Ysgol Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Ysgol Gynradd y Groeslon i Ysgol y Groeslon
B Symudodd Heulfryn y dudalen Ysgol y Groeslon i Ysgol Y Groeslon heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:55, 21 Mai 2019

Yn y lle cyntaf, ysgol i fabanod yn unig oedd Ysgol Gynradd y Groeslon, ym mhentref Y Groeslon. Fe'i hagorwyd rhwng y ddau ryfel byd, ac wedyn nid oedd angen i'r plant lleiaf dringo'r allt i Ysgol Penfforddelen hanner milltir i ffwrdd ar lôn Carmel nes iddynt fod yn saith oed. Ar ôl cau Ysgol Penfforddelen (pan drowyd ysgolion uwchradd Pen-y-groes yn ysgol gyfun) codwyd adeiladau ychwanegol a'i throi'n ysgol 5-11 oed. Tua 2012, fodd bynnag, penderfynwyd nad oedd yr adeiladau newydd (a godwyd o ddarnau a wnaed mewn ffatri i raddau helaeth) yn dal mewn cyflwr digonol i ganiatáu eu hatgyweirio. Bu pwysau hefyd o gyfeiriad Llywodraeth Cymru i gyfuno ysgolion bach ar un safle ac yn 2015 unwyd yr ysgol gynradd gyda Ysgol Gynradd Bron-y-Foel, ac Ysgol Gynradd Carmel i greu Ysgol Gynradd Bro Llifon mewn ysgol newydd ar safle Ysgol y Groeslon. fe'i hadeiladwyd i'r safonau gorau a diweddaraf. Fodd bynnag, arhosai'r hen adeilad oedd yn wreidiol yn ysgol babanod yn ddigon cadarn ac fe'i hymgorfforwyd yn yr adeilad newydd.[1].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma