Bae Caernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Bae Caernarfon''' yw enw'r darn o fôr sy'n gorwedd rhwng Ynys Môn ac arfordir cwmwd [[Uwchgwyrfai]], sef rhwng Ynys Lawd a Phortinlläen. Mae'n ffurfio darn triongl o fôr, ac yn ei gornel mae [[Abermenai]], lle mae Afon Menai yn ymarllwys i'r môr. Mae'r "bar", sef y banciau tywod wrth geg yr afon yn gorwedd beth pellter o Abermenai, fodd bynnag, rhwng [[Dinas Dinlle]] ac | '''Bae Caernarfon''' yw enw'r darn o fôr sy'n gorwedd rhwng Ynys Môn ac arfordir cwmwd [[Uwchgwyrfai]], sef rhwng Ynys Lawd a Phortinlläen. Mae'n ffurfio darn triongl o fôr, ac yn ei gornel mae [[Abermenai]], lle mae Afon Menai yn ymarllwys i'r môr. Mae'r "bar", sef y banciau tywod wrth geg yr afon yn gorwedd beth pellter o Abermenai, fodd bynnag, rhwng [[Dinas Dinlle]] ac Ynys Llanddwyn. Mae Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon wedi bod yn gyfrifol yn unol â deddf seneddol am gynnal y bwâu rhwng Pwll Ceris yn Afon Menai a Bar Caernarfon yn y bae ers 1794, ac maent yn dal i weithredu'r un swyddogaeth. | ||
Nid oes fawr o longau yn ymweld â'r darn hwn o fôr bellach, heblaw am rai sy'n cysgodi rhag y stormydd gwaethaf pan chwŷth y gwynt o'r dwyrain. Gwelir nifer o gychod pleser a chychod bach pysgota yno, fodd bynnag, gan fod Portinlläen, [[Trefor]], [[Belan]] a Chaernarfon yn cynnig angorfeydd a glanfeydd. Hyd at y 19g, fodd bynnag, pan oedd llongau hwylio a gariai nwyddau'n llai o lawer, fe arferid glanio ar nifer o draethau Uwchgwyrfai megis [[Aberdesach]] i ollwng y cargo - glo yn bennaf - trwy hwylio i mewn ar y llanw, aros i'r traeth sychu, dadlwytho, ac wedyn hwylio i ffwrdd ar y llanw nesaf. | Nid oes fawr o longau yn ymweld â'r darn hwn o fôr bellach, heblaw am rai sy'n cysgodi rhag y stormydd gwaethaf pan chwŷth y gwynt o'r dwyrain. Gwelir nifer o gychod pleser a chychod bach pysgota yno, fodd bynnag, gan fod Portinlläen, [[Trefor]], [[Belan]] a Chaernarfon yn cynnig angorfeydd a glanfeydd. Hyd at y 19g, fodd bynnag, pan oedd llongau hwylio a gariai nwyddau'n llai o lawer, fe arferid glanio ar nifer o draethau Uwchgwyrfai megis [[Aberdesach]] i ollwng y cargo - glo yn bennaf - trwy hwylio i mewn ar y llanw, aros i'r traeth sychu, dadlwytho, ac wedyn hwylio i ffwrdd ar y llanw nesaf. |
Fersiwn yn ôl 12:28, 13 Ebrill 2019
Bae Caernarfon yw enw'r darn o fôr sy'n gorwedd rhwng Ynys Môn ac arfordir cwmwd Uwchgwyrfai, sef rhwng Ynys Lawd a Phortinlläen. Mae'n ffurfio darn triongl o fôr, ac yn ei gornel mae Abermenai, lle mae Afon Menai yn ymarllwys i'r môr. Mae'r "bar", sef y banciau tywod wrth geg yr afon yn gorwedd beth pellter o Abermenai, fodd bynnag, rhwng Dinas Dinlle ac Ynys Llanddwyn. Mae Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon wedi bod yn gyfrifol yn unol â deddf seneddol am gynnal y bwâu rhwng Pwll Ceris yn Afon Menai a Bar Caernarfon yn y bae ers 1794, ac maent yn dal i weithredu'r un swyddogaeth.
Nid oes fawr o longau yn ymweld â'r darn hwn o fôr bellach, heblaw am rai sy'n cysgodi rhag y stormydd gwaethaf pan chwŷth y gwynt o'r dwyrain. Gwelir nifer o gychod pleser a chychod bach pysgota yno, fodd bynnag, gan fod Portinlläen, Trefor, Belan a Chaernarfon yn cynnig angorfeydd a glanfeydd. Hyd at y 19g, fodd bynnag, pan oedd llongau hwylio a gariai nwyddau'n llai o lawer, fe arferid glanio ar nifer o draethau Uwchgwyrfai megis Aberdesach i ollwng y cargo - glo yn bennaf - trwy hwylio i mewn ar y llanw, aros i'r traeth sychu, dadlwytho, ac wedyn hwylio i ffwrdd ar y llanw nesaf.
Roedd cynlluniau yn y 19g i greu glanfa yn Ninas Dinlle i dderbyn ac allforio cynnyrch chwareli llechi Dyffryn Nantlle, ond yn y diwedd, penderfynwyd cludo'r cerrig ar hyd rheilffordd i borthladd Caernarfon. Yr unig allforion sylweddol o Fae Caernarfon o fewn cof felly oedd y llwythi o ithfaen a gludwyd o Drefor ac ambell i lanfa ger Gurn Goch.
Dywedir fod pysgota da i'w cael yn y bae, er nad oes ond ambell i bysgotwr masnachol wrthi bellach. Mae'r dŵr yn enwog am fecryll a chathod môr, ac mae perchnogion cychod pysgota er pleser yn honni bod llawer o ledod, pengyrnod, lledod tywod neu dabs,torbytiaid, morgwn gleision, picydiaid a chŵn môr yno i'w dal.[1] Yn y gorffennol, bu'r bae'n enwog am benwaig a helltyd ac a werthid yn Nefyn ymysg lleoedd eraill.
Bu nifer o longddrylliadau ar y banciau tywod ac ar y traethau.
Tua 1880 codwyd gwesty yn Ninas Dinlle a'i galw'n "Gwesty'r Caernarfon Bay".[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
{{cyfeiriadau}]