Aberdesach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Aberdesach.jpg|bawd|500px|de]]
[[Delwedd:Aberdesach.jpg|bawd|500px|de]]


Saif '''Aberdesach''' ar lan y môr ryw filltrir i'r gogledd o bentref [[Clynnog Fawr]], a milltir i'r de o bentref [[Pontlyfni]]. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach. Ystyr din yw 'dinas', sef caer; ac mae ''Desach'' yn debygol o olygu "yn perthyn i lwyth i Deisi" sef llwyth Gwyddelig.<ref>Wicipedia: tudalen ar Aberdesach, yn dyfynnu R>J>Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd, 1938), t.13</ref> Mae [[Maen Dylan]] ar lan y môr hanner ffordd rhwng y ddau le. Mae Aberdesach yn rhan o blwyf Clynnog, ac mae'n cael ei enw, yn syml, oherwydd i [[Afon Desach]] redeg i'r mor yn y fan hon.
Saif '''Aberdesach''' ar lan y môr ryw filltrir i'r gogledd o bentref [[Clynnog Fawr]], a milltir i'r de o bentref [[Pontlyfni]]. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach. Ystyr din yw 'dinas', sef caer; ac mae ''Desach'' yn debygol o olygu "yn perthyn i lwyth i Deisi" sef llwyth Gwyddelig.<ref>Wicipedia: tudalen ar Aberdesach, yn dyfynnu R.J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd, 1938), t.13</ref> Mae [[Maen Dylan]] ar lan y môr hanner ffordd rhwng y ddau le. Mae Aberdesach yn rhan o blwyf Clynnog, ac mae'n cael ei enw, yn syml, oherwydd i [[Afon Desach]] redeg i'r mor yn y fan hon.


Enw'r bont ar y briffordd dros yr Afon desach yw "Pont Aberdesach".
Enw'r bont ar y briffordd dros yr Afon desach yw "Pont Aberdesach".

Fersiwn yn ôl 18:55, 14 Mehefin 2018

Saif Aberdesach ar lan y môr ryw filltrir i'r gogledd o bentref Clynnog Fawr, a milltir i'r de o bentref Pontlyfni. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach. Ystyr din yw 'dinas', sef caer; ac mae Desach yn debygol o olygu "yn perthyn i lwyth i Deisi" sef llwyth Gwyddelig.[1] Mae Maen Dylan ar lan y môr hanner ffordd rhwng y ddau le. Mae Aberdesach yn rhan o blwyf Clynnog, ac mae'n cael ei enw, yn syml, oherwydd i Afon Desach redeg i'r mor yn y fan hon.

Enw'r bont ar y briffordd dros yr Afon desach yw "Pont Aberdesach".

Ceir yno gasgliad bach o dai, rhai ohonynt yn dai a godwyd yn weddol rad fel cabanau aros ar lan môr yn y 1920au a 1930au.

Ni bu erioed gapel nag ysgol yma, ond roedd adeilad Yr Iard efo'i waliau uchel arfer gweithredu fel man gadw a dosbarthu glo, gan fod llongau bach hwylio arfer dod â llwythi o lo i'r traeth, gan eistedd ar y traeth i ddadlwytho wedi i'r llanw fynd allan - arfer cyffredin yn y parthau hyn yn y 19g. Roedd odyn galch hefyd yn y cyffiniau, i drin carreg galch a gariwyd i'r ardal i'w ddefnyddio'n wrtaith.

Ger Aberdesach i gyfeiriad Clynnog Fawr ar lan y môr yr oedd rhes o fythynnod pysgotwyr a elwid "Y Borth"; maent wedi diflannu o ganlyniad i erydiad yr arfordir.[2]

Nid nepell o Aberdesach ceir fferm fawr Penarth, y'i chysylltir â hanesion y Mabinogi.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia: tudalen ar Aberdesach, yn dyfynnu R.J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd, 1938), t.13
  2. Gwefan Dyffryn Nantlle, [www.nantlle.com/aberdesach-cymraeg.htm]