Ynadon Heddwch Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:

==Llysoedd yr Ynadon==
==Llysoedd yr Ynadon==
O 1541 ymlaen, hyd 1973, arferai ynadon y sir (neu'n hytrach y rhai ohonynt a oedd yn byw'n weddol leol ac yn cymryd eu dyletswyddau o ddifrif) gwrdd bedair gwaith y flwyddyn yn Llys y Sesiwn Chwarter, a gynhelid fel arfer yng Nghaernarfon (ond yn ystod y 16g, weithiau yng Nghonwy). Yno y trafodwyd materion sirol a deliwyd gyda throseddwyr a oedd wedi eu hanfon at y llys gan ynadon yn gweithredu'n unigol. Os oedd angen nifer o dystion lleol mewn ardal ymhell o Gaernarfon, neu os oedd y llys wedi methu â chwblhau ei fusnes ar y diwrnod, cynhelid sesiynau gohiriedig mewn mannau ar draws y sir. Mae hanes o lysoedd gohiriedig yn cael eu cynnal, er enghraifft, ym [[Betws Gwernrhiw|Metws Gwernrhiw]] yn [[LLandwrog]] yn y 17g.
O 1541 ymlaen, hyd 1973, arferai ynadon y sir (neu'n hytrach y rhai ohonynt a oedd yn byw'n weddol leol ac yn cymryd eu dyletswyddau o ddifrif) gwrdd bedair gwaith y flwyddyn yn Llys y Sesiwn Chwarter, a gynhelid fel arfer yng Nghaernarfon (ond yn ystod y 16g, weithiau yng Nghonwy). Yno y trafodwyd materion sirol a deliwyd gyda throseddwyr a oedd wedi eu hanfon at y llys gan ynadon yn gweithredu'n unigol. Os oedd angen nifer o dystion lleol mewn ardal ymhell o Gaernarfon, neu os oedd y llys wedi methu â chwblhau ei fusnes ar y diwrnod, cynhelid sesiynau gohiriedig mewn mannau ar draws y sir. Mae hanes o lysoedd gohiriedig yn cael eu cynnal, er enghraifft, ym [[Betws Gwernrhiw|Metws Gwernrhiw]] yn [[Llandwrog]] yn y 17g.

Tan ganol y 19g, nid oedd sesiynau lleol lle cwrddai ynadon ardal fel arfer, a gweithredodd ynad yn ol ei ddoethineb, gan rwymo torwyr yr heddwch i ymddwyn yn heddychlon a thraddodi drwgweithredwyr gwaeth (megis terfysgwyr, lladron a'u tebyg) i sefyll eu prawf yn y llys chwarter. Gallai ynad gymryd datganiadau gan dystion neu achwynwyr, cyhoeddi gwarantau arestio a weithredid gan gwnstabaliaid lleol, ac wedyn cynnal croesholiadau y rhai a gyhuddwyd. Nid yw'n glir, fodd bynnag, i ba raddau y defnyddid y pŵer i garcharu neu ddirwyo drwgweithredwyr y tua llan i lys ffurfiol. Dylid cymryd hanesion y sgweier ac ynad lleol yn cosbi potswyr (er enghraifft) gyda phinsiad o halen mae'n debyg.

Fersiwn yn ôl 14:25, 20 Mehefin 2019

Penodwyd ynadon heddwch yng Nghymru am y tro cyntaf yn unol â'r Ddeddf Uno (1536), ac yn Sir Gaernarfon mae'n debyg i'r rhai cyntaf gael eu penodi erbyn 1541 os nad yn gynt.

Hanes Cyffredinol

Roedd y swydd yn Lloegr wedi ei sefydlu dan Ddeddf Ynadon heddwch 1361. Ni ddylid gwneud y camgymeriad, fodd bynnag, nad oedd system hollol drefnus ac effeithiol o gadw trefn cyn hynny, dan y Tywysogion ac wedyn dan reolaeth y Saeson, 1282-1536. Mae'r swydd o ynad yn parhau hyd heddiw, ond cafwyd newidiadau mawr yng nghanol y 19g pan sefydlwyd y Llys Bach (neu Llys yr Heddlu neu Sesiwn Fach) ac wedyn ym 1973, pan sefydlwyd Llys y Goron yn lle'r Llys Chwarter, lle eisteddai ynadon y sir i gyd dan gadeiryddiaeth barnwr profiadol.

Yn ystod cyfnod y teulu Tudur ar orsaf Lloegr (1485-1603) rhoddwyd mwy a mwy o ddyletswyddau ar ysgwyddau'r ynadon fel nad oeddynt yn cadw trefn yn erbyn troseddwyr yn unig, ond yn fwyfwy'n dod yn reolwyr y siroedd, gyda llawer o ddyletswyddau sifil, megis trwyddedu tafarndai, ysgwyddo cyfrifoldebau am bontydd cyhoeddus, goruchwylio cynnal y tlodion, sicrhau pwysau a mesurau teg, trwyddedu porthmyn a hyd yn oed, yng nghyfnod Oliver Cromwell, gweinyddu priodasau a gorfodu deddfau cadw'r Saboth.

Ceir manylion llawn am hanes a dyletswyddau'r ynadon mewn llyfrau cyffredinol.[1]

Llysoedd yr Ynadon

O 1541 ymlaen, hyd 1973, arferai ynadon y sir (neu'n hytrach y rhai ohonynt a oedd yn byw'n weddol leol ac yn cymryd eu dyletswyddau o ddifrif) gwrdd bedair gwaith y flwyddyn yn Llys y Sesiwn Chwarter, a gynhelid fel arfer yng Nghaernarfon (ond yn ystod y 16g, weithiau yng Nghonwy). Yno y trafodwyd materion sirol a deliwyd gyda throseddwyr a oedd wedi eu hanfon at y llys gan ynadon yn gweithredu'n unigol. Os oedd angen nifer o dystion lleol mewn ardal ymhell o Gaernarfon, neu os oedd y llys wedi methu â chwblhau ei fusnes ar y diwrnod, cynhelid sesiynau gohiriedig mewn mannau ar draws y sir. Mae hanes o lysoedd gohiriedig yn cael eu cynnal, er enghraifft, ym Metws Gwernrhiw yn Llandwrog yn y 17g.

Tan ganol y 19g, nid oedd sesiynau lleol lle cwrddai ynadon ardal fel arfer, a gweithredodd ynad yn ol ei ddoethineb, gan rwymo torwyr yr heddwch i ymddwyn yn heddychlon a thraddodi drwgweithredwyr gwaeth (megis terfysgwyr, lladron a'u tebyg) i sefyll eu prawf yn y llys chwarter. Gallai ynad gymryd datganiadau gan dystion neu achwynwyr, cyhoeddi gwarantau arestio a weithredid gan gwnstabaliaid lleol, ac wedyn cynnal croesholiadau y rhai a gyhuddwyd. Nid yw'n glir, fodd bynnag, i ba raddau y defnyddid y pŵer i garcharu neu ddirwyo drwgweithredwyr y tua llan i lys ffurfiol. Dylid cymryd hanesion y sgweier ac ynad lleol yn cosbi potswyr (er enghraifft) gyda phinsiad o halen mae'n debyg.

Ynadon Uwchgwyrfai

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Syr Thomas Skyrme, Justices of the Peace (Chichester, 1991), ac yn arbennig Cyfrol III lle ceir hanes manwl ynadon Cymru; ac F.T. Giles, The Magistrates Courts, (Pelican, 1949).