Martha'r Mynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Martha'r Mynydd''' yn un o gymeriadau [[Dyffryn Nantlle]], a [[Mynydd Llanllyfni]] yn benodol. Dichon iddi fod naill ai'n dwyllwraig o fri neu'n ysbrydolegydd a welai weledigaethau, yn ddibynnol ar hygrededd y sawl sydd yn clywed ei hanes. | Roedd '''Martha'r Mynydd''' yn un o gymeriadau [[Dyffryn Nantlle]], a [[Mynydd Llanllyfni]] yn benodol. Bu fyw oddeutu 1770. Dichon iddi fod naill ai'n dwyllwraig o fri neu'n ysbrydolegydd a welai weledigaethau, yn ddibynnol ar hygrededd y sawl sydd yn clywed ei hanes. | ||
ae hanes Martha yn llyfr W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle"<ref>:W.R. Ambrose, Nant Nantlle, (Pen-y-groes, 1872), tt.60-1. Diweddarwyd peth ar yr orgraff.</ref> | ae hanes Martha yn llyfr W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle"<ref>:W.R. Ambrose, Nant Nantlle, (Pen-y-groes, 1872), tt.60-1. Diweddarwyd peth ar yr orgraff.</ref> | ||
Ychydig gyda chan mlynedd yn ôl (sef oddeutu 1750), yr oedd yn byw mewn bwthyn distadl ar fynydd Llanllyfni, wraig a elwid yn gyffredin Martha'r Mynydd, yr hon a wnaeth lawer o sôn amdani dros amser. Yr oedd y wraig hon wedi llwyddo i gael gan luaws o ddynionach ofergoelus y dyddiau hynny i gredu ei bod hi yn derbyn ymweliadau dieithr yn ei thŷ oddi wrth ryw fodau dieithr a alwai yr Anweledigion. Haerai fod yr Anweledigion yn dylwyth cyfoethog, yn ymgymysgu â phobl eraill yn y marchnadoedd, y ffeiriau, a'r lleoedd cyhoeddus ; ond bob amser yn anweledig i bawb ond y rhai a ymroddent i fod yn ddeilliaid o'u cymdeithas. Yr oedd Martha, gan ei bod yn wraig ymadroddus, wedi cael gan luaws gredu fod boneddwr cyfoethog o gyfundeb yr Anwel¬edigion yn byw gyda'i ferch ar y mynydd yn agos i dŷ Martha, a'u henw oedd Mr. a Miss Ingram. Ymgasglai nifer mawr o bobl, o bell ffordd gan mwyaf, i dŷ Martha i gadw math o gyfarfodydd yn y nos, wrth tân marwor, (canys ni allai yr anweledigion oddef goleuni), a byddai y gŵr bonheddig yn dyfod ac yn pregethu iddynt. Weithiau hefyd deuai Miss Ingram, wedi ymwisgo â gwisg wen hyd ei thraed i bregethu, a dywedir fod un amaethwr o Fôn wedi ei lygad-dynu i'r fath raddau gan y grefydd newydd hon, a chan obeithio hefyd, trwy gyfrwngwriaeth Martha, y rhoddid Miss Ingram yn wraig iddo, fel y cariodd ei holl eiddo i Martha i fynydd Llanllyfni. | Ychydig gyda chan mlynedd yn ôl (sef oddeutu 1750), yr oedd yn byw mewn bwthyn distadl ar fynydd Llanllyfni, wraig a elwid yn gyffredin Martha'r Mynydd, yr hon a wnaeth lawer o sôn amdani dros amser. Yr oedd y wraig hon wedi llwyddo i gael gan luaws o ddynionach ofergoelus y dyddiau hynny i gredu ei bod hi yn derbyn ymweliadau dieithr yn ei thŷ oddi wrth ryw fodau dieithr a alwai yr Anweledigion. Haerai fod yr Anweledigion yn dylwyth cyfoethog, yn ymgymysgu â phobl eraill yn y marchnadoedd, y ffeiriau, a'r lleoedd cyhoeddus ; ond bob amser yn anweledig i bawb ond y rhai a ymroddent i fod yn ddeilliaid o'u cymdeithas. Yr oedd Martha, gan ei bod yn wraig ymadroddus, wedi cael gan luaws gredu fod boneddwr cyfoethog o gyfundeb yr Anwel¬edigion yn byw gyda'i ferch ar y mynydd yn agos i dŷ Martha, a'u henw oedd Mr. a Miss Ingram. Ymgasglai nifer mawr o bobl, o bell ffordd gan mwyaf, i dŷ Martha i gadw math o gyfarfodydd yn y nos, wrth tân marwor, (canys ni allai yr anweledigion oddef goleuni), a byddai y gŵr bonheddig yn dyfod ac yn pregethu iddynt. Weithiau hefyd deuai Miss Ingram, wedi ymwisgo â gwisg wen hyd ei thraed i bregethu, a dywedir fod un amaethwr o Fôn wedi ei lygad-dynu i'r fath raddau gan y grefydd newydd hon, a chan obeithio hefyd, trwy gyfrwngwriaeth Martha, y rhoddid Miss Ingram yn wraig iddo, fel y cariodd ei holl eiddo i Martha i fynydd Llanllyfni. | ||
Yr oedd yn arfer mynychu y cyfarfodydd hyn walch cyfrwysddrwg a adwaenid wrth yr enw Guto-wir-gast. Yr oedd Guto wedi amau mai twyll oedd y cwbl a honnai Martha, a phenderfynodd fynnu cyfle i wneud prawf. Sylwodd fod Martha wedi llosgi ei throed ; ac un noswaith yn lled fuan ar ôl i'r anffawd ddigwydd yr oedd Miss Ingram yn pregethu, a chafodd Guto gyfle i sathru y troed llosgedig, yr hyn a barodd i Martha lefain allan. Ar hynny gwaeddai Guto, " Bobol anwyl, ein twyllo yn hollol ydym yn ei gael, mi wnaf lw mai Martha yw hon!" Ond cymaint oedd cred y gwyddfodolion yn y grefydd newydd, fel y bwriasant Guto allan o'r gwasanaeth fel terfysgwr! | Yr oedd yn arfer mynychu y cyfarfodydd hyn walch cyfrwysddrwg a adwaenid wrth yr enw Guto-wir-gast. Yr oedd Guto wedi amau mai twyll oedd y cwbl a honnai Martha, a phenderfynodd fynnu cyfle i wneud prawf. Sylwodd fod Martha wedi llosgi ei throed ; ac un noswaith yn lled fuan ar ôl i'r anffawd ddigwydd yr oedd Miss Ingram yn pregethu, a chafodd Guto gyfle i sathru y troed llosgedig, yr hyn a barodd i Martha lefain allan. Ar hynny gwaeddai Guto, " Bobol anwyl, ein twyllo yn hollol ydym yn ei gael, mi wnaf lw mai Martha yw hon!" Ond cymaint oedd cred y gwyddfodolion yn y grefydd newydd, fel y bwriasant Guto allan o'r gwasanaeth fel terfysgwr! | ||
Yn fuan ar ôl y darganfyddiad yma, modd bynnag, fe aeth y grefydd newydd i warth, a'i ddisgyblion a wasgarwyd, ac y mae yn briodol i ni ychwanegu, i Martha ar ôl hyn edifarhau a chyfaddef ei holl dwyll, a diweddodd ei hoes yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid, yn Llanllyfni. Teifl yr hanes yma radd o oleuni ar gyflwr tywyll ac ofer¬goelus y werin yn yr amser y cyfeiriwyd ato, sef cyn dechreuad Ysgolion Sabbothol, a moddion addysg yn y wlad. Cymerodd peth tebyg le yn Lloegr hefyd, pryd yr honnai gwraig o'r enw Johanna Southcott ei bod yn feichiog ar y Messiah, a cheid | Yn fuan ar ôl y darganfyddiad yma, modd bynnag, fe aeth y grefydd newydd i warth, a'i ddisgyblion a wasgarwyd, ac y mae yn briodol i ni ychwanegu, i Martha ar ôl hyn edifarhau a chyfaddef ei holl dwyll, a diweddodd ei hoes yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid, yn Llanllyfni. Teifl yr hanes yma radd o oleuni ar gyflwr tywyll ac ofer¬goelus y werin yn yr amser y cyfeiriwyd ato, sef cyn dechreuad Ysgolion Sabbothol, a moddion addysg yn y wlad. Cymerodd peth tebyg le yn Lloegr hefyd, pryd yr honnai gwraig o'r enw Johanna Southcott ei bod yn feichiog ar y Messiah, a cheid lliaws mawr a gredent hefyd i'r cabledd a'r ynfydrwydd hwnnw! | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 13:43, 17 Mai 2019
Roedd Martha'r Mynydd yn un o gymeriadau Dyffryn Nantlle, a Mynydd Llanllyfni yn benodol. Bu fyw oddeutu 1770. Dichon iddi fod naill ai'n dwyllwraig o fri neu'n ysbrydolegydd a welai weledigaethau, yn ddibynnol ar hygrededd y sawl sydd yn clywed ei hanes.
ae hanes Martha yn llyfr W.R. Ambrose, Nant Nantlle"[1]
Ychydig gyda chan mlynedd yn ôl (sef oddeutu 1750), yr oedd yn byw mewn bwthyn distadl ar fynydd Llanllyfni, wraig a elwid yn gyffredin Martha'r Mynydd, yr hon a wnaeth lawer o sôn amdani dros amser. Yr oedd y wraig hon wedi llwyddo i gael gan luaws o ddynionach ofergoelus y dyddiau hynny i gredu ei bod hi yn derbyn ymweliadau dieithr yn ei thŷ oddi wrth ryw fodau dieithr a alwai yr Anweledigion. Haerai fod yr Anweledigion yn dylwyth cyfoethog, yn ymgymysgu â phobl eraill yn y marchnadoedd, y ffeiriau, a'r lleoedd cyhoeddus ; ond bob amser yn anweledig i bawb ond y rhai a ymroddent i fod yn ddeilliaid o'u cymdeithas. Yr oedd Martha, gan ei bod yn wraig ymadroddus, wedi cael gan luaws gredu fod boneddwr cyfoethog o gyfundeb yr Anwel¬edigion yn byw gyda'i ferch ar y mynydd yn agos i dŷ Martha, a'u henw oedd Mr. a Miss Ingram. Ymgasglai nifer mawr o bobl, o bell ffordd gan mwyaf, i dŷ Martha i gadw math o gyfarfodydd yn y nos, wrth tân marwor, (canys ni allai yr anweledigion oddef goleuni), a byddai y gŵr bonheddig yn dyfod ac yn pregethu iddynt. Weithiau hefyd deuai Miss Ingram, wedi ymwisgo â gwisg wen hyd ei thraed i bregethu, a dywedir fod un amaethwr o Fôn wedi ei lygad-dynu i'r fath raddau gan y grefydd newydd hon, a chan obeithio hefyd, trwy gyfrwngwriaeth Martha, y rhoddid Miss Ingram yn wraig iddo, fel y cariodd ei holl eiddo i Martha i fynydd Llanllyfni. Yr oedd yn arfer mynychu y cyfarfodydd hyn walch cyfrwysddrwg a adwaenid wrth yr enw Guto-wir-gast. Yr oedd Guto wedi amau mai twyll oedd y cwbl a honnai Martha, a phenderfynodd fynnu cyfle i wneud prawf. Sylwodd fod Martha wedi llosgi ei throed ; ac un noswaith yn lled fuan ar ôl i'r anffawd ddigwydd yr oedd Miss Ingram yn pregethu, a chafodd Guto gyfle i sathru y troed llosgedig, yr hyn a barodd i Martha lefain allan. Ar hynny gwaeddai Guto, " Bobol anwyl, ein twyllo yn hollol ydym yn ei gael, mi wnaf lw mai Martha yw hon!" Ond cymaint oedd cred y gwyddfodolion yn y grefydd newydd, fel y bwriasant Guto allan o'r gwasanaeth fel terfysgwr! Yn fuan ar ôl y darganfyddiad yma, modd bynnag, fe aeth y grefydd newydd i warth, a'i ddisgyblion a wasgarwyd, ac y mae yn briodol i ni ychwanegu, i Martha ar ôl hyn edifarhau a chyfaddef ei holl dwyll, a diweddodd ei hoes yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid, yn Llanllyfni. Teifl yr hanes yma radd o oleuni ar gyflwr tywyll ac ofer¬goelus y werin yn yr amser y cyfeiriwyd ato, sef cyn dechreuad Ysgolion Sabbothol, a moddion addysg yn y wlad. Cymerodd peth tebyg le yn Lloegr hefyd, pryd yr honnai gwraig o'r enw Johanna Southcott ei bod yn feichiog ar y Messiah, a cheid lliaws mawr a gredent hefyd i'r cabledd a'r ynfydrwydd hwnnw!
Cyfeiriadau
- ↑ :W.R. Ambrose, Nant Nantlle, (Pen-y-groes, 1872), tt.60-1. Diweddarwyd peth ar yr orgraff.