Hen lwybrau'r cwmwd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Cyn dyddiau'r Rhufeiniaid â'u ffyrdd unionsyth, dichon bod teithio dros y tir yr iseldir yn anodd, oherwydd tyfiant trwchus a chorsdiroedd. Roedd ffermio ar y llethrau fodd bynnag a fyddai wedi gofyn am rywfaint o lwybrau a ffyrdd i gysylltu lle wrth le. At ei gilydd, fodd bynnag, haws oedd teithio ymhell ar y dwr ac er nad oedd afonydd yn [[Uwchgwyrfai]] yn rai y gellid hwylio ar hyd-ddynt, roedd y môr gerllaw, ac mae rhywfaint o dystiolaeth fod y Cymry cynnar wedi gwneud cryn defnydd o'r môr i gysylltu â mannau eraill o'r byd.


Rhaid bod rhyw fath o lwybrau, beth bynnag, rhwng y bryngaerau gwaahanol, a rhyngddyn nhw a thref Rufeinig Segontiwm. Roedd y Rhufeiniaid wedi adeiladu ffordd trwy'r cwmwd o Segontiwm i gaer Bryncir ac ymlaen i Drawsfynydd (Tomen y Mur), a elwid am ganrifoedd yn [[Sarn Helen]], ar ôl y dull o adeiladu (fel sarn ar draws corsdir, a Helen ar ôl Helen Luyddog, mam dybiedig yr Ymherawdwr Cwstennin o Gaernarfon. Am ganrifoedd dyma oedd unig ffordd o sylwedd yn [[Uwchgwyrfai]], mae'n debyg, nes i hyd yn oed crefft y Rhufeiniaid yn ymostwng i draul amser, tywydd a diffyg gofal.
Byddai Sarn Helen yn arwain pobl i Ddyffryn Nantlle ac ymlaen i'r de. I deithwyr oedd am gyrraedd Pen Llŷn, byddai angen croesi tir corsiog  ger y glannau neu, yn fwy tebygol os nad oedd modd defnyddio cwch, deithio ar hyd y traeth ar adeg llanw isel. Yn y man, roedd nifer y teithwyr ar bererindod yn diffinio llwybr diogel o eglwys i eglwys ac o ffynnon i ffynnon ger yr arfordir. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fod pedair o bum eglwys plwyf yn Uwchgwyrfai ger y glannau, tra bod y lall, [[Eglwys Rhedyw Sant, Llanllyfni]], ger croesfan [[Afon Llyfnwy]], lle gellid tybio yr oedd rhyd ar Sarn Helen. Dywedir hefyd mai safle eglwys Llanllyfni'n dyddio'n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid.
O gyfnod y Tuduriaid ymlaen, y plwyfi oedd yngyfrifol am gynnal y ffyrdd, ond gan fod y ffyrdd yn croesi o blwyf i blwyf, nid oeddent mor berthnasol i'r plwyfolion â llwybrau a ffurfiwyd o'r traethau hyd y mynydd-dir, lle cludid calch a gyrrid anifeiliaid i'r porfeydd haf. Datblygodd llwybrau eraill yn arwain at safleoedd o bwysigrwydd lleol, megis y melinau a'r plastai. Mae patrwm "môr i'r mynydd" hwm i'w weld hyd heddiw os ystyrir map sy'n dangos ffyrdd ''a'' llwybrau cyhoeddus fel ei gilydd.
{{eginyn}}


Cyn dyddiau'r Rhufeiniaid â'u ffyrdd unionsyth, dichon bod teithio dros y tir yn iseldir yn anodd, oherwydd tyfiant trwchus a chorsdiroedd. Roedd ffermio ar y llethrau fodd bynnag a fyddai wedi gofyn am rywfaint o lwybrau a ffyrdd i gysylltu lle wrth le. At ei gilydd, fodd bynnag, haws oedd teithio ymhell ar y dwr ac er nad oedd afonydd yn [[Uwchgwyrfai]] yn rai y gellid hwylio ar hyd-ddynt, roedd y môr gerllaw, ac mae rhywfaint o dystiolaeth fod y CYmry cynnar wedi gwneud cryn defnydd o'r môr i gysylltu âmannau eraill o'r byd.


[[Categori:Cludiant]]
[[Categori:Cludiant]]
[[Categori:Ffyrdd]]
[[Categori:Ffyrdd]]

Fersiwn yn ôl 20:39, 3 Gorffennaf 2018

Cyn dyddiau'r Rhufeiniaid â'u ffyrdd unionsyth, dichon bod teithio dros y tir yr iseldir yn anodd, oherwydd tyfiant trwchus a chorsdiroedd. Roedd ffermio ar y llethrau fodd bynnag a fyddai wedi gofyn am rywfaint o lwybrau a ffyrdd i gysylltu lle wrth le. At ei gilydd, fodd bynnag, haws oedd teithio ymhell ar y dwr ac er nad oedd afonydd yn Uwchgwyrfai yn rai y gellid hwylio ar hyd-ddynt, roedd y môr gerllaw, ac mae rhywfaint o dystiolaeth fod y Cymry cynnar wedi gwneud cryn defnydd o'r môr i gysylltu â mannau eraill o'r byd.

Rhaid bod rhyw fath o lwybrau, beth bynnag, rhwng y bryngaerau gwaahanol, a rhyngddyn nhw a thref Rufeinig Segontiwm. Roedd y Rhufeiniaid wedi adeiladu ffordd trwy'r cwmwd o Segontiwm i gaer Bryncir ac ymlaen i Drawsfynydd (Tomen y Mur), a elwid am ganrifoedd yn Sarn Helen, ar ôl y dull o adeiladu (fel sarn ar draws corsdir, a Helen ar ôl Helen Luyddog, mam dybiedig yr Ymherawdwr Cwstennin o Gaernarfon. Am ganrifoedd dyma oedd unig ffordd o sylwedd yn Uwchgwyrfai, mae'n debyg, nes i hyd yn oed crefft y Rhufeiniaid yn ymostwng i draul amser, tywydd a diffyg gofal.

Byddai Sarn Helen yn arwain pobl i Ddyffryn Nantlle ac ymlaen i'r de. I deithwyr oedd am gyrraedd Pen Llŷn, byddai angen croesi tir corsiog ger y glannau neu, yn fwy tebygol os nad oedd modd defnyddio cwch, deithio ar hyd y traeth ar adeg llanw isel. Yn y man, roedd nifer y teithwyr ar bererindod yn diffinio llwybr diogel o eglwys i eglwys ac o ffynnon i ffynnon ger yr arfordir. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fod pedair o bum eglwys plwyf yn Uwchgwyrfai ger y glannau, tra bod y lall, Eglwys Rhedyw Sant, Llanllyfni, ger croesfan Afon Llyfnwy, lle gellid tybio yr oedd rhyd ar Sarn Helen. Dywedir hefyd mai safle eglwys Llanllyfni'n dyddio'n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid.

O gyfnod y Tuduriaid ymlaen, y plwyfi oedd yngyfrifol am gynnal y ffyrdd, ond gan fod y ffyrdd yn croesi o blwyf i blwyf, nid oeddent mor berthnasol i'r plwyfolion â llwybrau a ffurfiwyd o'r traethau hyd y mynydd-dir, lle cludid calch a gyrrid anifeiliaid i'r porfeydd haf. Datblygodd llwybrau eraill yn arwain at safleoedd o bwysigrwydd lleol, megis y melinau a'r plastai. Mae patrwm "môr i'r mynydd" hwm i'w weld hyd heddiw os ystyrir map sy'n dangos ffyrdd a llwybrau cyhoeddus fel ei gilydd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma