Gelli-ffrydiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
Mae'n amlwg fod yr ardal wedi cael ei amaethu ers y cyfnod Rhufeinig, gan fod nifer o olion o gytiau hir a chrwn ar lethr y mynydd uwchben y Gelli.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), tt.193-4</ref>
Mae'n amlwg fod yr ardal wedi cael ei amaethu ers y cyfnod Rhufeinig, gan fod nifer o olion o gytiau hir a chrwn ar lethr y mynydd uwchben y Gelli.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), tt.193-4</ref>


Cysylltir y ffrem hefyd â chwedl am fachgen oedd yn was fferm yno, ac a gafodd ei swyno gan y Tylwyth Teg cyn gael ei achub gan ddyn hysbys.<ref>Glenda Carr, ''op.cit.'', t.165.</ref>
Cysylltir y fferm hefyd â chwedl am fachgen oedd yn was fferm yno, ac a gafodd ei swyno gan y Tylwyth Teg cyn gael ei achub gan ddyn hysbys.<ref>Glenda Carr, ''op.cit.'', t.165.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 11:15, 17 Mai 2019

Mae Gelli-ffrydiau (neu'n aml, Y Gelli) yn un o brif ffermydd Dyffryn Nantlle. Mae'r sefyll i'r gogledd o'r ffordd rhwng Nantlle a Rhyd-ddu ger ben uchaf Llyn Nantlle Uchaf; mae nifer o nentydd bach neu ffrydiau'n rhedeg dros dir y Gelli i'r llyn. Enwyd y tŷ tyrpeg ar ôl y fferm, sef Tyrpeg Gelli, a hefyd Pont y Gelli gerllaw. Saif yn awr yng nghymuned Llanllyfni ond hyd at ail hanner y 20g, bu'n rhan o blwyf Llandwrog.

Ganwyd Angharad James yn y Gelli-ffrydiau, 16 Gorffennaf 1677, yn ferch i James Davies ac Angharad Humphrey. Priododd dyn o Ddolwyddelan, ac yr oeddynt ymhen amser yn rhai o hynafiaid John Jones, Tal-y-sarn. Yn ddiweddarach, ym 1858, ganwyd William Hobley yno - dyn a aeth ymlaenm i fod yn weinidog Calfinaidd o bwys ac yn hanesydd ei enwad.[1]

Fferm ddefaid ydyw'n bennaf, ac yn y gorffennol bu'n ymestyn i 465 o aceri, pan osodwyd ar rent gan y perchnogion y pryd hynny, sef Ystâd Cinmel ger Abergele.[2] Achoswyd yr ail-osod gan fod Griffith Hughes, y tenant ar y pryd, yn ymadael. Mae nodyn fod arwerthiant ei holl stoc yn cynnwys y canlynol (gan ddyfynnu'r hysbyseb gwreiddiol):[3]

GWARTHEG: 10 o Fuchod Godro Cyfloion neu yn eu llawn broffit; Heffer 3 oed vn min dropio; 4 o Fustych Dwyflwydd Rhagorol; 6 o Heffrod Dwyflwydd; Tarw Dwyflwydd. 
CEFFYLAU: Caseg Wedd 5 oed, 15.3 o uchder, hwylus ym mhob gwaith; Caseg Wedd eto, 16 o uchder; Merlen 6 oed, 14.2 o uchder, hollol hwylus; Merlen Mynydd a'i Chyw; un eto yn codi'n ddwyflwydd. 
DEFAID: Tua 1200 o DDEFAID, sef holl gorlan, yn cynnwys Mamogiaid Cryfion at groesi, Myllt parod i'r cigydd, ac Ŵyn. Dymunir galw sylw arbennig at ragoroldeb y Defaid hyn. 
MOCH, Etc.: Hwch Dorrog.—Gwyddau, Fowls, Etc. 
OFFERYNAU: Engine Dorri Gwair; 18 o Feinciau Cneifio, Gwelleifiau, Clorian a Phwysau at bwyso gwlân, Corddwr, bron yn newydd, a Llestri Llaeth; Ger Bôn a Blaen, ynghyd â lluaws o bethau eraill rhy luosog i'w henwi. 

Mae'n amlwg fod yr ardal wedi cael ei amaethu ers y cyfnod Rhufeinig, gan fod nifer o olion o gytiau hir a chrwn ar lethr y mynydd uwchben y Gelli.[4]

Cysylltir y fferm hefyd â chwedl am fachgen oedd yn was fferm yno, ac a gafodd ei swyno gan y Tylwyth Teg cyn gael ei achub gan ddyn hysbys.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2012), tt.165-6.
  2. Yr Herald Cymraeg, 28 Medi 1909.
  3. Caernarvon & Denbigh herald, 24 Medi 1909
  4. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), tt.193-4
  5. Glenda Carr, op.cit., t.165.