Pont Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Pont Newydd i Pont Newydd (Llanwnda) |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudwyd y dudalen Pont Newydd (Llanwnda) i Pont Newydd gan Heulfryn dros ddolen ailgyfeirio heb adael dolen ailgyfeirio newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 14:10, 5 Ebrill 2019
Pont Newydd yw enw'r bont a saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai rhwng hen derfynnau plwyfi Llanwnda a Llanbeblig. Mae'n croesi Afon Gwyrfai, yr ail bont ffordd o'r môr, a drosti rhêd y ffordd A487, sy'n arwain i Borthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a roddodd yr enw i'r pentref sy'n sefyll y ddau ben iddi, sef Y Bontnewydd. Mae'r enw yn cyfeirio at y bont flaenorol dros Afon Gwyrfai a oedd yno, mae'n debyg, yn gynnar yn y 17g pan godwyd Plas-y-bont gerllaw. Mae'r bont bresennol yn dyddio o 1840, ac fe'i gwnaed o'r newydd ar ôl dymchwel yr hen bont.
Roedd cost yr holl waith yn uchel ar y pryd, sef £454, oherwydd yr angen i chwalu'r hen bont, darparu ffordd newydd dros dro tra oedd y gwaith o adeiladu'n mynd rhagddo, cryfhau rhai tai cyfagos dros dro, a chwalu beudy o eiddo John Williams, cigydd. Lewis Williams, saer maen o Gaernarfon oedd y contractor. Ni aeth y gwaith rhagddo'n ddidrafferth a rhaid oedd i'r ynadon a syrfewr y sir ymholi ym 1841 i gamgymeriadau a arweiniodd ar ran o'r gwaith cychwynnol chwalu.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Archifdy Gwynedd, XPlansB/40