Tafarn y Mount Pleasant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd tafarn y '''Mount Pleasant''' yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ger y drofa am [[Rhosisaf|Ros-isaf]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Roedd yn adeilad hynod, a'r bar y tu fewn gyda ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn yn ystod y 19g - cyn hynny, y dafarn oedd yr adeilad ar gornel y drofa i bentrefan [[Dinas]] a fu wedyn yn ficerdy'r plwyf - mae'r lloc neu ddarn pori anifeiliaid gyferbyn â'r adeilad hwnnw'n dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth.
Roedd tafarn y '''Mount Pleasant''' yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ger y drofa am [[Rhos-isaf|Ros-isaf]] ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Roedd yn adeilad hynod, a'r bar y tu fewn gyda ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn yn ystod y 19g - cyn hynny, y dafarn oedd yr adeilad ar gornel y drofa i bentrefan [[Dinas]] a fu wedyn yn ficerdy'r plwyf - mae'r lloc neu ddarn pori anifeiliaid gyferbyn â'r adeilad hwnnw'n dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth.


Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring".
Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring".

Fersiwn yn ôl 10:36, 28 Mehefin 2018

Roedd tafarn y Mount Pleasant yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ger y drofa am Ros-isaf ym mhlwyf Llanwnda. Roedd yn adeilad hynod, a'r bar y tu fewn gyda ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn yn ystod y 19g - cyn hynny, y dafarn oedd yr adeilad ar gornel y drofa i bentrefan Dinas a fu wedyn yn ficerdy'r plwyf - mae'r lloc neu ddarn pori anifeiliaid gyferbyn â'r adeilad hwnnw'n dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth.

Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring".

Caewyd y Mount Pleasant fel tafarn tua'r flwyddyn 2003 ac fe'i gwerthwyd i deulu a drôdd yr adeilad yn fwyty Bangali, sef Bwyty'r Sopna. Ail-ffurfiwyd tu mewn i'r adeilad gan y perchnogion newydd a chollwyd yr holl nodweddion hynafol. Caewyd y bwyty tua 2014, ac mae wedi ei ddymchwel. Disgwylir (2018) i'r safle gael ei ddefnyddio i godi tai.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma