Melin Glan-yr-afon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Gan fod y mapiau hyn yn nodi a oedd melinau'n dal i droi neu ddim, gallir fod yn weddol sicr fod Melin Glan-yr-afon yn dal i drin gwlân tan ar ôl yr ail ryfel byd.

Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail enwi'r fewlin fel ''The Woollen Mill, Clynnog Road''.
Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail enwi'r felin fel ''The Woollen Mill, Clynnog Road''.

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 09:01, 1 Hydref 2018

Safai Melin Glan-yr-afon ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfnwy - ac felly ym mhlwyf Llanllyfni, gyferbyn â Lleuar Fawr.Yr enw lleol ar y felin oedd "Injan Doctor". Dywedir iddi gael ei chodi tua 1774.[1] Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', a phrif waith y felin oedd cynhyrchu llechi ysgrifennu, a ddefnyddid yn gyffredinol mewn ysgolion ar draws Prydain yn lle llyfrau ysgrifennu papur.[2]

Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Gan fod y mapiau hyn yn nodi a oedd melinau'n dal i droi neu ddim, gallir fod yn weddol sicr fod Melin Glan-yr-afon yn dal i drin gwlân tan ar ôl yr ail ryfel byd.

Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail enwi'r felin fel The Woollen Mill, Clynnog Road.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [1], cyrchwyd 02.08.2018
  2. Hen Luniau Dyffryn Nantlle (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985), llun 43.