Tafarn y Mount Pleasant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd tafarn y '''Mount Pleasant''' yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ger y drofa am [[Rhos-isaf|Ros-isaf]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Roedd yn adeilad hynod, a'r bar y tu fewn gyda ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn yn | Roedd tafarn y '''Mount Pleasant''' yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ger y drofa am [[Rhos-isaf|Ros-isaf]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Roedd yn adeilad hynod, a'r bar y tu fewn gyda ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn rywbryd ar ôl 1840<ref>Mae'r dafarn yn cael ei dangos yn ei hen leoliad ar y Map Degwm</ref> - cyn hynny, y dafarn oedd yr adeilad ar gornel y drofa i bentrefan [[Dinas]] a fu wedyn yn ficerdy'r plwyf - mae'r lloc neu ddarn pori anifeiliaid gyferbyn â'r adeilad hwnnw'n dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth. Ar y Map Degwm (1840), dangosir fod nifer o gaeau'n perthyn i'r dafarn, yn cynnwys yr un ar draws y ffordd i'r hen dafarn, a'r cae lle codwyd yr adeilad newydd ymhen amser. | ||
Yr oedd tafarnwr o'r enw William Williams yn cadw'r dafarn tua 1835-c.1854<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6564</ref> | Yr oedd y tafarnwr, dyn o'r enw William Williams, yn cadw'r dafarn tua 1835-c.1854<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6564</ref>. Roedd am ymestyn ei fusnes trwy rentu tai eraill a'u gosod fel tai tafarn yn yr ardal.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/18129, 18354</ref> | ||
Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring". | Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring". Mae'n debyg i'r dafarn gael ei defnyddio'n fynych fel canolfan i'r plwyf: er enghraifft, trefnwyd cyfarfodydd i gasglu'r arian degwm yno ym 1843.<ref>XD2/20308</ref> | ||
Caewyd y Mount Pleasant fel tafarn tua'r flwyddyn 2003 ac fe'i gwerthwyd i deulu a drôdd yr adeilad yn fwyty Bangali. Ail-ffurfiwyd tu mewn i'r adeilad gan y perchnogion newydd a chollwyd yr holl nodweddion hynafol. Caewyd y bwyty tua 2014, ac mae wedi ei ddymchwel. Disgwylir (2018) i'r safle gael ei ddefnyddio i godi tai. | Caewyd y Mount Pleasant fel tafarn tua'r flwyddyn 2003 ac fe'i gwerthwyd i deulu a drôdd yr adeilad yn fwyty Bangali. Ail-ffurfiwyd tu mewn i'r adeilad gan y perchnogion newydd a chollwyd yr holl nodweddion hynafol. Caewyd y bwyty tua 2014, ac mae wedi ei ddymchwel. Disgwylir (2018) i'r safle gael ei ddefnyddio i godi tai. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Tafarndai]] | [[Categori:Tafarndai]] | ||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | [[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] |
Fersiwn yn ôl 12:49, 10 Mai 2019
Roedd tafarn y Mount Pleasant yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ger y drofa am Ros-isaf ym mhlwyf Llanwnda. Roedd yn adeilad hynod, a'r bar y tu fewn gyda ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn rywbryd ar ôl 1840[1] - cyn hynny, y dafarn oedd yr adeilad ar gornel y drofa i bentrefan Dinas a fu wedyn yn ficerdy'r plwyf - mae'r lloc neu ddarn pori anifeiliaid gyferbyn â'r adeilad hwnnw'n dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth. Ar y Map Degwm (1840), dangosir fod nifer o gaeau'n perthyn i'r dafarn, yn cynnwys yr un ar draws y ffordd i'r hen dafarn, a'r cae lle codwyd yr adeilad newydd ymhen amser.
Yr oedd y tafarnwr, dyn o'r enw William Williams, yn cadw'r dafarn tua 1835-c.1854[2]. Roedd am ymestyn ei fusnes trwy rentu tai eraill a'u gosod fel tai tafarn yn yr ardal.[3]
Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring". Mae'n debyg i'r dafarn gael ei defnyddio'n fynych fel canolfan i'r plwyf: er enghraifft, trefnwyd cyfarfodydd i gasglu'r arian degwm yno ym 1843.[4]
Caewyd y Mount Pleasant fel tafarn tua'r flwyddyn 2003 ac fe'i gwerthwyd i deulu a drôdd yr adeilad yn fwyty Bangali. Ail-ffurfiwyd tu mewn i'r adeilad gan y perchnogion newydd a chollwyd yr holl nodweddion hynafol. Caewyd y bwyty tua 2014, ac mae wedi ei ddymchwel. Disgwylir (2018) i'r safle gael ei ddefnyddio i godi tai.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma