Côr Plant Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Yr oedd '''Côr Plant Llanllyfni''' mewn bodolaeth ers o leiaf 1908, dan arweiniad Mr William D. Roberts. Merched yn unig oedd yn y côr. Enillodd y côr yn erbyn dau gor arall yn Eisteddfod Capel Bwlan (MC), Llandwrog fis Mai 1908, a hynny gyda chlod mawr gan y beirniad.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 12.5.1908, t.6</ref> Y flwyddyn wedyn, yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli, fodd bynnaag, gosodwyd y côr yn drydydd allan o bedwar.<ref>''North Wales Express'', 6..."
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Côr Plant Llanllyfni''' mewn bodolaeth ers o leiaf 1908,  dan arweiniad Mr William D. Roberts. Merched yn unig oedd yn y côr. Enillodd y côr yn erbyn dau gor arall yn Eisteddfod [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] fis Mai 1908, a hynny gyda chlod mawr gan y beirniad.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 12.5.1908, t.6</ref> Y flwyddyn wedyn, yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli, fodd bynnaag, gosodwyd y côr yn drydydd allan o bedwar.<ref>''North Wales Express'', 6.8.1909, t.7</ref>
Yr oedd '''Côr Plant Llanllyfni''' mewn bodolaeth ers o leiaf 1908,  dan arweiniad Mr William D. Roberts. Merched yn unig oedd yn y côr. Enillodd y côr yn erbyn dau gôr arall yn Eisteddfod [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog]] fis Mai 1908, a hynny gyda chlod mawr gan y beirniad.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 12.5.1908, t.6</ref> Y flwyddyn wedyn, yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli, fodd bynnaag, gosodwyd y côr yn drydydd allan o bedwar.<ref>''North Wales Express'', 6.8.1909, t.7</ref>


Ceir sôn am '''Gôr Plant Llanllyfni''' yn y Wasg wedyn yn ystod 1914-15, yn arbennig mewn cysylltiad â chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1914.<ref>''Y Drych'', 6.8.1914, t.4</ref> Fel y digwyddodd, teimlwyd nad priodol fyddai cynnal eisteddfod y flwyddyn honno yn y pen draw,a gohiriwyd yr Eisteddfod tan 1915.<ref>Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, [https://eisteddfod.cymru/gohirior-brifwyl-dros-ganrif-yn-ol], cyrchwyd 13.12.2025</ref> Roedd William D. Roberts yn dal i arwain y côr, ac roeddynt wedi llwyddo i ennill yng Ngwrdd Llenyddol Bethel (sef [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes]]) fis Mawrth 1914, gan guro côr plant ardal [[Cilgwyn]].<ref>''Y Brython'', 12.3.1914, t.8</ref> Wedyn bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg yng Nghaernarfon, gan guro Côr Plant Caernarfon.<ref>''Y Darian'', 30.4.1914, t.4</ref> Byddai wedi bod yn siom felly nad oedd yr Eisteddfod fawr ym Mangor yn digwydd yr haf hwnnw, ond cawsant gyfle i ganu yn [[Y Plygain]] yn [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]] fore Nadolig, gan ganu "Wele cawsant y Meseia".<ref>''Y Llan'', 1.1.1915, t.3</ref>
Ceir sôn am Gôr Plant Llanllyfni yn y Wasg wedyn yn ystod 1914-15, yn arbennig mewn cysylltiad â chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1914.<ref>''Y Drych'', 6.8.1914, t.4</ref> Fel y digwyddodd, teimlwyd mai amhriodol fyddai cynnal eisteddfod y flwyddyn honno gyda'r rhyfel newydd ddechrau, a gohiriwyd yr Eisteddfod tan 1915.<ref>Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, [https://eisteddfod.cymru/gohirior-brifwyl-dros-ganrif-yn-ol], cyrchwyd 13.12.2025</ref> Roedd William D. Roberts yn dal i arwain y côr, ac roeddynt wedi llwyddo i ennill yng Nghwrdd Llenyddol Bethel (sef [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes]]) fis Mawrth 1914, gan guro côr plant ardal [[Cilgwyn]].<ref>''Y Brython'', 12.3.1914, t.8</ref> Wedyn bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg yng Nghaernarfon, gan guro Côr Plant Caernarfon.<ref>''Y Darian'', 30.4.1914, t.4</ref> Byddai wedi bod yn siom iddynt felly nad oedd yr Eisteddfod fawr ym Mangor yn digwydd yr haf hwnnw, ond cawsant gyfle i ganu yn y [[Plygain]] yn [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]] fore Nadolig, gan ganu "Wele cawsant y Meseia".<ref>''Y Llan'', 1.1.1915, t.3</ref>


Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, roedd y côr yn fuddugol, a chafwyd croeso brwd gan bobl y fro wrth iddynt gyrraedd yn ôl i [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|Orsaf Pen-y-groes]]. Ysywaeth, roedd William D. Roberts wedi penderfynu ymadael â'r ardal, gan symud i Lerpwl, ac er y gobaith a nodwyd yn y papur newydd y byddai pobl eraill oedd yn gysylltiedig yn gymwys i barhau â'i waith da, mae'n debyg na ddigwyddodd hynny ddim gan nad oes sôn bellach yn y wasg am y côr.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 11.9.1915, t.4</ref> Aeth arweinydd y côr â'i dfalent i Lerpwl, ac yn fuan ym 1916 ceir ei hanes yn ennill cystadleuaeth gyda'i gôr newydd<ref>''Y Brython'', 3.2.1916, t.7</ref>:  
Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, roedd y côr yn fuddugol, a chafwyd croeso brwd gan bobl y fro wrth iddynt gyrraedd yn ôl i [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|Orsaf Pen-y-groes]]. Ysywaeth, roedd William D. Roberts wedi penderfynu ymadael â'r ardal, gan symud i Lerpwl, ac er y gobaith a nodwyd yn y papur newydd y byddai pobl eraill oedd yn gysylltiedig â'r côr yn gymwys i barhau â'i waith da, mae'n debyg na ddigwyddodd hynny gan nad oes sôn bellach yn y wasg am y côr.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 11.9.1915, t.4</ref> Defnyddiodd W.D. Roberts ei dalent yn Lerpwl, ac yn fuan ym 1916 ceir ei hanes yn ennill cystadleuaeth gyda'i gôr newydd<ref>''Y Brython'', 3.2.1916, t.7</ref>:  
  ARWAIN YN EI WAED.—Mr. W. D. Roberts, arweinydd Cor Plant Bankhall yng nghystadleuaefch Eisteddfod Bootle nos Sadwrn ddiweddaf oedd arweinydd Cor Plant Llanllyfni, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol. Bangor y llynedd, ac a enillodd mewn llu o gystadleuaethau draw ac yma.
  ARWAIN YN EI WAED.— Mr. W. D. Roberts, arweinydd Cor Plant Bankhall yng nghystadleuaefch Eisteddfod Bootle nos Sadwrn ddiweddaf oedd arweinydd Cor Plant Llanllyfni, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol. Bangor y llynedd, ac a enillodd mewn llu o gystadleuaethau draw ac yma.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Corau]]
[[Categori:Corau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:49, 13 Rhagfyr 2025

Yr oedd Côr Plant Llanllyfni mewn bodolaeth ers o leiaf 1908, dan arweiniad Mr William D. Roberts. Merched yn unig oedd yn y côr. Enillodd y côr yn erbyn dau gôr arall yn Eisteddfod Capel Bwlan (MC), Llandwrog fis Mai 1908, a hynny gyda chlod mawr gan y beirniad.[1] Y flwyddyn wedyn, yn Eisteddfod Gadeiriol Pwllheli, fodd bynnaag, gosodwyd y côr yn drydydd allan o bedwar.[2]

Ceir sôn am Gôr Plant Llanllyfni yn y Wasg wedyn yn ystod 1914-15, yn arbennig mewn cysylltiad â chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1914.[3] Fel y digwyddodd, teimlwyd mai amhriodol fyddai cynnal eisteddfod y flwyddyn honno gyda'r rhyfel newydd ddechrau, a gohiriwyd yr Eisteddfod tan 1915.[4] Roedd William D. Roberts yn dal i arwain y côr, ac roeddynt wedi llwyddo i ennill yng Nghwrdd Llenyddol Bethel (sef Capel Bethel (MC), Pen-y-groes) fis Mawrth 1914, gan guro côr plant ardal Cilgwyn.[5] Wedyn bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg yng Nghaernarfon, gan guro Côr Plant Caernarfon.[6] Byddai wedi bod yn siom iddynt felly nad oedd yr Eisteddfod fawr ym Mangor yn digwydd yr haf hwnnw, ond cawsant gyfle i ganu yn y Plygain yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni fore Nadolig, gan ganu "Wele cawsant y Meseia".[7]

Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, roedd y côr yn fuddugol, a chafwyd croeso brwd gan bobl y fro wrth iddynt gyrraedd yn ôl i Orsaf Pen-y-groes. Ysywaeth, roedd William D. Roberts wedi penderfynu ymadael â'r ardal, gan symud i Lerpwl, ac er y gobaith a nodwyd yn y papur newydd y byddai pobl eraill oedd yn gysylltiedig â'r côr yn gymwys i barhau â'i waith da, mae'n debyg na ddigwyddodd hynny gan nad oes sôn bellach yn y wasg am y côr.[8] Defnyddiodd W.D. Roberts ei dalent yn Lerpwl, ac yn fuan ym 1916 ceir ei hanes yn ennill cystadleuaeth gyda'i gôr newydd[9]:

ARWAIN YN EI WAED.— Mr. W. D. Roberts, arweinydd Cor Plant Bankhall yng nghystadleuaefch Eisteddfod Bootle nos Sadwrn ddiweddaf oedd arweinydd Cor Plant Llanllyfni, buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol. Bangor y llynedd, ac a enillodd mewn llu o gystadleuaethau draw ac yma.

Cyfeiriadau

  1. Yr Herald Cymraeg, 12.5.1908, t.6
  2. North Wales Express, 6.8.1909, t.7
  3. Y Drych, 6.8.1914, t.4
  4. Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, [1], cyrchwyd 13.12.2025
  5. Y Brython, 12.3.1914, t.8
  6. Y Darian, 30.4.1914, t.4
  7. Y Llan, 1.1.1915, t.3
  8. Y Dinesydd Cymreig, 11.9.1915, t.4
  9. Y Brython, 3.2.1916, t.7