Capel Brynaerau (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
===Cysylltiad gyda Capeli eraill yr ardal=== | ===Cysylltiad gyda Capeli eraill yr ardal=== | ||
Pan adeiladwyd [[Capel Ebeneser]] yng Nghlynnog yn 1843, cysylltwyd Brynaerau a [[Capel Bwlan|Bwlan]] a parhawyd hyn hyd at 1876 pan y symudwyd Bwlan ar ben ei hyn. | Pan adeiladwyd [[Capel Ebeneser]] yng Nghlynnog yn 1843, cysylltwyd Brynaerau a [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog|Bwlan]] a parhawyd hyn hyd at 1876 pan y symudwyd Bwlan ar ben ei hyn. | ||
Cysylltwyd Brynaerau yn hwyrach gyda Ebeneser, gyda Brynaerau yn cynnal oedfa’r prynhawn a’r hwyr a Ebeneser yn cynnal oedfa’r bore. | Cysylltwyd Brynaerau yn hwyrach gyda Ebeneser, gyda Brynaerau yn cynnal oedfa’r prynhawn a’r hwyr a Ebeneser yn cynnal oedfa’r bore. | ||
Bu newid eto yn 1888, gydag uniad Capel Capel Uchaf â Brynaerau ac uniad Ebeneser a Seion. | Bu newid eto yn 1888, gydag uniad Capel Capel Uchaf â Brynaerau ac uniad Ebeneser a Seion. |
Fersiwn yn ôl 21:17, 27 Mawrth 2018
Capel Methodistaidd rhwng Llanllyfni a Clynnog-fawr yw Capel Brynaerau MC.
Mae hanes yr achos yn ardal Clynnog-fawr yn gysylltiedig gyda’r achos yng Nghapel Brynaerau. Cyn codi’r capel yn 1805, credir i Fethodistiaid yr ardal addoli yn Ysgol Sul y Bedyddwyr ym Mhontllyfni cyn cael addoldy eu hunain.
Cysylltiad gyda Capeli eraill yr ardal
Pan adeiladwyd Capel Ebeneser yng Nghlynnog yn 1843, cysylltwyd Brynaerau a Bwlan a parhawyd hyn hyd at 1876 pan y symudwyd Bwlan ar ben ei hyn. Cysylltwyd Brynaerau yn hwyrach gyda Ebeneser, gyda Brynaerau yn cynnal oedfa’r prynhawn a’r hwyr a Ebeneser yn cynnal oedfa’r bore. Bu newid eto yn 1888, gydag uniad Capel Capel Uchaf â Brynaerau ac uniad Ebeneser a Seion.
Adeilad newydd
Addaswyd yr adeilad yn 1877, pan brynwyd llecyn o dir agos i’r capel fel claddfa gydag prydles o 99 mlynedd. Adeiladwyd darn arall ar yr adeilad yn 1879, ar ben gorllewinol y Capel, gyda cost o £550 a chafwyd mwy o waith atgyweirio yn 1896 am £160. Roedd yr addolwyr yn mynychu Capel y Bedyddwyr ym Mhontllyfni yn y cyfnod hwn[1].
Cyfeiriadau
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 50-63