Criw y Cei: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Barcud (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:


Yn ôl y sôn, does dim modd bod yn Dreforian go iawn oni bai eich bod wedi neidio o ben cei.
Yn ôl y sôn, does dim modd bod yn Dreforian go iawn oni bai eich bod wedi neidio o ben cei.
[[Categori:Cymdeithasau]]
[[Categori:Chwaraeon]]

Fersiwn yn ôl 19:26, 26 Medi 2018

Roedd Criw y Cei yn gymdeithas answyddogol o bobl ifanc yn Nhrefor oedd yn ymhyfrydu yn y gamp o neidio i'r môr oddi ar y Cei yn Nhrefor. Fe'i sefydlwyd ym 1986 pan adnewyddwyd y Cei Pren. Dros y blynyddoedd ehangwyd y gamp o neidio i lefydd eraill ar y glannau megis y Brêc, Brêc Bach, Ynys Gachu, a'r hafn brawychus yn y Fraich Las ble mae mynydd Garnfor yn codi o'r môr. Er nad yw'r gymdeithas yn bodoli erbyn heddiw (oherwydd bod ei sylfaenwyr wedi mynd yn rhy hen a llwfr i neidio) mae'r gamp yn dal i flodeuo yn y pentref, a chenedlaethau o Dreforiaid newydd yn parhau i gael blas mawr ar daflu ei hunain oddi ar y cei i'r dyfnderoedd. Erbyn heddiw nid yw'r Cei Pren yn bodoli. Cafodd ei ddymchwel yn 2018 oherwydd ei gyflwr peryglus. Ond mae'r Hen Gei yn dal yn hafan i neidwyr y pentref. Prif fantais y Cei Pren oedd bod modd neidio ar drai (pan oedd y môr allan) ac roedd uchder y naid gymaint mwy a'r wefr yn gymaint mwy cynhyrfus.

Er mwyn ychwanegu at yr hwyl o neidio, bu i rai aelodau drygionus Criw y Cei lifio rhai o bolion reilings y cei er mwyn creu adwy agored fel y gellid rhedeg fel mellten drwy'r agoriad a hedfan yn braf cyn taro'r tonau. Yn amlwg nid oedd hynny'n plesio swyddogion iechyd a diogelwch y cyngor gan iddynt geisio weldio polion newydd dro ar ôl tro. Ond roedd dyfalbarhad y llifwyr yn drech na'r cyngor, ac yn y diwedd bu i'r cyngor osod dwy gadwyn ar draws yr agoriad y gellid eu dadfachu at ddibenion neidio.

Yn ôl y sôn, does dim modd bod yn Dreforian go iawn oni bai eich bod wedi neidio o ben cei.