Plas Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Plas Newydd''' ym mhlwyf [[Llandwrog]] yn sefyll y tu fewn i [[Wal Glynllifon]] ers i honno gael ei chodi tua 1840, ond am hir bu'n blas teulu oedd yn perthyn i [[Teulu Glynn (Glynllifon)|Glynniaid Glynllifon]] ond heb fod yn cyd-fynd â hwy: er enghraifft, ceid cefnogwyr y Senedd yng Nglynllifon ond cefnogwyr pybyr i Frenin Lloegr yn trigo ym Mhlas Newydd yn ystod Rhyfel y Pleidiau Seisnig, 1642-8 a chyfnod y Gymanwlad, 1649-60.
Mae '''Plas Newydd''' ym mhlwyf [[Llandwrog]] yn sefyll y tu fewn i [[Wal Glynllifon]] ers i honno gael ei chodi tua 1840, ond am hir bu'n blas teulu oedd yn perthyn i [[Teulu Glynn (Glynllifon)|Glynniaid Glynllifon]] ond heb fod yn cyd-fynd â hwy: er enghraifft, ceid cefnogwyr y Senedd yng Nglynllifon ond cefnogwyr pybyr i Frenin Lloegr yn trigo ym Mhlas Newydd yn ystod Rhyfel y Pleidiau Seisnig, 1642-8 a chyfnod y Gymanwlad, 1649-60. Cangen o deulu'r Glynniaid oedd [[Teulu Glynn (Plas Newydd)|teulu Plas Newydd]] a symudodd o'u cartref cyntaf yn [[Nantlle]]. Bu farw'r etifedd olaf cyn diwedd y 17g.


Yn fwy diweddar, ar ôl chwalfa'r rhan fwyaf o [[Ystad Glynllifon]] trwy werthiannau yn ystod ail hanner y 20g, bu'r plas yn ei dro'n gartref i deulu a gadwai adar ysglyfeithus yn rhan o'r adeilad wrth redeg parc anifeiliaid gwylltion; ac yn gartref i'r Dr Dai Roberts, meddyg wedi'i ymddeol, o Nefyn yn wreiddiol, a'i wraig Dr Sheila Roberts, arbenigwraig ar erddi Glynllifon. Mae'n parhau'n dŷ preifat heb fynediad cyhoeddus ato.
Yn fwy diweddar, ar ôl chwalfa'r rhan fwyaf o [[Ystad Glynllifon]] trwy werthiannau yn ystod ail hanner y 20g, bu'r plas yn ei dro'n gartref i deulu a gadwai adar ysglyfeithus yn rhan o'r adeilad wrth redeg parc anifeiliaid gwylltion; ac yn gartref i'r Dr Dai Roberts, meddyg wedi'i ymddeol, o Nefyn yn wreiddiol, a'i wraig Dr Sheila Roberts, arbenigwraig ar erddi Glynllifon. Mae'n parhau'n dŷ preifat heb fynediad cyhoeddus ato.

Fersiwn yn ôl 20:35, 17 Mai 2019

Mae Plas Newydd ym mhlwyf Llandwrog yn sefyll y tu fewn i Wal Glynllifon ers i honno gael ei chodi tua 1840, ond am hir bu'n blas teulu oedd yn perthyn i Glynniaid Glynllifon ond heb fod yn cyd-fynd â hwy: er enghraifft, ceid cefnogwyr y Senedd yng Nglynllifon ond cefnogwyr pybyr i Frenin Lloegr yn trigo ym Mhlas Newydd yn ystod Rhyfel y Pleidiau Seisnig, 1642-8 a chyfnod y Gymanwlad, 1649-60. Cangen o deulu'r Glynniaid oedd teulu Plas Newydd a symudodd o'u cartref cyntaf yn Nantlle. Bu farw'r etifedd olaf cyn diwedd y 17g.

Yn fwy diweddar, ar ôl chwalfa'r rhan fwyaf o Ystad Glynllifon trwy werthiannau yn ystod ail hanner y 20g, bu'r plas yn ei dro'n gartref i deulu a gadwai adar ysglyfeithus yn rhan o'r adeilad wrth redeg parc anifeiliaid gwylltion; ac yn gartref i'r Dr Dai Roberts, meddyg wedi'i ymddeol, o Nefyn yn wreiddiol, a'i wraig Dr Sheila Roberts, arbenigwraig ar erddi Glynllifon. Mae'n parhau'n dŷ preifat heb fynediad cyhoeddus ato.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau