Bwlch Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
==Gwaith mwyngloddio== | ==Gwaith mwyngloddio== | ||
Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos nifer o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau. Dichon mai dyma'r gweithfeydd ar dir [[Ystad Glynllifon]] y cyfeiria atynt mewn llythyrau at [[Arglwydd Newborough]] yng nghanl yr 1850au. Roedd dyn o'r enw Robert Wolseley, a oedd yn byw yn Nhwtil, Caernarfon, yn gweithio cloddfa fanganîs yno ym 1856<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/25512</ref>; a ryw Mr Palmer hefyd wrthi mewn gwaith ger Plasnewydd.<ref>XD2/25778</ref> | Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos nifer o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau. Dichon mai dyma'r gweithfeydd ar dir [[Ystad Glynllifon]] y cyfeiria atynt mewn llythyrau at [[Arglwydd Newborough]] yng nghanl yr 1850au. Roedd dyn o'r enw Robert Wolseley, a oedd yn byw yn Nhwtil, Caernarfon, yn gweithio cloddfa fanganîs yno ym 1856<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/25512</ref>; a ryw Mr Palmer hefyd wrthi mewn gwaith ger Plasnewydd.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/25778</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 18:24, 11 Chwefror 2019
Mae Bwlch Mawr yn fryn ar gyrion Uwchgwyrfai uwchben Bwlchderwin a Chapel Uchaf. Ei uchder yw 509 metr neu 1670 troedfedd uwchben y môr. Mae'n ail o ran uchder yn y casgliad o fynyddoedd sydd â'i gopa uchaf a'r Gurn Ddu sydd yn 522 metr o uchder. Dichon fod yr enw'n deillio o bresenoldeb pant neu fwlch rhwng y copa ei hun a thir uchel arall gerllaw (dim ond 5 troedfedd yn is, sydd yn creu bwlch amlwg iawn o bell.
Ar ochr ddwyreiniol Bwlch Mawr, uwchben Hengwm, ceir pant o'r enw Y Seler Ddu, sydd yn darddle Afon Dwyfach.
Ffurfiwyd y bryn o graig igneaidd o'r cyfnod Palaeosoig.
Gwaith mwyngloddio
Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos nifer o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau. Dichon mai dyma'r gweithfeydd ar dir Ystad Glynllifon y cyfeiria atynt mewn llythyrau at Arglwydd Newborough yng nghanl yr 1850au. Roedd dyn o'r enw Robert Wolseley, a oedd yn byw yn Nhwtil, Caernarfon, yn gweithio cloddfa fanganîs yno ym 1856[1]; a ryw Mr Palmer hefyd wrthi mewn gwaith ger Plasnewydd.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma