W.A. Darbishire: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Yr oedd wedi troi mewn cylchoedd pwysig yn ystod ei oes . Bu yn gynghorydd sir ac yn ustus heddwch am flynyddoedd, ac yn uchel siryf y sir; a chafodd yr anrhydedd o fod yn Faer Caernarfon ddwywaith. Roedd yn Rhyddfrydwr o argyhoeddiad a gweithiodd yn galed yn ystod etholiad 1868.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 15 Awst 1916</ref> Yr oedd llesiant [[Dyffryn Nantlle]] a'r cylchoedd yn agos iawn at ei galon yn ôl ffynonellau'r cyfnod, a gwnaeth ei ran yn helaeth iawn at geisio hyrwyddo masnach ymhob cylch. Er ei fod i raddau pell wedi torri ei gysylltiad â'r dyffryn ar ol symud i Gaernarfon, byddai yn ymwelydd cyson â'r chwarel a'r ardal. Gwnaeth waith pwysig gydag addyag yn mhlwyf [[Llanllyfni]], ac efe a'i briod gyfododd safle'r gweinyddesau lleol<ref>''Y Llan'', 18 Awst 1916</ref>.  

Roedd o'n ymddiddori mewn cerddoriaeth gan noddi cyngherrddau ac ati, ac ym 1905 prynodd fiolin Stradivarius, gan ei gyflwyno i Marie Molto, fiolines ifanc addawol.<ref>Gwefan ''The Strad'', [https://www.thestrad.com/from-the-archive-the-antonio-stradivari-lord-norton-violin-1737/6801.article], cyrchwyd 5.11.2018</ref>  
Roedd o'n ymddiddori mewn cerddoriaeth gan noddi cyngherddau ac ati, yn cynnwys Cymdeithas Operatig Caernarfon.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 15 Awst 1916</ref> ac ym 1905 prynodd fiolin Stradivarius, gan ei gyflwyno i Marie Molto, fiolines ifanc addawol.<ref>Gwefan ''The Strad'', [https://www.thestrad.com/from-the-archive-the-antonio-stradivari-lord-norton-violin-1737/6801.article], cyrchwyd 5.11.2018</ref>  

Bu farw yn ei gartref olaf, Pen-y-bryn, Caernarfon, 8 Awst 1916, a'i gladdu ym mynwent Llanbeblig.<ref>''Y Llan'', 18 Awst 1916 </ref>
Bu farw yn ei gartref olaf, Pen-y-bryn, Caernarfon, 8 Awst 1916, a'i gladdu ym mynwent Llanbeblig.<ref>''Y Llan'', 18 Awst 1916 </ref>

Fersiwn yn ôl 12:59, 5 Tachwedd 2018

Roedd W. A. Darbishire, (1829-1916) yn hanu o Fanceinion ond symudodd ei rieni i Benmaenmawr ar ddiwedd eu hoes. Roedd yn byw am gyfnod hir o'i oes ym Mhlas Baladeulyn, Nantlle. Prynodd ef a'i gwmni Chwarel Pen-yr-orsedd ym 1863, a gweithiodd yno fel y Rheolwr-Gyfarwyddwr weddill ei yrfa.[1] Ymgeisiodd (yn aflwyddiannus) am swydd prif reolwr Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 1885 a phe byddai wedi derbyn y swydd, dichon y byddai hanes y chwarel honno a'r streic fawr (1900-03) yn bur wahanol. Mae'n debyg iddo golli ei gyfle gan iddo fod yn gredwr mewn caniatáu i'r gweithwyr rannu yn elw'r chwarel. Roedd hefyd yn nodi yn ei gais ei fod â chrap go lew ar "Gymraeg y chwarel".[2]

Roedd yn arloeswr yn y defnydd o beiriannau yn y chwarel, ac ym 1900 cododd weithdy a ddefnyddai trydan yn lle pŵer dŵr a stêm.[3]

Yr oedd wedi troi mewn cylchoedd pwysig yn ystod ei oes . Bu yn gynghorydd sir ac yn ustus heddwch am flynyddoedd, ac yn uchel siryf y sir; a chafodd yr anrhydedd o fod yn Faer Caernarfon ddwywaith. Roedd yn Rhyddfrydwr o argyhoeddiad a gweithiodd yn galed yn ystod etholiad 1868.[4] Yr oedd llesiant Dyffryn Nantlle a'r cylchoedd yn agos iawn at ei galon yn ôl ffynonellau'r cyfnod, a gwnaeth ei ran yn helaeth iawn at geisio hyrwyddo masnach ymhob cylch. Er ei fod i raddau pell wedi torri ei gysylltiad â'r dyffryn ar ol symud i Gaernarfon, byddai yn ymwelydd cyson â'r chwarel a'r ardal. Gwnaeth waith pwysig gydag addyag yn mhlwyf Llanllyfni, ac efe a'i briod gyfododd safle'r gweinyddesau lleol[5].

Roedd o'n ymddiddori mewn cerddoriaeth gan noddi cyngherddau ac ati, yn cynnwys Cymdeithas Operatig Caernarfon.[6] ac ym 1905 prynodd fiolin Stradivarius, gan ei gyflwyno i Marie Molto, fiolines ifanc addawol.[7]

Bu farw yn ei gartref olaf, Pen-y-bryn, Caernarfon, 8 Awst 1916, a'i gladdu ym mynwent Llanbeblig.[8]

Brawd iddo oedd y Cyrnol C.H. Darbishire, a weithiodd am gyfnod ar reilffyrdd yn y Swistir cyn helpu ei frawd ym Mhen-yr-orsedd, ac wedyn ymroi i redeg Chwarel ithfaen Graiglwyd, Penmaenmawr, a oedd yn gysylltiedig maes o law â Chwarel Trefor. Fe symudodd i Drefor i fyw ym 1921.[9]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 328-9.
  2. Jean Lindsay, The Great Strike, ((Newton Abbot, 1987), t.31
  3. David Gwyn, Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes, (Aberystwyth, 2015), t.162.
  4. Yr Herald Cymraeg, 15 Awst 1916
  5. Y Llan, 18 Awst 1916
  6. Yr Herald Cymraeg, 15 Awst 1916
  7. Gwefan The Strad, [1], cyrchwyd 5.11.2018
  8. Y Llan, 18 Awst 1916
  9. A. Davidson a David Gwyn, Archaeological Assessment: Plas Mawr, Penmaenmawr, (Ymddiriedolaeth Archaolegol Gwynedd, 1996), t.9