Deddfau'r Tlodion yn Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llinell 71: Llinell 71:
Ond fe gafodd 'darpariaeth apêl' hefyd ei sefydlu fel rhan o Ddeddf 1601, er mwyn darparu cyfle i'r tlodion hynny yr oedd yr arolygwr, am ryw reswm neu'i gilydd, wedi gwrthod eu cais am gymorth gan y plwyf. Mewn achosion o'r fath gallasai'r tlodion ddwyn eu cwynion at yr Ustusiaid Heddwch yng nghyfarfod o'r Sesiwn Chwarter.
Ond fe gafodd 'darpariaeth apêl' hefyd ei sefydlu fel rhan o Ddeddf 1601, er mwyn darparu cyfle i'r tlodion hynny yr oedd yr arolygwr, am ryw reswm neu'i gilydd, wedi gwrthod eu cais am gymorth gan y plwyf. Mewn achosion o'r fath gallasai'r tlodion ddwyn eu cwynion at yr Ustusiaid Heddwch yng nghyfarfod o'r Sesiwn Chwarter.


Mae yna un darn o ddeddfwriaeth yr hoffwn ddwyn i'ch sylw mewn perthynas â Deddf y Tlodion 1601.  Deddf Adrefnu (Act of Settlement) yw honno, a ddaeth i rym yn y flwyddyn 1662, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiaeth y brenin Siarl II. Er mai'r teitl a roddwyd arni yw 'Deddf er darparu cymorth gwell ar gyfer y tlodion (An Act for the better relief of the poor.'), mae hi'n ymwneud ag adrefnu a symud tlodion. Roedd Deddf 1601 wedi rhagweld poblogaeth sefydlog - poblogaeth na fyddai'n symud o'i hardaloedd eu hunain, yn aros yn eu libart eu hunain, gan wneud eu peth eu hunain, a phe byddant yn mynd i drafferthion ac yn methu cynnal eu hunain, yn aros yn lleol, gan ddefnyddio'r cymorth yn y plwyf lleol oedd ar gael iddyn nhw. Yn anffodus, nid fel hyn y bu hi. Ynghyd â'r cynnydd yn y boblogaeth yn gyffredinol, a phôl yn gynyddol symud, yn enwedig o Iwerddon, gyda'r newidiadau economaidd-gymdeithasol oedd ar droed yn y deyrnas, y ddeddf hon, 'Deddf Ardrefnu 1662', o bosib, yn fwy na dim arall, oedd yr hoelen yn arch Hen Ddeddf y Tlodion, ac yn anorfod, a arweiniodd yn y pen draw at y newidiadau a ddaeth i rym yn y flwyddyn 1834, gyda Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion, y brif ddeddfwriaeth a ddaeth yn sgil y gyntaf o'r Deddfau Diwygio, ac a newidiodd yn gyfan gwbl y dull o ddelio ag anghenion y tlodion.
Mae yna un darn o ddeddfwriaeth y dylid sôn amdano mewn perthynas â Deddf y Tlodion 1601.  Y Ddeddf Adrefnu (Act of Settlement) yw honno, a ddaeth i rym yn y flwyddyn 1662, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiaeth y brenin Siarl II. Er mai'r teitl a roddwyd arni yw "Deddf er darparu cymorth gwell ar gyfer y tlodion" (''An Act for the better relief of the poor''), mae hi'n ymwneud ag adrefnu a symud tlodion. Roedd Deddf 1601 wedi rhagweld poblogaeth sefydlog - poblogaeth na fyddai'n symud o'i hardaloedd eu hunain, yn aros yn eu libart eu hunain, gan wneud eu peth eu hunain, a phe byddant yn mynd i drafferthion ac yn methu cynnal eu hunain, yn aros yn lleol, gan ddefnyddio'r cymorth yn y plwyf lleol oedd ar gael iddyn nhw. Yn anffodus, nid fel hyn y bu hi. Ynghyd â'r cynnydd yn y boblogaeth yn gyffredinol, a phobl yn gynyddol symudol, yn enwedig o Iwerddon, gyda'r newidiadau economaidd-gymdeithasol oedd ar droed yn y deyrnas, y ddeddf hon, 'Deddf Ardrefnu 1662', o bosib, yn fwy na dim arall, oedd yr hoelen yn arch Hen Ddeddf y Tlodion, ac yn anorfod, fe arweiniodd yn y pen draw at y newidiadau a ddaeth i rym yn y flwyddyn 1834, gyda Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion fel y brif ddeddfwriaeth a newidiodd yn gyfan gwbl y dull o ddelio ag anghenion y tlodion.


=Cyfeiriadau=
=Cyfeiriadau=

Fersiwn yn ôl 11:54, 9 Mai 2018

Ymysg y dogfennau, sy'n rhan o gasgliad enfawr yr Archifdy yng Nghaernarfon, mae llawer yn ymwneud â'r gwaith o gynnal y tlodion yn unol â Deddfau'r Tlodion ar draws y sir trwy'r pum ganrif ddiwethaf, gan gynnwys llawer o sôn am y gwaith hwn yn Uwchgwyrfai. [1]

Cynnal y Tlodion cyn dyddiau Deddf y Tlodion

Cefndir a datblygiadau cynnar

Yn y ddeuddegfed bennod o Efengyl Ioan, gallwn ddarllen yr hanes am Fair, chwaer Lasarus, yn eneinio traed Iesu â phersawr drudfawr. Fe wnaeth Jwdas Iscariot, a fyddai'n bradychu Iesu, leisio'n ddi-flewyn ar dafod ei wrthwynebiad chwyrn i'r weithred symbolaidd honno, gan ddweud y gallasai'r persawr hwnnw fod wedi cael ei werthu am 300 denarï (cryn swm o arian bryd hynny) a'r arian hwnnw ei roi i'r tlodion. Ymateb Iesu oedd datgan:

"Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond nid wyf fi gyda chwi bob amser."

sydd yn debyg i'r hyn a ddywedodd Syr George Nicholls, a fu unwaith yn Ysgrifennydd i Fwrdd Cyfraith y Tlodion ac a fu hefyd yn Gomisiynydd Cyfraith y Tlodion, yn y gyfrol gyntaf o'r ddwy a gyhoeddodd yn adrodd hanes Ddeddf y Tlodion Seisnig:

"Ym mhob gwlad, ac ym mhob cyflwr o gymdeithas, mae amddifadrwydd wedi bodoli, ac o natur pethau, bydd yn bodoli'n dragywydd."

ac fel pe byddai am bwysleisio'i sylw, mae'n datgan ymhellach:

..."ac ar gyfer y ganran berthnasol y mae'r tlodion yn rhan o'r boblogaeth gyfan, a'r modd y caiff dosbarth y tlodion hyn eu trafod, y bydd cyflwr cyffredinol y cyfanswm nid o leiaf yn dibynnu."

Mae'n saff i ni awgrymu, felly, bod sefydlu Deddf y Tlodion, ar unrhyw ffurf, neu weithdrefn trwy'r hon y bydd rhyw fath o gymorth yn cael ei roi i'r tlodion, yn gorfod cael ei ystyried fel arwydd o wareiddiad sy'n datblygu, ac yn arwydd o ddynoldeb cadarnhaol. Bydd unrhyw gynnydd yn cael ei wneud, er lles daioni'n gyffredinol.

Heddiw, gyda'r holl ddatblygiadau sydd wedi digwydd i gynyddu ein gwybodaeth am hen wareiddiadau'r byd, yr ydym mewn safle llawer gwell nag ymchwilwyr y gorffennol i ddirnad a deall yr hyn a wyddom, er enghraifft, mai yng nghyfnod yr Hen Destament, roedd yr Israeliaid a'u cymdogion yn y Dwyrain Canol, yn darparu rhywfaint o gymorth i'r tlodion. Yn Llyfr Deuteronomium, pumed llyfr yn yr Hen Destament gallwn ddarllen:

"Pan fyddi wedi medi dy gynhaeaf ond wedi anghofio ysgub yn y maes, paid â throi'n ôl i'w chyrchu ; gad hi yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, er mwyn i'r ARGLWYDD dy Dduw dy fendithio yn holl waith dy ddwylo."  (Deut. 24. 19)

Hen egwyddor, felly, gyda grym crefydd y tu ol iddo, yw meddwl am y tlodion a gweithredu mewn ffordd y gellir fod o gymorth iddynt. Ac yma, yng Nghymru, roedd un o'n brenhinoedd, yr un a oedd, o bosib, yn bencampwr ar gyfansoddi cyfreithiau, Hywel Dda (c.880 - 950 OC) wedi gorchymyn bod y teulu, yn ei ffurf estynedig - at y perthnasau hynny, hyd y drydedd a'r pedwerydd cefnder, yn cael ei wneud yn gyfrifol am les yr uned deuluol. Yr oedd rhywbeth cyffelyb yn digwydd hefyd yn Lloegr Eingl-sacsonaidd, tua'r un cyfnod, yn achos teuluoedd, dan ddeddfau a basiwyd yn ystod teyrnasiaeth y Brenin Athelstan (924 OC) a'r Brenin Cnut (1017 OC). Bwriad y cyfan o'r deddfau hyn oedd gwella amodau byw i drigolion y wlad, nid yn unig trwy blismona'r carfanau hynny oedd yn creu diflastod ac anghydfodau, fel y drwgweithredwyr crwydrol hynny oedd yn boen i gymunedau, ond hefyd trwy wneud y teulu yma yng Nghymru a'r penteulu yn Lloegr, yn gyfrifol am y digartref. Yn ychwanegol roedd gofyn i'r rhai oedd yn berchen ar eiddo i ddarparu am anghenion y tlodion dan eu gofal, oedd heb ddim. A chawn ein hatgoffa gan hanes fel y gall adegau cythryblus, fel dyfodiad y Pla a methiant cnydau, gynyddu'n enfawr yr achosion o dlodi i'r fath raddau fel bo rheidrwydd i rywbeth gael ei wneud er mwyn osgoi trychineb cymdeithasol dybryd.

Datblygiadau yn Lloegr

Gan fod y deddfau mwyaf grymus i gynnal y tlodion wedi eu poasio wedi i Gymru ddod o dan reolaeth Senedd Lloegr, rhaid son sm ddatblygiadau dros y ffin yn ystod y Canol oesoedd er mwyn deall cefndir deddfau diweddarach.

Y cyntaf o'r brenhinoedd yn Lloegr i roi sylw i gyflwr y tlodion oedd Rhisiart II. Yn y flwyddyn 1388, pasiwyd y 12fed Statud trwy ei orchymyn, mewn ymateb i'r prinder affwysol o weithwyr amaethyddol oedd ar gael i drin y tir o achos y Pla Du. Cyrhaeddodd y Pla difrodus hwnnw borthladd Bryste yn y flwyddyn 1348, pan oedd Edward III yn teyrnasu, a lledaenodd yn gyflym dros y wlad gyfan, gan ysgubo ymaith, yn ddidrugaredd, un o bob tri o boblogaeth Cymru a Lloegr; poblogaeth oedd bryd hynny yn ddwy filiwn a hanner mewn nifer. Un canlyniad amlwg iawn i'r trychineb hwnnw oedd bod nifer fawr o grefftwyr o gefn gwlad ynghyd â labrwyr iddyn nhw wedi symud i'r trefi i gael gwaith. Roedd y deddfau a basiwyd yn ystod cyfnod Edward III wedi ffafrio masnach yn y trefi yn fwy nag yng nghefn gwlad.

Felly, gyda phrinder gweithwyr nid yw'n syndod bod cryn anfodlondeb a theimladau cryf am fwy o hawliau wedi amlygu eu hunain ymhlith y werin bobl. Yn fuan dechreuodd yr anfodlonrwydd hwn droi yn wrthryfel. Yr enw a roddwyd ar yr helynt yw 'Gwrthryfel y Werin', a'r enw a gysylltir yn bennaf â'r anghydfod yw Wat Tyler. Roedd y gwrthryfelwyr gwerinol hyn yn ceisio rhoi diwedd ar daeogaeth, oedd yn rhan annatod o'r drefn ffiwdal, a oedd wedi bodoli ers cyfnod y 'goncwest Normanaidd' yn y flwyddyn 1066, os nad ynghynt, a cheisio cael y meistri tir i roi gostyngiad yn y rhenti yr oedd y werin bobl yn gorfod eu talu i'w meistri am gael byw ar y tir. Byrhoedlog iawn fu'r gwrthryfel, ac ni fu'r Brenin Edward fawr o dro yn rhoi terfyn arni.

Ond fe welodd Rhisiart II, yn wyneb yr argyfwng oedd wedi dod yn sgil y Pla Du, fod yn rhaid iddo yntau ganiatáu rhai newidiadau. Ceisiodd y ddeddf hon, Deddf 1388, gan Rhisiart II gyflwyno cyflog teg i weision a gyflogid mewn hwsmonaeth, pryd, er enghraifft, y gallasai un a gyflogid fel beili, ar ben uchaf y raddfa gyflog bryd hynny, ar ddiwedd blwyddyn o waith, â ganddo un siwt o ddillad, ddisgwyl ennill cyflog o 13 swllt a 4 ceiniog, tra na allasai gyrrwr gwŷdd (aradr), ar ben isaf y raddfa, ddisgwyl ond hanner hynny, sef 7 swllt ar y mwyaf. Caniataodd y 12fed Statud hon o eiddo Rhisiart II hefyd i bobl symud o gwmpas y wlad er mwyn chwilio am waith, os oedd ganddyn nhw lythyr yn rhoi'r hawl iddyn nhw deithio i ffwrdd o'r ardal lle oedd eu 'setliad' (sef y plwyf lle'r oeddynt yn perthyn). Ond, fodd bynnag, pe byddai'r crwydriaid hyn yn dod yn dlodion analluog, ac yn cael eu darganfod yn begera o gwmpas y trefi, byddai'n ofynnol mynd â nhw'n ôl o fewn deugain diwrnod ar ôl i'r Statud gael ei gyhoeddi, neu aros yn y lle hwnnw am weddill eu dyddiau. Nid yw'r Statud yn crybwyll o gwbl yr hyn a ddigwyddai i unrhyw gymorth oedd ar gael iddyn nhw, felly yn ôl pob tebyg fe'i gadawyd ar ben eu hunain i chwilio am unrhyw elusen a chymorth yr oedden nhw'i angen i oroesi.

Harri VIII yn cyflwyno trefn gosbi lym

Pan gymerodd Harri VIII feddiant o goron Lloegr, roedd poblogaeth Cymru a Lloegr wedi cyrraedd pedair miliwn. Yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiaeth, pasiwyd deddf, gan y Brenin Harri. Yn ôl y 10fed bennod ohoni, yr oedd y brenin wedi rhoi'r gallu iddo'i hun i ddelio â phresenoldeb cynyddol o 'Eifftiaid' yn y wlad hon. Roedd y bobl hyn, sy'n adnabyddus i ni fel Sipsiwn yn cael eu disgrifio yn y Ddeddf honno fel pobl dwyllodrus, oedd yn 'cyflawni troseddau ysgeler, er mawr niwed a dihoeniad y bobl y maen nhw wedi dod i fyw yn eu mysg.' Cymer y ddeuddegfed bennod o'r un Ddeddf, fodd bynnag, olwg fanylach ar y testun o dlodi, sydd dan sylw gennym. Roedd y bennod honno'n delio â chosbi 'cardotwyr a chrwydriaid'. Yn ôl rhagair y Ddeddf 'ym mhob lle drwy'r deyrnas hon, mae crwydriaid a chardotwyr dros gyfnod hir, wedi cynyddu, ac yn ddyddiol yn parhau i gynyddu mewn niferoedd mawr ac eithafol, trwy fod yn ddiog, sydd yn fam i, a gwraidd pob drygioni' . . . ac â ymlaen i ddisgrifio sut yr oedd y cardotwyr a'r crwydriaid hyn wedi dod yn fygythiad gwirioneddol i les pobl a diogelwch y genedl.

Ac yna â'r Ddeddf yn ei blaen trwy orchymyn, fod yr Ustusiaid Heddwch, meiri, siryfion a swyddogion o gyfnod i gyfnod, yn unol â'r hyn oedd yn rhan o'u hawdurdod, i wneud archwiliadau manwl o holl dlodion oedrannus a phobl analluog sy'n byw ar gardod ac elusen' . . . 'a'u bod i gofrestru eu henwau mewn bil neu rôl wedi ei fewnoli, gydag un rhan ohoni i aros yn eu meddiant hwy, a'r rhan arall i'w ddilysu yng nghyfarfod dilynol o'r Sesiwn Chwarter, ac i aros yno dan ofal y Custos Rotularum, neu Geidwad Cofnodion y Sir.

Heblaw hynny, dywed y Ddeddf bod yn ofynnol i'r Ustusiaid baratoi llythyr i'w anfon at y 'tlodion oedrannus' a'r 'rhai analluog' yn caniatáu iddyn nhw fegera am gyfnod penodol. O gael eu dal yn begera heb y cyfryw lythyr byddai traed y truan yn cael eu gosod mewn cyffion am ddau ddiwrnod a dwy noson. Byddai'r tlotyn yn cael ei fwydo ar fara a dŵr yn unig, ac yna'n cael ei drosglwyddo i gwnstabl y cantref i'w chwipio yn y fan a'r lle neu gael ei glymu a'i osod ar drol a'i chwipio wrth gael ei lusgo o amgylch y dref. Byddai'r truan wedyn yn gorfod gwneud llw difrifol i ddychwelyd i'r lle y cafodd ei eni, ac aros yno.

Prif swyddogion Deddf y Tlodion

Un o brif nodweddion dull rheoli'r wlad y Tuduriaid oedd trosglwyddo mwy a mwy o gyfrifoldebau lleol i swyddogion lleol, a ffurfiwyd swyddi newydd yn seiliedig ar y plwyf. Ym 1536 sefydlwyd y swydd o Ynad Heddwch yng Nghymru, i gadw trefn ond hefyd i oruchwylio gweinyddiad y sir, trwy gyfrwng cyfarfodydd a elwid yn "Sesiynau Chwarter".

Yr Ynad Heddwch

Swyddog oedd hwn a fyddai'n cael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor ar ran y Goron, a hyd yn ddiweddar yr oedd yn orfodol iddo fod yn berson o bwys, ac yn eithaf ariannog. Yng nghyfnod y Tuduriaid roedd yn rhaid i bob Ustus fod yn berchen tiroedd a oedd yn werth mwy nag £20 - swm mawr o arian bryd hynny. Ei brif waith oedd gofalu bod cyfraith y wlad yn cael ei gweithredu'n lleol, ond yr oedd yn cael cymorth swyddog sirol, sef "Clerc yr Heddwch" a wyddai gryn fwy nag ef am y gyfraith. Mewn llysoedd arbennig, oedd yn cael eu cynnal bob tri mis, a elwid yn "Sesiwn Chwarter" neu "Lys Chwarter" byddai dau neu fwy o'r Ustusiaid yn gwrando ar achosion am hynt a helynt crwydriaid digartref, mân droseddau, ac amrywiaeth o achosion eraill a ddygid ger eu bron gan Gwnstabl y Plwyf, neu gan y bobl eu hunain. Mae'r swydd yn parhau mewn bodolaeth, ac nid yw rhai o'r dyletswyddau a wneir gan Ustusiaid heddiw yn wahanol iawn i'r hyn a wnaethpwyd ganddynt dair canrif yn ôl.

Arolygwr y Tlodion

Cafodd y swydd hon ei ffurfio i ddechrau yn y flwyddyn 1572, ond yn Neddf y Tlodion 1601 eglurir yn fanylach ddyletswyddau'r sawl oedd yn ei gweithredu. Yr oedd yr Ustusiaid, un ôl Deddf 1601, i alw cyfarfod yn ystod y Pasg bob blwyddyn - cyfarfod a elwid "y Festri" - ac i ethol "un neu ddau o wŷr gonest o blith y plwyfolion i ofalu am anghenion y tlodion". Gwaith di-dâl oedd gwaith yr Arolygwr, ac fe roddai'r bobl eu cas ar y swydd. Blwyddyn yn unig oedd tymor arferol y gwasanaeth oedd yn ddisgwyliedig ganddynt ac ymysg y dyletswyddau, ond roedd yn ofynnol iddynt gadw cyfrifon manwl am bob ceiniog yr oeddynt yn eu gwario ar gynorthwyo'r tlodion, a'u cyflwyno gerbron y Festri bob blwyddyn. Eu cyfrifon hwy yw'r dogfennau mwyaf diddorol a welwn o'r cyfnod hwn sy'n ymwneud â'r tlodion.

Cwnstabl y Plwyf

Gweithiai'r Cwnstabl hefyd i'r Ustusiaid Heddwch, ond roedd ei swydd yn hŷn o lawer na'r cyfryw, ac yn dyddio o gyfnod y Canol Oesoedd. Fel arfer, gŵr mawr, cadarn a chryf oedd cwnstabl y plwyf, ac ni ddylid ei gysylltu o gwbl â phlismon yr oes hon. Ei brif ddyletswydd oedd ceisio cadw heddwch; ac i 'restio' crwydriaid a'u hebrwng dan orchymyn Ustus[2] i ffin y plwyf. Yno roedd cyfrifoldeb arno i'w trosglwyddo i gwnstabl arall, a fyddai yn ei dro, yn gofalu bod unrhyw grwydriaid yn cyrraedd yn ôl i'r plwyf lle'r oedd ganddynt 'setliad', fel arfer y plwyf lle cawsant eu geni. Yn ôl y Ddeddf, y plwyf hwnnw oedd, yn ôl y gyfraith, yn gyfrifol amdanynt. Yr oedd yntau, fel Arolygwr y Tlodion, yn cadw cyfrifon a chofnodion am unrhyw arian cyhoeddus a wariai wrth weinyddu ei waith fel cwnstabl. Os oedd Arolygwr Tlodion y plwyf yn swydd amhoblogaidd, roedd y swydd hon yn llai boblogaidd byth, ac fe ddelid am flwyddyn cyn ei phasio ymlaen at rywun arall fel arfer. Ceir rhestrau o gwnstabyliaid y gwahanol blwyfi ymysg papurau'r Sesiwn Chwarter.

Warden yr Eglwys

Ym mhob eglwys mae dau Warden, ac y maent, gyda'r Rheithor/Ficer, sef yr offeiriad â gofal o'r plwyf, yn gyfrifol am gadw trefn ar bob adeilad eglwysig yn y plwyf ac ar unrhyw eiddo arall sy'n perthyn i'r eglwys. Er bod y swydd ei hun yn hŷn na 1600, rhwng 1601 ac 1834, hwy, gyda'r Ustusiaid, oedd yn bennaf gyfrifol am godi treth ar y plwyfolion a rhoi cyfran o'r arian a gasglwyd drwy'r dreth honno tuag at anghenion y tlodion. Fe'i hetholwyd gan y Plwyf, yr uned o lywodraeth leol yn y cyfnod hwnnw, ac yr oeddynt yn rhan bwysig o bwyllgor y Plwyf. Swydd ddi-dâl a gwirfoddol oedd hon eto. Bryd hynny, a hyd heddiw, rhaid iddynt gyflwyno adroddiad ariannol gerbron y 'Festri'. Mae rhai o'u hadroddiadau, fel y rhai a welwn mewn dogfennau yng nghasgliad yr Archifdy, yn ddiddorol dros ben, oherwydd eu bod yn adlewyrchu'r cyfnod pryd y cawsant eu hysgrifennu.

Deddf y Tlodion, 1601

Pan ddaeth Elizabeth yn frenhines ym mis Tachwedd 1558, gosodwyd y manion a'r rhannau o'r ddeddfwriaeth a ddaeth i fodolaeth gan ei rhagflaenwyr ar sylfaen cadarnach. Pasiwyd deddfau yn ystod teyrnasiaeth Elizabeth I ym 1563 a 1576 a wnaeth roi mwy o eglurhad ar y ddeddfwriaeth flaenorol,ond y ddeddf a basiwyd yn y flwyddyn 1597 yn y ddeugeinfed flwyddyn namyn un o'i theyrnasiaeth oedd yr un a ddan-ategodd yr enwog ddeddf a basiwyd yn y drydedd flwyddyn a deugain o'i theyrnasiaeth, sef Deddf y Tlodion 1601. Fe barhaodd y gyfundrefn a ddaeth i fodolaeth trwy orchymyn Elizabeth Iaf yn y ddeddf hon am 233 o flynyddoedd ar ôl hynny.

Deddf 1601, sydd heb y rhaglith arferol, (yn gosod ger bron y camweddau oedd i'w cywiro a'r daioni oedd yn ddisgwyliedig ganddi), oedd yr un i roi cychwyn o ddifrif ar estyn cymorth i'r tlodion. Â Deddf 1601 ati'n syth i ddelio â'r busnes dan sylw. Mae'r ddeddf yn gorchymyn y bydd, ymhob plwyf yn y deyrnas, "bedwar, dri neu ddau o bennau-teuluoedd o statws sylweddol, dan law a sêl dau neu fwy o Ustusiaid Heddwch, yn cael eu henwebu, yn ystod Wythnos y Pasg, a bod y rhain, ynghyd â Wardeniaid yr Eglwys, yn dod yn Arolygwyr y Tlodion." Bydd yr arolygwyr hyn yn gyfrifol am ... "yn wythnosol neu fel arall ymhob plwyf, trwy drethiant ar bob preswyliwr, berson plwyf, ficer ac eraill ynghyd â pherchnogion tir, tai, degymau amfeddiad a rhanberchenogaeth o ddegymau, pyllau-glo a than-goedwigoedd y gellir eu gwerthu, yn y plwyf a enwir, trwy gyfansymiau cymwys o arian yn ôl eu barn," ar gyfer y bwriadau canlynol: • ar gyfer rhoi ar waith y plant hynny y credir na fydd eu rhieni yn gallu eu cadw a'u cynnal; • ar gyfer rhoi ar waith yr holl bobl sy'n briod neu'n ddi-briod, heb y gallu i'w cynnal ac sy'n defnyddio masnach ddyddiol a chyffredin i fyw o ddydd i ddydd; • ar gyfer darparu cyflenwad cyfleus o lin, cywarch, gwlân, edafedd, haearn a nwyddau a deunyddiau, er mwyn rhoi'r tlodion ar waith; • ar gyfer estyn cymorth angenrheidiol i'r cloffion, yr analluog, yr oedrannus, y deillion ac eraill yn eu plith sy'n dlawd, ac yn methu â gweithio.

Byddai'n ofynnol i'r swyddogion hyn gyfarfod, fel yr oedd y ddeddf a basiwyd yn y flwyddyn 1597 yn mynnu, o leiaf unwaith y mis, yn eglwys y plwyf, ar derfyn Gwasanaeth Dwyfol ar y Sul, i ystyried ym mha ffordd y dylid dosbarthu'r arian a gasglwyd. Rhaid oedd cadw cyfrifon. Canlyniad unrhyw gam-gyfrifo fyddai dirwy o ugain swllt (sef £1). Y Cyweirdy neu'r carchar oedd yn aros pawb oedd yn ymgeisio am gymorth gan y plwyf, pe byddid yn darganfod wedyn eu bod yn alluog i weithio. Byddai'r Cyweirdy Sirol wedi ei sefydlu'n briodol trwy Ddeddf a fyddai'n dod i rym chwe blynedd yn ddiweddarach. Bwriadwyd y lleoedd hyn i fod yn fannau lle y byddai gwaith, ar raddfeydd cyflog lleol ar gael i'r di-waith, ac yn lleoedd hefyd y gellid gorfodi'r un drefn ar y diog rai a'r crwydriaid. Yn fuan, fodd bynnag, yn ôl Sidney a Beatrice Webb, sydd wedi ysgrifennu'n helaeth ar y testun dan sylw, fe ddaeth y Cyweirdai hyn yn fwy o leoedd o gosb na lleoedd oedd yn cynnig gwaith. Ymhen dim amser fe ddaethon nhw'n ffurfiau o garchardai cymunedol yn gwbl ar wahân i Wyrcws y plwyf.

Ond fe gafodd 'darpariaeth apêl' hefyd ei sefydlu fel rhan o Ddeddf 1601, er mwyn darparu cyfle i'r tlodion hynny yr oedd yr arolygwr, am ryw reswm neu'i gilydd, wedi gwrthod eu cais am gymorth gan y plwyf. Mewn achosion o'r fath gallasai'r tlodion ddwyn eu cwynion at yr Ustusiaid Heddwch yng nghyfarfod o'r Sesiwn Chwarter.

Mae yna un darn o ddeddfwriaeth y dylid sôn amdano mewn perthynas â Deddf y Tlodion 1601. Y Ddeddf Adrefnu (Act of Settlement) yw honno, a ddaeth i rym yn y flwyddyn 1662, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiaeth y brenin Siarl II. Er mai'r teitl a roddwyd arni yw "Deddf er darparu cymorth gwell ar gyfer y tlodion" (An Act for the better relief of the poor), mae hi'n ymwneud ag adrefnu a symud tlodion. Roedd Deddf 1601 wedi rhagweld poblogaeth sefydlog - poblogaeth na fyddai'n symud o'i hardaloedd eu hunain, yn aros yn eu libart eu hunain, gan wneud eu peth eu hunain, a phe byddant yn mynd i drafferthion ac yn methu cynnal eu hunain, yn aros yn lleol, gan ddefnyddio'r cymorth yn y plwyf lleol oedd ar gael iddyn nhw. Yn anffodus, nid fel hyn y bu hi. Ynghyd â'r cynnydd yn y boblogaeth yn gyffredinol, a phobl yn gynyddol symudol, yn enwedig o Iwerddon, gyda'r newidiadau economaidd-gymdeithasol oedd ar droed yn y deyrnas, y ddeddf hon, 'Deddf Ardrefnu 1662', o bosib, yn fwy na dim arall, oedd yr hoelen yn arch Hen Ddeddf y Tlodion, ac yn anorfod, fe arweiniodd yn y pen draw at y newidiadau a ddaeth i rym yn y flwyddyn 1834, gyda Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion fel y brif ddeddfwriaeth a newidiodd yn gyfan gwbl y dull o ddelio ag anghenion y tlodion.

Cyfeiriadau

  1. Roedd yna becyn o ddogfennau wedi cael ei baratoi gan yr Archifdy ar gyfer ysgolion ar yr union destun, a rhai o'r dogfennau yn y pecyn hwnnw, fydd yn ffurfio cefndir i'r manylion a geir yma.
  2. Gwelir y gorchmynion hyn weithiau naill ai gyda phapurau'r plwyf neu ymysg cofnodion y Sesiwn Chwarter, ac fe'u geelwid yn orchmynion symud neu "removal orders"