Bwlch Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
==Gwaith mwyngloddio== | ==Gwaith mwyngloddio== | ||
Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos dau o weithfeydd manganîs ar lethrau | Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos dau o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 18:13, 25 Mehefin 2018
Mae Bwlch Mawr yn fryn ar gyrion Uwchgwyrfai uwchben Bwlchderwin a Chapel Uchaf. Ei uchder yw 509 metr neu 1670 troedfedd uwchben y môr. Mae'n ail o ran uchder yn y casgliad o fynyddoedd sydd â'i gopa uchaf a'r Gurn Ddu sydd yn 522 metr o uchder. Dichon fod yr enw'n deillio o bresenoldeb pant neu fwlch rhwng y copa ei hun a thir uchel arall gerllaw (dim ond 5 troedfedd yn is, sydd yn creu bwlch amlwg iawn o bell.
Ar ochr ddwyreiniol Bwlch Mawr, uwchben Hengwm, ceir pant o'r enw Y Seler Ddu, sydd yn darddle Afon Dwyfach.
Ffurfiwyd y bryn o graig igneaidd o'r cyfnod Palaeosoig.
Gwaith mwyngloddio
Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos dau o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma