Y Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Pentref rhwng tref Caernarfon a [[Dinas]] yw'r '''Bontnewydd'''. Trwy ganol y pentref ceir y ffordd ''A487'', sy'n arwain at Bwllheli a Porthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a godwyd tua 1810 roddodd yr enw i'r pentref. Mae'r enw yn cyfeirio at | Pentref rhwng tref Caernarfon a [[Dinas]] yw'r '''Bontnewydd'''. Trwy ganol y pentref ceir y ffordd ''A487'', sy'n arwain at Bwllheli a Porthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a godwyd tua 1810 roddodd yr enw i'r pentref. Mae'r enw yn cyfeirio at bont flaenorol dros [[Afon Gwyrfai]]. Sonnir am lle a elwid ''the new brige'' ger Caernarfon ym 1552.<ref>Archifdy Gwynedd, Llyfr Amodrwymau'r Llys Chwater, Ebrill 1552, t.5</ref> Mae'r bont bresennol yn dyddio o amser creu'r [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] trwy'r ardal neu'n fuan wedyn. | ||
Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai wedi eu dotio ar hyd y ffordd fawr. Yn ystod y 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr [[Isgwyrfai]] i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra roeddynt yn teithio o Ben Llŷn tua Chaernarfon. | Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai wedi eu dotio ar hyd y ffordd fawr. Yn ystod y 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr [[Isgwyrfai]] i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra roeddynt yn teithio o Ben Llŷn tua Chaernarfon. |
Fersiwn yn ôl 14:31, 5 Ebrill 2019
Pentref rhwng tref Caernarfon a Dinas yw'r Bontnewydd. Trwy ganol y pentref ceir y ffordd A487, sy'n arwain at Bwllheli a Porthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a godwyd tua 1810 roddodd yr enw i'r pentref. Mae'r enw yn cyfeirio at bont flaenorol dros Afon Gwyrfai. Sonnir am lle a elwid the new brige ger Caernarfon ym 1552.[1] Mae'r bont bresennol yn dyddio o amser creu'r ffordd dyrpeg trwy'r ardal neu'n fuan wedyn.
Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai wedi eu dotio ar hyd y ffordd fawr. Yn ystod y 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr Isgwyrfai i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra roeddynt yn teithio o Ben Llŷn tua Chaernarfon.
Roedd y Bontnewydd yn cael ei rannu fel pentref rhwng plwyfi Llanbeblig (trefgordd Castellmai) a Llanwnda tan ddegawd olaf y 20g pan unwyd y ddwy ochr i ffurfio cymuned newydd yn cynnwys y pentref, Rhos Bach a phlwyf Llanfaglan, ynghyd â'r darn o blwyf Llanwnda yn cynnwys Plas Dinas hyd at Ffrwd Cae Du.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Archifdy Gwynedd, Llyfr Amodrwymau'r Llys Chwater, Ebrill 1552, t.5