Isaac Harries: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Llyfr Isaac Harries .png|bawd|de|500px|Holiedydd Efengylaidd Isaac Harries]] | [[Delwedd:Llyfr Isaac Harries .png|bawd|de|500px|Holiedydd Efengylaidd Isaac Harries]] | ||
Gweinidog gyda'r Annibynwyr | Gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd '''Isaac Harding Harries''' (m. tua 1868) a wasanaethodd am rai blynyddoedd yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] yn yr 1830au. | ||
Bu'n astudio yn Athrofa Neuaddlwyd, ac fe gychwynnodd ar ei yrfa bregethu yn y Cendl, Sir Fynwy. Yn ol yr hanes, roedd yn anerchydd cadarn ac argyhoeddiadol. Daeth i Ddyffryn Nantlle ym 1831 fel gweinidog ar achos Annibynnol [[Tal-y-sarn]] a [[Capel Pisgah (A), Carmel|Chapel Pisgah, Carmel]]. Fe oedd yn gyfrifol am sbarduno codi capeli Annibynnol yn [[Capel Drws-y-coed|Nhrws-y-coed]] a [[Capel Soar (A), Pen-y-groes|Phen-y-groes]]. Er ei arabedd a'i frwdfrydedd, fodd bynnag, mae'n debyg iddo fod yn anonest ac annibynadwy ym materion cyllidol. Yn ôl haneswyr cynnar yr Annibynwyr, ''Pe buasai ei fuchedd yn cyfateb i'w talentau gallasai fod yn ddyn defnyddiol iawn; ond yr oedd yn gyneriad llygredig ac annuwiol. Ymgymerai ag anturiaethau masnachol, a llwyddai trwy ei gyfrwystra i fyned dros benpobl ddiniwed am eu hariuan, ac nid oedd ynddo onestrwydd a geirwiredd i gwblhau ei ymrwymiadau. Yr oedd yn un o'r cymeriadau gwaethaf ym mhob ystyr a fu erioed yn ymlusgo wrth y weinidogaeth." | |||
Ym 1831 cyhoeddwyd araith o'i eiddo, sef ''Araeth dros y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a draddodwyd mewn cyfarfod yn Llanwnda, yn agos i Gaernarfon, Tachwedd 14eg, yn y Flwyddyn 1831'', gan P. Evans, Caernarfon. | Ym 1831 cyhoeddwyd araith o'i eiddo, sef ''Araeth dros y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a draddodwyd mewn cyfarfod yn Llanwnda, yn agos i Gaernarfon, Tachwedd 14eg, yn y Flwyddyn 1831'', gan P. Evans, Caernarfon. | ||
Erbyn 1836, roedd wedi ymadael â'r dyffryn, gan | Erbyn 1836, roedd wedi ymadael â'r dyffryn, gan weinidogaethu yn y Mynydd Bach ger Abertawe, lle cyhoeddodd ei ''Holiedydd Ysgrythurol'', ar ffurf cwestiynau ac atebion byr, yn debyg i'r ''Rhodd Mam'' ond i oedolion - a lle bu'n creu "hafog" ar yr eglwys yn y fan honno, yn ôl Rees a Thomas. Erbyn 1839, roedd yn gorfod gadael yr eglwys honno, ynghyd â'i gefnogwyr, gan godi capel Caersalem Newydd yn Abertawe a aeth wedyn yn gapel i'r Bedyddwyr - ond bu i'r gynulleidfa honno ddatgysylltu eu hunain oddi wrtho ym 1841. Erbyn 1842, roedd yn ôl yn y Gogledd, yn weinidog ar y "Wesle Bach" yn Stryd yr Undeb, Bangor. Cychwynnodd gylchgrawn gwrth-Wesleaidd uniongred, ''Twr Gwalia'' ac wedyn ''Figaro the Second'', cylchgrawn cecrus ac enllibus, a'i arweiniodd i sawl achos llys a cholledion ariannol. | ||
Tua 1848, fe fudodd i Lundain lle mynychai gwmni gwehilion cymdeithas, a marw tua 1868.<ref>Sylfeinir yr erthygl yn ei ffurf wreiddiol ar erthygl Thomas Richards yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ac ar T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', Cyf. 3, tt.227-32</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 11:00, 26 Mawrth 2019
Gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd Isaac Harding Harries (m. tua 1868) a wasanaethodd am rai blynyddoedd yn Nyffryn Nantlle yn yr 1830au.
Bu'n astudio yn Athrofa Neuaddlwyd, ac fe gychwynnodd ar ei yrfa bregethu yn y Cendl, Sir Fynwy. Yn ol yr hanes, roedd yn anerchydd cadarn ac argyhoeddiadol. Daeth i Ddyffryn Nantlle ym 1831 fel gweinidog ar achos Annibynnol Tal-y-sarn a Chapel Pisgah, Carmel. Fe oedd yn gyfrifol am sbarduno codi capeli Annibynnol yn Nhrws-y-coed a Phen-y-groes. Er ei arabedd a'i frwdfrydedd, fodd bynnag, mae'n debyg iddo fod yn anonest ac annibynadwy ym materion cyllidol. Yn ôl haneswyr cynnar yr Annibynwyr, Pe buasai ei fuchedd yn cyfateb i'w talentau gallasai fod yn ddyn defnyddiol iawn; ond yr oedd yn gyneriad llygredig ac annuwiol. Ymgymerai ag anturiaethau masnachol, a llwyddai trwy ei gyfrwystra i fyned dros benpobl ddiniwed am eu hariuan, ac nid oedd ynddo onestrwydd a geirwiredd i gwblhau ei ymrwymiadau. Yr oedd yn un o'r cymeriadau gwaethaf ym mhob ystyr a fu erioed yn ymlusgo wrth y weinidogaeth."
Ym 1831 cyhoeddwyd araith o'i eiddo, sef Araeth dros y Beibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a draddodwyd mewn cyfarfod yn Llanwnda, yn agos i Gaernarfon, Tachwedd 14eg, yn y Flwyddyn 1831, gan P. Evans, Caernarfon.
Erbyn 1836, roedd wedi ymadael â'r dyffryn, gan weinidogaethu yn y Mynydd Bach ger Abertawe, lle cyhoeddodd ei Holiedydd Ysgrythurol, ar ffurf cwestiynau ac atebion byr, yn debyg i'r Rhodd Mam ond i oedolion - a lle bu'n creu "hafog" ar yr eglwys yn y fan honno, yn ôl Rees a Thomas. Erbyn 1839, roedd yn gorfod gadael yr eglwys honno, ynghyd â'i gefnogwyr, gan godi capel Caersalem Newydd yn Abertawe a aeth wedyn yn gapel i'r Bedyddwyr - ond bu i'r gynulleidfa honno ddatgysylltu eu hunain oddi wrtho ym 1841. Erbyn 1842, roedd yn ôl yn y Gogledd, yn weinidog ar y "Wesle Bach" yn Stryd yr Undeb, Bangor. Cychwynnodd gylchgrawn gwrth-Wesleaidd uniongred, Twr Gwalia ac wedyn Figaro the Second, cylchgrawn cecrus ac enllibus, a'i arweiniodd i sawl achos llys a cholledion ariannol.
Tua 1848, fe fudodd i Lundain lle mynychai gwmni gwehilion cymdeithas, a marw tua 1868.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Sylfeinir yr erthygl yn ei ffurf wreiddiol ar erthygl Thomas Richards yn Y Bywgraffiadur Cymreig ac ar T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, Cyf. 3, tt.227-32