gan un llenor fod y mynydd hwn "â'i ben yn y cymylau a'i draed yn yr heli". Mae godre'r mynydd yn plymio'n glogwyn serth i'r môr fel Trwyn y Gorlech (ar fap) neu'r Fraich Las (ar lafar). Yr enw llafar ar Garnfor yw Mynydd Gwaith, oherwydd mai ar lethrau gogleddol y mynydd mae Chwarel yr Eifl, chwarel ithfaen fwya'r byd yn ei hanterth. Agorwyd y chwarel gyntaf yn y 1840au ar Graig y Farchas, yn sawdl y mynydd. Chwarel dwy bonc yn unig oedd hon.

Garn Ganol

Hwn yw'r uchaf o'r tri chopa, yn mesur uchder o 561 metr (1841 troedfedd). Enwau eraill arno yw Marchog a Mynydd Canol. Ar ei ochr ogleddol gwelir braich yn ymestyn o wyneb y mynydd - Braich y Cwm. Enw arall arni yw Trwyn Brân. Ond, meddir, pig sydd gan frân ac nid trwyn! Y dehongliad cywir yw mai cyfeiriad ydi hwn at Bendigeidfran, cawr Y Mabinogi, neu Brân fel y'i gelwid, a bod y Fraich yn edrych fel trwyn y cawr yn torri'r ewyn wrth gerdded am Harlech trwy Fôr Iwerddon. Saif yr Eifl ar gyrion bro'r Mabinogi (yn bennaf ym mhlwyfi Clynnog Fawr, Llandwro a Llanllyfni), a 'rhywle' ym mhlygion y mynydd mae Ogof yr Ellyllon o ble y cipiwyd y memrwn pwysig gan Cilmyn Droed-ddu. Gelwir y nant sy'n llifo o Graig y Cwm i Afon Tâl yn Nant Cilmyn, a dywedir fod ôl troed Cilmyn i'w weld ar wely'r nant nid nepell o furddun Nant-y-cwm. Ceir yr hanes yn y bennod 'Cipio Cyfoeth' yn llyfr 'Ellyll Hyll a Ballu' gan Mary Hughes, ac a gyhoeddwyd gan Wasg yr Utgorn (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr) yn Hydref 2008 (tt.1-12).

Ceiri

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma