Ffrwd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Ffrwd''' neu ''Groeslon Ffrwd'' yn dreflan ym mhlwyf Llandwrog ar y ffordd dyrpeg i Bwllheli, sef erbyn heddiw yr A499. Mae yma groesffordd lle mae'r lôn a arweiniai yn y gorffennol o fynydd a mawndir tir uchel plwyf [[Llandwrog]] i ffermydd brasach eu byd y tir isel. Cludwyd calch a thywod o'r arfordir i ffermydd yr ucheldir, a gyrrwyd defaid a gwartheg ar hyd y lôn tua'r mynydd yn y Gwanwyn at y porfeydd haf a'r hafodydd, tra defnyddid yffordd i ddod â mawn yn ôl i ffermydd yr iseldir. Gellid dadlau felly mai dyma brif groesffordd plwyf Llandwrog yn yr amser a fu. Dichon mai ''Ffrwd Ysgyfarnog'' oedd hen enw'r fangre hon.
Mae '''Ffrwd''' neu ''Groeslon Ffrwd'' yn dreflan ym mhlwyf Llandwrog ar y ffordd dyrpeg i Bwllheli, sef erbyn heddiw yr A499. Mae yma groesffordd lle mae'r lôn a arweiniai yn y gorffennol o fynydd a mawndir tir uchel plwyf [[Llandwrog]] i ffermydd brasach eu byd y tir isel. Cludwyd calch a thywod o'r arfordir i ffermydd yr ucheldir, a gyrrwyd defaid a gwartheg ar hyd y lôn tua'r mynydd yn y Gwanwyn at y porfeydd haf a'r hafodydd, tra defnyddid yffordd i ddod â mawn yn ôl i ffermydd yr iseldir. Gellid dadlau felly mai dyma brif groesffordd plwyf Llandwrog yn yr amser a fu. Dichon mai ''Ffrwd Ysgyfarnog'' oedd hen enw'r fangre hon. Mae'n bebyg mai yma yr oedd y dafarn leol yn niwedd y 18g, gan fod Daniel Thomas, ffrwd Ysgyfarnog, yn dal trwydded i werthu cwrw ym 1776 - hynny ar ôl i hen dafarn [[Betws Gwernrhiw]] gau o bosibl.<ref>W.Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), tt.31, 33</ref>


Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol. Mae un o borthdai parc [[Glynllifon]] wrth y groesffordd ar un ochr, a Phlas Isaf yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid [[Plas Isaf]] fel cartref i stiward [[Ystad Glynllifon]] am flynyddoedd lawer. Nid yw [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] ond dau ganllath o gyffordd Ffrwd. Bu swyddfa bost yma am flynyddoedd cyn iddi symud i bentref Llandwrog.  
Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol. Mae un o borthdai parc [[Glynllifon]] wrth y groesffordd ar un ochr, a Phlas Isaf yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid [[Plas Isaf]] fel cartref i stiward [[Ystad Glynllifon]] am flynyddoedd lawer. Nid yw [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] ond dau ganllath o gyffordd Ffrwd. Bu swyddfa bost yma am flynyddoedd cyn iddi symud i bentref Llandwrog.  
Llinell 6: Llinell 6:


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]

Fersiwn yn ôl 11:05, 8 Gorffennaf 2019

Mae Ffrwd neu Groeslon Ffrwd yn dreflan ym mhlwyf Llandwrog ar y ffordd dyrpeg i Bwllheli, sef erbyn heddiw yr A499. Mae yma groesffordd lle mae'r lôn a arweiniai yn y gorffennol o fynydd a mawndir tir uchel plwyf Llandwrog i ffermydd brasach eu byd y tir isel. Cludwyd calch a thywod o'r arfordir i ffermydd yr ucheldir, a gyrrwyd defaid a gwartheg ar hyd y lôn tua'r mynydd yn y Gwanwyn at y porfeydd haf a'r hafodydd, tra defnyddid yffordd i ddod â mawn yn ôl i ffermydd yr iseldir. Gellid dadlau felly mai dyma brif groesffordd plwyf Llandwrog yn yr amser a fu. Dichon mai Ffrwd Ysgyfarnog oedd hen enw'r fangre hon. Mae'n bebyg mai yma yr oedd y dafarn leol yn niwedd y 18g, gan fod Daniel Thomas, ffrwd Ysgyfarnog, yn dal trwydded i werthu cwrw ym 1776 - hynny ar ôl i hen dafarn Betws Gwernrhiw gau o bosibl.[1]

Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol. Mae un o borthdai parc Glynllifon wrth y groesffordd ar un ochr, a Phlas Isaf yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid Plas Isaf fel cartref i stiward Ystad Glynllifon am flynyddoedd lawer. Nid yw Capel Bwlan (MC), Llandwrog ond dau ganllath o gyffordd Ffrwd. Bu swyddfa bost yma am flynyddoedd cyn iddi symud i bentref Llandwrog.

Yma hefyd gwelir un darn o hen lôn sy'n arwain at eglwys a phentref Llandwrog. Roedd hon yn arfer â bod yn brif ffordd ar draws y cwmwd cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), tt.31, 33