Llandwrog Uchaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Gelwir rhan uchaf plwyf [[Llandwrog]] yn '''Llandwrog Uchaf''', er weithiau fe ddefnyddir yr enw fel enw ar bentref [[Y Fron]] neu [[Cesarea]]. Yn fras, mae'n cynnwys y tir a ddatblygwyd gan sgwatwyr ar y tir comin tua diwedd y 18g ymlaen, lle heddiw ceir pentrefi [[Carmel]], [[Cilgwyn]] a[[Y Fron|'r Fron]], a'r mynydd-dir agored y tu draw.  
Gelwir rhan uchaf plwyf [[Llandwrog]] yn '''Llandwrog Uchaf''', er weithiau fe ddefnyddir yr enw fel enw ar bentref [[Y Fron]] neu [[Cesarea]]. Yn fras, mae'n cynnwys y tir a ddatblygwyd gan sgwatwyr ar y tir comin tua diwedd y 18g ymlaen, lle heddiw ceir pentrefi [[Carmel]], [[Cilgwyn]] a[[Y Fron|'r Fron]], a'r mynydd-dir agored y tu draw.  


Tlodion ac anghydffurfwyr oedd rhelyw y boblogaeth ym mhen ucha'r plwyf ac mi roeddynt yn dueddol o fynd yn groes i ewyllys yr [[Arglwydd Newborough]] mewn cyfarfodydd o festri'r plwyf a reolai faterion plwyfol hyd 1888. Aeth un ficer mor bell â chwyno wrth yr Arglwydd Newborough am "''the rabble from the upper part of the parish''". Tua chanol y 19g, rhannwyd plwyf Llandwrog yn ddwy, gan godi eglwys newydd (St Thomas) ar gyfer rhan ucha'r plwyf rhwng [[Y Groeslon]] a Charmel. Rhaid amau ai oherwydd y drafferth a achoswyd gan y bobl rhydd eu barn hyn gymaint â'r angen am ddarparu man addoliad y codwyd [[Eglwys St Thomas, Y Groeslon]]!
Tlodion ac anghydffurfwyr oedd rhelyw y boblogaeth ym mhen ucha'r plwyf ac mi roeddynt yn dueddol o fynd yn groes i ewyllys yr [[Arglwydd Newborough]] mewn cyfarfodydd o festri'r plwyf a reolai faterion plwyfol hyd 1888. Aeth un ficer mor bell â chwyno wrth yr Arglwydd Newborough am "''the rabble from the upper part of the parish''". Tua chanol y 19g, rhannwyd plwyf Llandwrog yn ddwy, gan godi eglwys newydd (St Thomas) ar gyfer rhan ucha'r plwyf rhwng [[Y Groeslon]] a Charmel. Rhaid amau ai oherwydd y drafferth a achoswyd gan y bobl rhydd eu barn hyn gymaint â'r angen am ddarparu man addoliad y codwyd [[Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon]]!


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori: Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori: Daearyddiaeth ddynol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:23, 11 Ebrill 2019

Gelwir rhan uchaf plwyf Llandwrog yn Llandwrog Uchaf, er weithiau fe ddefnyddir yr enw fel enw ar bentref Y Fron neu Cesarea. Yn fras, mae'n cynnwys y tir a ddatblygwyd gan sgwatwyr ar y tir comin tua diwedd y 18g ymlaen, lle heddiw ceir pentrefi Carmel, Cilgwyn a'r Fron, a'r mynydd-dir agored y tu draw.

Tlodion ac anghydffurfwyr oedd rhelyw y boblogaeth ym mhen ucha'r plwyf ac mi roeddynt yn dueddol o fynd yn groes i ewyllys yr Arglwydd Newborough mewn cyfarfodydd o festri'r plwyf a reolai faterion plwyfol hyd 1888. Aeth un ficer mor bell â chwyno wrth yr Arglwydd Newborough am "the rabble from the upper part of the parish". Tua chanol y 19g, rhannwyd plwyf Llandwrog yn ddwy, gan godi eglwys newydd (St Thomas) ar gyfer rhan ucha'r plwyf rhwng Y Groeslon a Charmel. Rhaid amau ai oherwydd y drafferth a achoswyd gan y bobl rhydd eu barn hyn gymaint â'r angen am ddarparu man addoliad y codwyd Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon!