Melin Cil Tyfu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Roedd y felin hon ym meddiant teulu Wynniaid Gwedir yn ystod ail hanner 16g, ac mae'n debyg iddo ei derbyn ar brydles oddi wrth y Goron. Erbyn 1566, roedd ym meddiant Morus Wynn o Wedir ac fe roddodd o brydles o fferm a melin Cil Tyfu i Wylliam ap Davidd ap Wylliam am gyfnod o 4 blynedd tua'r flwyddyn honno. Nodir yn y brydles honno fod yr eiddo'n gorwedd rhwng [[Afon Wyled]] a Gwern y Tryfan.<ref>Archifdy Caernarfon, ''papurau amrywiol y Llys Chwarter'' X/QSP/15-16</ref> Yn sicr, mae safle Melin Cil Tyfu'n bur hen, a gall ei bod yn dyddio'n ôl i gyfnod y Tywysogion.

Mae'r ''Record of Carnarvon'' (1352) yn cofnodi fod melin o'r enw ''Melin Heilyn'' yn bodoli o fewn ffiniau trefgordd [[Dinlle]]. Er nad yw'n glir ymhle oedd Melin Heilyn, Mae fferm gyfagos heddiw o'r enw Tyddytn Heilyn, ac mae'n bosibl felly fod ''Melin Cil Tyfu'' yn enw mwy diweddar ar yr hon a elwid yn gynt yn ''Felin Heilyn''.  
Mae'r ''Record of Carnarvon'' (1352) yn cofnodi fod melin o'r enw ''Melin Heilyn'' yn bodoli o fewn ffiniau trefgordd [[Dinlle]]. Er nad yw'n glir ymhle oedd Melin Heilyn, Mae fferm gyfagos heddiw o'r enw Tyddyn Heilyn, ac mae'n bosibl felly fod ''Melin Cil Tyfu'' yn enw mwy diweddar ar yr hon a elwid yn gynt yn ''Felin Heilyn''.  

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 16:58, 23 Chwefror 2018

Roedd Melin Cil Tyfu'n sefyll yn y ceunant i'r dwyrain o fferm bresennol Cefn Hendre, Maen Coch. Mewn ewyllys o 1693 gelwir Cefn Hendre yn Kefn alias Kefn Kîl Ddyfi. [1]. Roedd yn cael ei gyrru gan rym dŵr Afon Wyled. Erbyn hyn, nid oes dim i'w gweld.

Roedd y felin hon ym meddiant teulu Wynniaid Gwedir yn ystod ail hanner 16g, ac mae'n debyg iddo ei derbyn ar brydles oddi wrth y Goron. Erbyn 1566, roedd ym meddiant Morus Wynn o Wedir ac fe roddodd o brydles o fferm a melin Cil Tyfu i Wylliam ap Davidd ap Wylliam am gyfnod o 4 blynedd tua'r flwyddyn honno. Nodir yn y brydles honno fod yr eiddo'n gorwedd rhwng Afon Wyled a Gwern y Tryfan.[2] Yn sicr, mae safle Melin Cil Tyfu'n bur hen, a gall ei bod yn dyddio'n ôl i gyfnod y Tywysogion.

Mae'r Record of Carnarvon (1352) yn cofnodi fod melin o'r enw Melin Heilyn yn bodoli o fewn ffiniau trefgordd Dinlle. Er nad yw'n glir ymhle oedd Melin Heilyn, Mae fferm gyfagos heddiw o'r enw Tyddyn Heilyn, ac mae'n bosibl felly fod Melin Cil Tyfu yn enw mwy diweddar ar yr hon a elwid yn gynt yn Felin Heilyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. LLGC Dogfennau Profiant Esgobaeth Bangor B1693-64W
  2. Archifdy Caernarfon, papurau amrywiol y Llys Chwarter X/QSP/15-16