Pont Llwyn-y-gwalch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Pont Llwyn-y-gwalch''' yn sefyll ar draws Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog, ger plasty bychan o'r un enw. Mae'r hen lôn...'
 
B Symudodd Heulfryn y dudalen Pont Llwyn y Gwalch i Pont Llwyn-y-gwalch heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:28, 5 Ebrill 2019

Mae Pont Llwyn-y-gwalch yn sefyll ar draws Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog, ger plasty bychan o'r un enw. Mae'r hen lôn dyrpeg (yr hen A487) yn croesi'r bont.

Fe ail-adeiladwyd y bont ym 1839-40 ar gost o £105 gan Lewis Williams, saer maen o Gaernarfon. ailddyluniwyd y bont gan John Lloyd, syrfewr y sir. Gostyngwyd lefel yr afon o ddwy droedfedd, a chreu bwa sengl.[1]

Fe'i gryfhawyd pan ddad-drynceiddiwyd y lôn tua 2000.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansB/50
  2. Gwybodaeth bersonol