Pont Lyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]]. | Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]]. | ||
Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Mae iddi dri bwa, ond mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, t.45</ref> | Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef [[Pont-y-Cim]] yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/158</ref> Mae iddi dri bwa, ond mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, t.45</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 11:20, 13 Mehefin 2019
Pont Lyfni yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef hen ffordd dyrpeg o Caernarfon i Bwllheli, dros Afon Llyfnwy.
Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef Pontlyfni.
Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef Pont-y-Cim yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.[1] Mae iddi dri bwa, ond mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.[2]