John Jones, Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 28: Llinell 28:
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Siopau]]

Fersiwn yn ôl 19:54, 5 Medi 2018

John Jones, Tal-y-sarn
Cartref cyntaf John Jones, Tan-y-castell, Dolwyddelan
Murddyn cartref Angharad James Penamnen, Dolwyddelan
Siop John a Fanny J0nes yn Nhal-y-sarn

Un o bregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd John Jones (1796-1857). Fe gyfeirir ato bob tro fel John Jones, Tal-y-sarn yn radical peryglus gan John Elias (1774-1841), ond a bod yn wrthrychol, roedd John Elias yn ddyn â rhagfarnau yn erbyn y rhai na chytunai ag ef.

Ganwyd John Jones mewn cartref nodedig o'r enw Tanycastell, Dolwyddelan, ar 1 Mawrth 1796, yn ddisgynydd ar ochr ei dad a'i fam i William Prichard ac Angharad James o Gwm Penamnen. Ganwyd mae'n debyg yn 1796, er bod ei fywgraffydd yn cofnodi amheuaeth ynglyn â ai yn 1796 eu 1797 yr oedd. Ni chafodd addysg ffurfiol, ac roedd yn uniaith Gymraeg.

Tua 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, roedd yn weithiwr ar adeiladu ffordd newydd Thomas Telford rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen - sef yr A5 presennol. Tua'r un adeg, roedd hefyd yn ymddiddori mewn materion crefydd, a bu'n treulio amser ar ben ei hun mewn ceunant o'r enw Nant y Tylathau, ar lethrau Moel Siabod, yn myfyrio ac ystyried pregethu. Aeth ymlaen i fod yn chwarelwr, ac yn 1822 symudodd i fyw i ardal Tal-y-sarn. [1]

Gan fod cyfnither John Jones wedi priodi efo Griffith Williams, un o oruchwylwyr Chwarel Tal-y-sarn cafodd swydd yno ym 1822. Priododd y flwyddyn wedyn efo Fanny, merch Thomas Edwards, goruchwyliwr Chwarel Cloddfa'r Lôn. Gadawodd y chwarel ac aeth Fanny i gadw siop y drws nesaf i'r capel ac wrth ymyl y chwarel hefyd. Gwerthid popeth o duntur riwbob i arfau chwarel! Nodwedd o fywyd pregethwyr y cyfnod, ac yn enwedig pregethwyr Methodistaidd, oedd yr arferiad i'w gwragedd gadw siop tra'r elent hwy ar deithiau pregethu.

Ym 1848 daeth y les ar Chwarel Dorothea i ben a ffurfiodd John Jones ac eraill gwmni lleol i'w rhedeg. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr.

Ym 1852 bu ond y dim iddo gael damwain angeuol yn y chwarel ac o ganlyniad penderfynodd dorri ei gysylltiad efo'r diwydiant a gwerthodd ei holl gyfranddaliadau. Pan fu farw bum mlynedd yn ddiweddarach rhoddwyd ei gorff yn ddiddos mewn tair arch, arch dderw, arch fahogani ac i goroni'r cwbl, arch lechen. Ac i selio'r diddosrwydd rhoddwyd maen coffa enfawr ar ei fedd ym mynwent Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni.

Daeth John Lloyd Jones, (1826-93) ei fab hynaf, o Blas y Bryn, Y Bontnewydd yn un o brif reolwyr Chwarel Dorothea ac hefyd Chwarel Pen-yr-orsedd. Bu Fanny Jones farw ym 1877. Ni ddylid anghofio ychwaith fod John Jones yn daid i'r heddychwr George M. Ll. Davies (1880-1949).

Diddorol yw cofnodi hefyd fod John Jones yn un o arwyr mawr David Lloyd George, gyda phortread o John Jones yn cael lle amlwg yn Stryd Downing pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys ac yna yn Brif Weinidog. [2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, erthygl ar John Jones, [1], adalwyd, 6.9.2018
  2. Seiliwyd llawer o'r erthygl gychwynnol ar wefan Llechi Cymru, sef Llechwefan, 2002, [2]