Lleuar Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Hen annedd nodedig oedd '''Lleuar''', neu '''Lleuar Fawr''' yn ardal [[Llanllyfni]].
Hen annedd nodedig oedd '''Lleuar''', neu '''Lleuar Fawr''' nid nepell o [[Llanllyfni|Lanllyfni]] er ei fod ym mlwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'r ystyr yn amwys, ond cynigia'r arbenigwraig Glenda Carr y gall fod yn amrywiad ar ''Lleufer'', sef 'goleuni', ac oherwydd hynny'n deillio o'r ffaith fod Lleuar ar dir agored golau.  


Mae bellach wedi ei rannu’n ddwy fferm – sef ''Lleuar Fawr''(adeilad rhestredig) a ''Lleuar Fach''. Credir iddo ar un cyfnod fod yn rhan o ystâd y Wyniaid o Lynllifon, drwy gysylltiad priodasol, ac iddo fod yn rhan o hen diroedd treflan [[Pennarth]].
Mae bellach wedi ei rannu’n ddwy fferm – sef ''Lleuar Fawr'' (adeilad rhestredig) a ''Lleuar Fach''. Roedd ar un cyfnod fod yn rhan o ystâd y Glynniaid o Lynllifon, drwy gysylltiad priodasol, ac iddo fod yn rhan o hen diroedd treflan [[Pennarth]]. Mae cofeb i William Glynne, (marw 1609), yn Eglwys Clynnog Fawr.
 
Ar farwolaeth ŵyr William Glynn, etifeddodd chwaer iddo, Mary Glynne (1633-1676) yr eiddo. Priododd hi â'r Uwch-Gapten [[George Twisleton]], ac arhosodd yr ystâd fechan yn nwylo ei ddisgynyddion am ran helaeth o ganrif nesi'r teulu ei chgolli trwy or-fenthyca arian. Fe'i prynwyd yn ôl wedyn gan ystâd [[Glynllifon]].


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 7: Llinell 9:
[http://www.bangorcivicsociety.org.uk/pages/listedindex/reg.pdf Rhestr o adeiladau cofrestredig yng Ngwynedd, Cymdeithas Ddinesig Bangor.]  
[http://www.bangorcivicsociety.org.uk/pages/listedindex/reg.pdf Rhestr o adeiladau cofrestredig yng Ngwynedd, Cymdeithas Ddinesig Bangor.]  


Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872)  
Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872)
 
Carr, Glenda ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'' (Caernarfon, 2011)
 
Comisiwn Henebion Cymru ''Caernarvonshire:Volume II, Central'', (Llundain, 1960)


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 10:45, 29 Ionawr 2018

Hen annedd nodedig oedd Lleuar, neu Lleuar Fawr nid nepell o Lanllyfni er ei fod ym mlwyf Clynnog Fawr. Mae'r ystyr yn amwys, ond cynigia'r arbenigwraig Glenda Carr y gall fod yn amrywiad ar Lleufer, sef 'goleuni', ac oherwydd hynny'n deillio o'r ffaith fod Lleuar ar dir agored golau.

Mae bellach wedi ei rannu’n ddwy fferm – sef Lleuar Fawr (adeilad rhestredig) a Lleuar Fach. Roedd ar un cyfnod fod yn rhan o ystâd y Glynniaid o Lynllifon, drwy gysylltiad priodasol, ac iddo fod yn rhan o hen diroedd treflan Pennarth. Mae cofeb i William Glynne, (marw 1609), yn Eglwys Clynnog Fawr.

Ar farwolaeth ŵyr William Glynn, etifeddodd chwaer iddo, Mary Glynne (1633-1676) yr eiddo. Priododd hi â'r Uwch-Gapten George Twisleton, ac arhosodd yr ystâd fechan yn nwylo ei ddisgynyddion am ran helaeth o ganrif nesi'r teulu ei chgolli trwy or-fenthyca arian. Fe'i prynwyd yn ôl wedyn gan ystâd Glynllifon.

Cyfeiriadau

Rhestr o adeiladau cofrestredig yng Ngwynedd, Cymdeithas Ddinesig Bangor.

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)

Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011)

Comisiwn Henebion Cymru Caernarvonshire:Volume II, Central, (Llundain, 1960)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma