W.A. Darbishire: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''W. A. Darbishlre''', (m.1916) yn byw am gyfnod hir o'i oes ym [[Plas Baladeulyn|Mhlas Baladeulyn]], [[Nantlle]]. Yr oedd yn brif oruchwyliwr chwarel [[Pen-yr-orsedd]], ac yn aelod o'r cwmni. Ymgeisiodd (yn aflwyddiannus) am swydd prif reolwr Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 1885 a phe byddai wedi derbyn y swydd, dichon y byddai hanes y chwarel honno a'r streic fawr (1900-03) yn bur wahanol. Mae'n debyg iddo golli ei gyfle gan iddo fod yn gredwr mewn caniatáu i'r gweithwyr rannu yn elw'r chwarel. Roedd hefyd yn nodi yn ei gais ei fod â chrap go lew ar "Gymraeg y chwarel".<ref>Jean Lindsay, ''The Great Strike'', ((Newton Abbot, 1987), t.31</ref>
Roedd '''W. A. Darbishlre''', (m.1916) yn byw am gyfnod hir o'i oes ym [[Plas Baladeulyn|Mhlas Baladeulyn]], [[Nantlle]]. Yr oedd yn brif oruchwyliwr [[Chwarel Pen-yr-orsedd]], ac yn aelod o'r cwmni. Ymgeisiodd (yn aflwyddiannus) am swydd prif reolwr Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 1885 a phe byddai wedi derbyn y swydd, dichon y byddai hanes y chwarel honno a'r streic fawr (1900-03) yn bur wahanol. Mae'n debyg iddo golli ei gyfle gan iddo fod yn gredwr mewn caniatáu i'r gweithwyr rannu yn elw'r chwarel. Roedd hefyd yn nodi yn ei gais ei fod â chrap go lew ar "Gymraeg y chwarel".<ref>Jean Lindsay, ''The Great Strike'', ((Newton Abbot, 1987), t.31</ref>


Roedd yn arloeswr yn y defnydd o beiriannau yn y chwarel, ac ym 1900 cododd weithdy a ddefnyddai trydan yn lle pwer dwr a stêm.<ref>David Gwyn, ''Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes'', (Aberystwyth, 2015), t.162.</ref>
Roedd yn arloeswr yn y defnydd o beiriannau yn y chwarel, ac ym 1900 cododd weithdy a ddefnyddai trydan yn lle pwer dwr a stêm.<ref>David Gwyn, ''Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes'', (Aberystwyth, 2015), t.162.</ref>

Fersiwn yn ôl 11:55, 5 Tachwedd 2018

Roedd W. A. Darbishlre, (m.1916) yn byw am gyfnod hir o'i oes ym Mhlas Baladeulyn, Nantlle. Yr oedd yn brif oruchwyliwr Chwarel Pen-yr-orsedd, ac yn aelod o'r cwmni. Ymgeisiodd (yn aflwyddiannus) am swydd prif reolwr Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 1885 a phe byddai wedi derbyn y swydd, dichon y byddai hanes y chwarel honno a'r streic fawr (1900-03) yn bur wahanol. Mae'n debyg iddo golli ei gyfle gan iddo fod yn gredwr mewn caniatáu i'r gweithwyr rannu yn elw'r chwarel. Roedd hefyd yn nodi yn ei gais ei fod â chrap go lew ar "Gymraeg y chwarel".[1]

Roedd yn arloeswr yn y defnydd o beiriannau yn y chwarel, ac ym 1900 cododd weithdy a ddefnyddai trydan yn lle pwer dwr a stêm.[2]

Yr oedd wedi troi mewn cylchoedd pwysig yn ystod ei oes . Bu yn Gynghorydd Sir ac yn ustus heddwch am flynyddoedd, a chafodd yr anrhydedd o fod yn Faer Caernarfon ddwywaith. Yr oedd llesiant Dyffryn Nantlle a'r cylchoedd yn agos iawn at ei galon yn ôl ffynonellau'r cyfnod, a gwnaeth ei ran yn helaeth iawn at geisio hyrwyddo masnach ymhob cylch. Er ei fod i raddau pell wedi torri ei gysylltiad â'r dyffryn ar ol symud i Gaernarfon, byddai yn ymwelydd cyson â'r chwarel a'r ardal. Gwnaeth waith pwysig gydag addyag yn mhlwyf Llanllyfni, ac efe a'i briod gyfododd safle'r gweinyddesau lleol. Bu farw yn ei gartref olaf, Pen-y-bryn, Caernarfon, 8 Awst 1916, a'i gladdu ym mynwent Llanbeblig.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, The Great Strike, ((Newton Abbot, 1987), t.31
  2. David Gwyn, Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes, (Aberystwyth, 2015), t.162.
  3. Y Llan, 18 Awst 1916