Melin Llwyn-y-gwalch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Melin Llwyn-gwalch i Melin Llwyn-y-gwalch heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:34, 8 Chwefror 2018

Mae'r felin hon i'r gorllewin o fferm Llwyn-y-gwalch, yr ochr arall i Lôn Eifion, sef yr hen reilffordd, ar ochr y lôn fach gefn sy'n rhedeg o lôn Pen-y-groes i gyfeiriad Bethesda Bach. Bu llyn yr ochr uchaf iddi er mwyn cronni dwr o Afon Llifon. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, ond wedi cael ei droi'n dŷ ers blynyddoedd olaf y 20g, ar ol sefyll yn furddyn am hanner canrif.

Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.[1]

Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar y felin yn Llwyn-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.

Aeth y felin wedi hynny i ddwylo nai-yng-nghyfraith i'r teulu, ar yr amod ei fod yn mabwysiadu'r enw Jones. Rhwng 1841 a 1861 enwir Robert Davies yn y cyfrifiad fel melinydd a thenant Llwyn-y-gwalch. Ym 1871, William Hughes oedd y tenant, a phan werthwyd y lle ym 1889, Henry Hughes oedd y tenant. Bu ef a'i frawd Daniel yn byw yno am drigain mlynedd, Henry yn ffermio a malu a Daniel yn gofrestrydd wrth ei waith, a'r ddau yn amlwg iawn yng ngwaith capel Bryn'rodyn (MC). Bu'r felin yn dal i droi tan tua 1927, a'r pryd hynny, Morris Griffith, dyn ag ond un lygad, oedd y melinydd.[2]

Cyfeiriadau

  1. LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.
  2. Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) a gyhoeddwyd gan bwyllgor lleol gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.