Mynachdy Gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:
Mae cofebion i ddauo'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]].<ref>CHC, ''op.cit.'', t.40</ref>
Mae cofebion i ddauo'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]].<ref>CHC, ''op.cit.'', t.40</ref>


{{eginyn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 17:46, 11 Hydref 2018

Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir

Mae Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Cwm. Er bod y tŷ presennol yn hynafol, mae rhannau o dŷ hŷn yn gynwysedig yn y ffabrig, ac yn dyddio'n ôl i'r 16g.[1] Roedd y teulu'n dirfeddianwyr o sylwedd, ond heb fod ymysg y rhai mwyaf sylweddol. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o un o deuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glynniaid Glynllifon, efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Mae cofebion i ddauo'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[2]


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. 2, t. 45
  2. CHC, op.cit., t.40