Plas-yn-Bont: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Wedi i Huw Lewis y clerigwr farw ym 1634, mae'n bosibl i'w fab Morgan ap Huw Lewis a'i wraig Margred, merch Owen Wynn o'r Glasgoed, fyw yno hyd 1641 pan fu farw yntau. Daeth Huw Lewis arall, ŵyr i'r Huw Lewis cyntaf, a mab hynaf y Canon Morgan Lewis a Mary Wynn o Daltreuddyn, yn berchen ar Plas-y-bont. Roedd o'n briod â Jane Twisleton o'r [[Lleuar Fawr]]. Bu farw ym 1729 yn 35 oed a daeth y tŷ i feddiant ei fab, Huw Lewis arall eto - y pederydd o'i deulu i fyw yno. Erbyn hyn, roedd statws ac arian yr hen deulu'n dechrau edwino, a'r plas yn ymdebygu i fawr mwy na ffermdy, canys dyna bellach oedd prif waith y teulu.. Er iddo fedru hawlio ei fod yn un o fân ysgweiriaid plwyf Llanwnda, roedd o hefyd yn nodedig am ei fedd-dod llawen yn nhŷ tafarn un Feistres Gruffudd. Mae un cerdd gwatgwarus yn sôn am "Huw Lewis hy lawen a Huws o Fodaden" fel dau a fynychai'r dafarn yn gyson, a ac a fu mor feddw fel nad oeddent yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng llwynog byw ac un marw!

Beth bynnag am hynny,  ym 1759 pan fu farw, roedd yr Huw Lewis olaf hwn yn berchen ar ystad oedd yn cynnwys Plas-y-bont, Pen y Clip, Tŷ Cnap, Cefn hendre, Traean, Gwaredog, Cae'r Moel, tri thŷ ger y Bont Newydd a Thy'n Llan yn Llanwnda; Llwyn Piod, Cae Bongam a Bwlan ym mhlwyf [[Llandwrog]]; Tai Hirion ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]; LLwyn y Brain yn Llnrug; ac ambell i eiddo arall - sef ystad nid bychan i gymharu â llawer un.
Beth bynnag am hynny,  ym 1759 pan fu farw, roedd yr Huw Lewis olaf hwn yn berchen ar ystad oedd yn cynnwys Plas-y-bont, Pen y Clip, Tŷ Cnap, Cefn hendre, Traean, Gwaredog, Cae'r Moel, tri thŷ ger y Bont Newydd a Thy'n Llan yn Llanwnda; Llwyn Piod, Cae Bongam a Bwlan ym mhlwyf [[Llandwrog]]; Tai Hirion ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]; Llwyn y Brain yn Llnrug; ac ambell i eiddo arall - sef ystad nid bychan i gymharu â llawer un.

Etifeddodd ystad Plas-y-bont gan ferch Huw Lewis, sef Elisabeth Evans, a oedd wedi priodi â Charles Evans o'r [[Llethr Ddu]], plwyf Llanaelhaearn a Threfeilir ym Môn, ac yn y man aeth y tiroedd hyn yn rhan o ystad fwy o lawer, Henblas, Sir Fôn.<ref>W Gilbert Williams, ''op. cit.'', tt.46-48.</ref>

Fersiwn yn ôl 15:19, 15 Awst 2018

Codwyd plasty Plas-y-bont ym 1612 gan y clerigwr a'r diwinydd Huw Lewis. Fe elwir weithiau'n "Blas-yn-bont" mewn dogfennau. Dichon fod tŷ cynharach yno, a elwid yn Bodellog ar ôl y trefgordd y safai ynddo. Nid yn y tŷ hwnnw y cafodd Huw Lewis ei fagu, yn fwy na thebyg, gan i'w dad, Lewis ap William, dderbyn brydles 21 mlynedd ar y lle gan ystad y Faenol ym 1584, ugain mlynedd wedi i Huw Lewis gael ei eni. Mae Plas-y-bont yn dal i sefyll heddiw, ychydig lathenni i'r de o lan Afon Gwyrfai, ym mhlwyf Llanwnda.[1]

Mae'r tŷ deulawr yn edrych fel pe bai wedi ei moderneiddio ers hynny ond mae llawer o'r ffabrig gwreiddiol yn dal yno. Yn wreiddiol, adeilad gweddol fach hirsgwar oedd yno ond tua 1700 adeiladwyd estyniad i'r dalcen ddeheuol a chodi estyniad i'r gorllewin. Yn ystod y 18g, cafwyd estyniad ar y dalcen ogleddol hefyd. Nid yw siâp yr adeilad wedi newid ers hynny, ac mae'n deyg fod y rendring stwco ar rannau o'r waliau allanol hefyd yn dyddio o'r 18g. Mae'r grisiau mewnol, y gwaith wensgot a nodweddion eraill hefyd yn wreiddiol, er bod popeth wedi moderneiddio ar yr olwg gyntaf.[2]

Wedi i Huw Lewis y clerigwr farw ym 1634, mae'n bosibl i'w fab Morgan ap Huw Lewis a'i wraig Margred, merch Owen Wynn o'r Glasgoed, fyw yno hyd 1641 pan fu farw yntau. Daeth Huw Lewis arall, ŵyr i'r Huw Lewis cyntaf, a mab hynaf y Canon Morgan Lewis a Mary Wynn o Daltreuddyn, yn berchen ar Plas-y-bont. Roedd o'n briod â Jane Twisleton o'r Lleuar Fawr. Bu farw ym 1729 yn 35 oed a daeth y tŷ i feddiant ei fab, Huw Lewis arall eto - y pederydd o'i deulu i fyw yno. Erbyn hyn, roedd statws ac arian yr hen deulu'n dechrau edwino, a'r plas yn ymdebygu i fawr mwy na ffermdy, canys dyna bellach oedd prif waith y teulu.. Er iddo fedru hawlio ei fod yn un o fân ysgweiriaid plwyf Llanwnda, roedd o hefyd yn nodedig am ei fedd-dod llawen yn nhŷ tafarn un Feistres Gruffudd. Mae un cerdd gwatgwarus yn sôn am "Huw Lewis hy lawen a Huws o Fodaden" fel dau a fynychai'r dafarn yn gyson, a ac a fu mor feddw fel nad oeddent yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng llwynog byw ac un marw!

Beth bynnag am hynny, ym 1759 pan fu farw, roedd yr Huw Lewis olaf hwn yn berchen ar ystad oedd yn cynnwys Plas-y-bont, Pen y Clip, Tŷ Cnap, Cefn hendre, Traean, Gwaredog, Cae'r Moel, tri thŷ ger y Bont Newydd a Thy'n Llan yn Llanwnda; Llwyn Piod, Cae Bongam a Bwlan ym mhlwyf Llandwrog; Tai Hirion ym mhlwyf Clynnog Fawr; Llwyn y Brain yn Llnrug; ac ambell i eiddo arall - sef ystad nid bychan i gymharu â llawer un.

Etifeddodd ystad Plas-y-bont gan ferch Huw Lewis, sef Elisabeth Evans, a oedd wedi priodi â Charles Evans o'r Llethr Ddu, plwyf Llanaelhaearn a Threfeilir ym Môn, ac yn y man aeth y tiroedd hyn yn rhan o ystad fwy o lawer, Henblas, Sir Fôn.[3]

Cyfeiriadau

  1. W Gilbert Williams, Hen deuluoedd Llanwnda. II - Lewisiad Plas-yn-Bont, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.5 (1944), tt. 41-5.
  2. Comisiwn henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf II, (Llundain, 1960), tt.221-2.
  3. W Gilbert Williams, op. cit., tt.46-48.