J.J. Thomas, FGS: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:JJThomas,Kendal.JPG|bawd|de|300px|Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007]]

Chwarelwr galluog oedd '''J.J. Thomas, Kendal''' (1860-1942) y bu galw mawr am ei gyngor ar faterion daeareg chwareli a mwynfeydd  cyn belled â Mecsico a’r Unol Daleithiau.  Urddwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas y Daearegwyr  (F.G.S.).  

Llinell 16: Llinell 15:

Does dim angen elusendai bellach, gwerthwyd y tai i chwyddo'r coffrau, a phrin yw gweddwon chwarelwyr erbyn heddiw, ond mae'r gymuned yn elwa yn flynyddol o'i haelioni. Mae [[Ysgol Gynradd Rhostryfan]], myfyrwyr a'r henoed yn parhau i dderbyn rhoddion o’r elusen a sefydlodd. <ref>Allan o ''Lleu'' tua Chwerfor 2008 gan Dewi Tomos.</ref>
Does dim angen elusendai bellach, gwerthwyd y tai i chwyddo'r coffrau, a phrin yw gweddwon chwarelwyr erbyn heddiw, ond mae'r gymuned yn elwa yn flynyddol o'i haelioni. Mae [[Ysgol Gynradd Rhostryfan]], myfyrwyr a'r henoed yn parhau i dderbyn rhoddion o’r elusen a sefydlodd. <ref>Allan o ''Lleu'' tua Chwerfor 2008 gan Dewi Tomos.</ref>
[[Delwedd:JJThomas,Kendal.JPG|bawd|de|300px|Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007]]

Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007 ac arni yr englyn hwn:  
Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007 ac arni yr englyn hwn:  

Fersiwn yn ôl 20:43, 7 Ionawr 2019

Chwarelwr galluog oedd J.J. Thomas, Kendal (1860-1942) y bu galw mawr am ei gyngor ar faterion daeareg chwareli a mwynfeydd cyn belled â Mecsico a’r Unol Daleithiau. Urddwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas y Daearegwyr (F.G.S.).

Fe'i ganed yn Nhŷ Ucha, ardal Rhostryfan yn 1860 a bu'n gweithio yn y chwareli lleol yn hogyn ifanc, ond gadawodd i fynd i fyw at ei ewyrth, Thomas Williams, yn Broughton-in-Furness a mynychodd ddosbarth nos i ddysgu Saesneg.

Un o'r Fron Oleu, Rhostryfan oedd Thomas Williams ac roedd yntau wedi gadael yr ardal yn llanc ifanc gan ddod yn berchennog chwarel Ulpha yn nyffryn Duddon yn Ardal y Llynnoedd. Yn drychinebus, bu foddi yn ei chwarel ei hun yn 1880.

Symudodd J.J. Thomas i Kendal yn 1886 ac yno y bu weddill ei oes.

Yn y man daeth yn brif reolwr ar chwarel Tilberthwaite a gwnaeth ei ffortiwn yno. Bu'n faer Kendal deirgwaith, bu ar Gyngor Sir Westmorland am 46 mlynedd ac yn 1936 fe'i hurddwyd yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Kendal.

Hen lanc ydoedd, nodedig am ei haelioni, ac wedi ei farwolaeth yn 1942 gadawodd symiau o arian i Brifysgol Cymru ac i bentref Rhostryfan.

Roedd yr arian i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r tlawd a'r anghenus, i weddwon chwarelwyr, i godi elusendai, i Gapel Horeb a'r Eisteddfod leol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth J. J. Thomas i weithredu yn ôl ei ddymuniad, ac mae'r pwyllgor wedi rhannu llogau byth ers hynny.

Does dim angen elusendai bellach, gwerthwyd y tai i chwyddo'r coffrau, a phrin yw gweddwon chwarelwyr erbyn heddiw, ond mae'r gymuned yn elwa yn flynyddol o'i haelioni. Mae Ysgol Gynradd Rhostryfan, myfyrwyr a'r henoed yn parhau i dderbyn rhoddion o’r elusen a sefydlodd. [1]

Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007

Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007 ac arni yr englyn hwn:

  Ei galon lawn haelioni - ei ofal
     Ei gyfoeth o'r llechi
   A rannodd â bro ei eni, 
   Arllwys aur er ei lles hi."   
                        Geraint Lloyd Owen

Cyfeiriadau

  1. Allan o Lleu tua Chwerfor 2008 gan Dewi Tomos.