W.R. Ambrose: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd y Parch. [[William Robert Ambrose]] (1832-1878) yn weinidog y Bedyddwyr ym mhentref [[Tal-y-sarn]]. Fe'i anwyd ym Mryncroes yn fab i'r Parch. Robert Ambrose. Roedd yn gefnder i'r bardd William Ambrose (Emrys).
Yr oedd y Parch. '''William Robert Ambrose''' (1832-1878) yn weinidog y Bedyddwyr ym mhentref [[Tal-y-sarn]]. Fe'i anwyd ym Mryncroes yn fab i'r Parch. Robert Ambrose. Roedd yn gefnder i'r bardd William Ambrose (Emrys).

Fe'i hyfforddiwyd yn deiliwr - sef crefft y teulu (roedd Emrys hefyd yn ddilledydd). Bu'n gweithio yng Nghaernarfon, Lerpwl, Bangor a Phorthmadog, cyn symud fel teiliwr i Dal-y-sarn. Cafod ei fedyddio a dechreuodd pregethu ym 1856 tra'n byw ym Mangor. Tua diwedd ei oes, fe'i dderbyniwyd galwad i fod yn weinidog cyflogedig ar [[Capel Bedyddwyr Tal-y-sarn]] a sefydlwyd ym 1862. Roedd ganddo enw o fod yn bregethwr go drwm, ac mae ei waith ysgrifenedig, yn ryddiaeth ac yn farddoniaeth, yn tueddu i gadarnhau hynny.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.7</ref>

Fersiwn yn ôl 18:57, 17 Mai 2019

Yr oedd y Parch. William Robert Ambrose (1832-1878) yn weinidog y Bedyddwyr ym mhentref Tal-y-sarn. Fe'i anwyd ym Mryncroes yn fab i'r Parch. Robert Ambrose. Roedd yn gefnder i'r bardd William Ambrose (Emrys).

Fe'i hyfforddiwyd yn deiliwr - sef crefft y teulu (roedd Emrys hefyd yn ddilledydd). Bu'n gweithio yng Nghaernarfon, Lerpwl, Bangor a Phorthmadog, cyn symud fel teiliwr i Dal-y-sarn. Cafod ei fedyddio a dechreuodd pregethu ym 1856 tra'n byw ym Mangor. Tua diwedd ei oes, fe'i dderbyniwyd galwad i fod yn weinidog cyflogedig ar Capel Bedyddwyr Tal-y-sarn a sefydlwyd ym 1862. Roedd ganddo enw o fod yn bregethwr go drwm, ac mae ei waith ysgrifenedig, yn ryddiaeth ac yn farddoniaeth, yn tueddu i gadarnhau hynny.[1]

Enillodd gystadleuaeth yn Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes, Llun y Pasg 1871, gyda'i draethawd hir Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle, pan ddefnyddiodd y ffugenw Maeldaf Hen. Fe'i gyhoeddwyd y flwyddyn ganlynol gan argraffydd lleol, Griffith Lewis. Mae'n un o'r llyfrau cyntaf i ymdrin â hanes Dyffryn Nantlle ac mae'n llawn o straeon a ffeithiau tra buddiol a diddorol.

Oherwydd ei werth parhaol, ailgyhoeddwyd y llyfr gan Gangen Dyffryn Nantlle o Fudiad Adfer ym 1985.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.7