Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 17: | Llinell 17: | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Seiri coed]] | [[Categori:Seiri coed]] | ||
[[Categori:Ymfudo]] | |||
Fersiwn yn ôl 11:40, 7 Tachwedd 2025
I'w barhau
Roedd Hugh Hughes (1824-1898) a fagwyd yn Rhosgadfan yn un o arloeswyr y symudiad i sefydlu trefedigaeth Gymreig a Chymraeg yn y Wladfa. Wedi iddo ymfudo i'r Wladfa, mabwysiadodd gyfenw newydd, gan gael ei adnabod fel "Hugh Hughes Cadfan", yn null sawl un o arloeswyr y drefedigaeth honno.
Roedd rhieni Hugh Hughes (Lewis Hughes ac Elinor) yn byw ym Mhengwrli (neu Ben Gwylwyr), ar yr allt rhwng Rhostryfan a Rhosgadfan cyn iddynt symud i gartref y teulu, sef Cae'r Odyn - nad oedd ond ychydig gaeau i ffwrdd.
Yn ôl cofrestriad bedydd Hugh Hughes, cafodd ei eni yng nghartref ei fam yn Nhrefdraeth, Môn[1] ond yn Llanwnda yr oedd y teulu'n byw. Cafodd hail blentyn ei rieni, sef Jane, ei geni yng Nghae'r Odyn ym 1826. Roedd gan y ddau blentyn hyn naw neu ddeg o frodyr a chwiorydd iau. Roedd tad i dad Hugh Hughes yn byw ym Mhen Gwrli - ei enw o oedd Hugh Lewis. Roedd ei wraig Jane yn ferch i Griffith Jones a Margaret Thomas o fferm Gaerwen, Llanwnda (Rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan).
Prentisiwyd Hugh yn saer coed a chododd weithdy iddo’i hun yng Nghaernarfon ym 1850. Ceir cofnod yng nghyfrifiad 1851 bod ŵr o’r enw Hughes Hughes, ‘Joiner’ 26 mlwydd oed a oedd wedi ei eni yn Nhrefdraeth, Ynys Môn, yn byw yn Patentship House, Llanbeblig, gyda'i ewythr, David Williams a aned yn Llangefni.[2] Pan oedd yn gweithio yng Nghaernarfon yn ystod y 1850au dechreuodd ymgyrchu dros greu Gwladfa Gymreig. Symudodd i Lerpwl yn 1857, a daeth yn un o arweinwyr y mudiad gwladfaol yno. Yn 1861, traddododd ddarlith a gyhoeddwyd gyda'r teitl Llawlyfr y Wladfa Gymreig.
Teithiodd ef, ei wraig Elizabeth a nifer o blant i Batagonia gyda'r fintai gyntaf ar y Mimosa ym 1865, a dywedir mai ef oedd y cyntaf o deithwyr y Mimosa i roi ei droed ar ddaear Patagonia. Bu'n dal nifer o swyddi megis ustus heddwch yno, a phan fu farw cyhoeddodd Rhaglaw Tiriogaeth Genedlaethol Chubut bod dydd ei angladd i fod yn ddiwrnod o alar trwy'r dalaith.[3]
Roedd cysylltiad gan Jane, chwaer Hugh Cadfan, â'r Wladfa hefyd. Briododd â David Richards, dyn o Swydd Gaer, yn Lerpwl a sefydlu Tŷ’r Cymry yn y ddinas honno, sef yn 35 Union Street, Lerpwl. Roedd Tŷ'r Cymry yn sefydliad Goruchwylwyr Ymfudo, siop de a choffi, ac yn cynnig ystafelloedd i aros. Yma y bu llawer o'r Cymry yn aros cyn hwylio ar y Mimosa i Batagonia.[4]