Pennarth (fferm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Fferm fawr yw '''Pennarth''' sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger [[Aberdesach]], ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod [[Cromlech Pennarth|cromlech]] ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar [[Pennarth (trefgordd)]].
Fferm fawr yw '''Pennarth''' sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger [[Aberdesach]], ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod [[Cromlech Pennarth|cromlech]] ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar [[Pennarth (trefgordd)]].


Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennarth wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd, os nad mân uchelwr, yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o [[Ystad Lleuar]], ac yn eiddo i deulu [[George Twisleton]]<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7574</ref>, a etifeddodd ei diroedd o ganlyniad i'w briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu [[Glynllifon]].<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.270</ref> Er i deulu  Twisleton golli'u gafael ar y rhan fwyaf o'u tiroedd oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys, ymddengys eu bod wedi dal eu gafael ar nifer bach o ffermydd, yn cynnwys Pennarth, Ynys yr Arch, Bryn Ifan a Chae Hir. Fe ymddengys fod Mary Ridsdale, aeres yr olaf o deulu Twisleton, sef George Twisleton III, wedi cadw ei gafael ar weddillion ystad Lleuar. Bu iddi ail-briodi â dyn o'r enw Henry Winstanley, masnachwr o ddinas Caer, ym 1758.<ref>Archifdy Caernarfon, XM1041/8, 15</ref> Yr adeg honno, Owen Roberts, iwmon, oedd yn ffermio Pennarth.<ref>Archifdy Caernarfon, XM1041/12</ref> Ysywaeth, y flwyddyn wedyn aeth Winstanley'n fethdalwr, ac o ganlyniad i hynny fe wnaeth y Comisiynwyr Methdaliad orchymyn gwerthu'r ffermydd hyn, yn cynnwys Pennarth. Watkin Williams, Ysw., o Benbedw, Sir Dinbych a wnaeth brynu'r eiddo i gyd, am £2,445, a hynny ym 1768, gyda help morgais o £2000.<ref>Archifdy Gwynedd, XM1041/19-30</ref> Roedd Watkin yn fab i Richard Williams (a hwnnw'n frawd i'r "Syr Watcyn" cyntaf a etifeddodd Wynnstay, un o ystadau mwyaf Cymru),<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.18</ref>. Roedd gan Ystad Wynnstay diroedd eraill yn Sir Gaernarfon yn ardaloedd Llanbeblig, Llanrug a Beddgelert,<ref>Archifdy Caernarfon, XM1041/31-55</ref>  
Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm<ref></ref> ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennarth wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd, os nad mân uchelwr, yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o [[Ystad Lleuar]], ac yn eiddo i deulu [[George Twisleton]]<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7574</ref>, a etifeddodd ei diroedd o ganlyniad i'w briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu [[Glynllifon]].<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.270</ref> Er i deulu  Twisleton golli'u gafael ar y rhan fwyaf o'u tiroedd oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys, ymddengys eu bod wedi dal eu gafael ar nifer bach o ffermydd, yn cynnwys Pennarth, Ynys yr Arch, Bryn Ifan a Chae Hir. Fe ymddengys fod Mary Ridsdale, aeres yr olaf o deulu Twisleton, sef George Twisleton III, wedi cadw ei gafael ar weddillion ystad Lleuar. Bu iddi ail-briodi â dyn o'r enw Henry Winstanley, masnachwr o ddinas Caer, ym 1758.<ref>Archifdy Caernarfon, XM1041/8, 15</ref> Yr adeg honno, Owen Roberts, iwmon, oedd yn ffermio Pennarth.<ref>Archifdy Caernarfon, XM1041/12</ref> Ysywaeth, y flwyddyn wedyn aeth Winstanley'n fethdalwr, ac o ganlyniad i hynny fe wnaeth y Comisiynwyr Methdaliad orchymyn gwerthu'r ffermydd hyn, yn cynnwys Pennarth. Watkin Williams, Ysw., o Benbedw, Sir Dinbych a wnaeth brynu'r eiddo i gyd, am £2,445, a hynny ym 1768, gyda help morgais o £2000.<ref>Archifdy Gwynedd, XM1041/19-30</ref> Roedd Watkin yn fab i Richard Williams (a hwnnw'n frawd i'r "Syr Watcyn" cyntaf a etifeddodd Wynnstay, un o ystadau mwyaf Cymru),<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.18</ref>. Roedd gan Ystad Wynnstay diroedd eraill yn Sir Gaernarfon yn ardaloedd Llanbeblig, Llanrug a Beddgelert,<ref>Archifdy Caernarfon, XM1041/31-55</ref> a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.<ref>LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/3f94722d-c7e1-30fb-a038-c855662c72d2], cyrchwyd 18.9.2025</ref> Erbyn 1843, roedd y pedair fferm yn eiddo i ddyn ifanc o'r enw Thomas Bucknall Lloyd o Amwythig (1824-1896). Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi aros gyda'i gilydd fel ystad fechan. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn oddeutu 151 o aceri.<ref>LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog</ref>  
a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.<ref>LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/3f94722d-c7e1-30fb-a038-c855662c72d2], cyrchwyd 18.9.2025</ref> Erbyn 1843, roedd y pedair fferm yn eiddo i ddyn ifanc o'r enw Thomas Bucknall Lloyd o Amwythig (1824-1896). Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi aros gyda'i gilydd fel ystad fechan. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn oddeutu 151 o aceri.<ref>LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog</ref>  


Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad gwaed rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau, a'i daid, Thomas Lloyd (1759-1829) yn dwrnai ac yn faer Amwythig ym 1810. Roedd y teulu wedi bod yn byw yn Amwythig ers diwedd y 16g., pan nodir fod John Lewis Lloyd, hen-hen-hen-hen-hen-hen daid Bucjnall Lloyd yn un o fwrdeiswyr y dref.<ref>''Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society'', Cyfres 4, Cyfrol XI, Rhan 1 (1923), t.9; Gwefan ''The Peerage'', t.49943 [https://www.thepeerage.com/p49943.htm], cyrchwyd 22.9.2025</ref> Roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon. Rhaid ystyried felly ei fod wedi prynu'r pedair fferm fel buddsoddiad. Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur ''Erewhon''. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.<ref>Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [https://en.wikipedia.org/wiki/Thomas_Lloyd_(priest,_born_1824)], cyrchwyd 17.9.2025</ref> Esboniad mwy tebygol am i Bucknall Lloyd brynu'r ystad yw'r ffaith ei fod o a theulu Lloyd Lloyd yn defnyddio'r un cwmni o dwrneiod yn Amwythig.<ref>Archifdy Gwynedd, XM1041/''passim''. Byddai twrneiod yn argymell buddsoddiad addas i'w cleientiaid.</ref>
Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad gwaed rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau, a'i daid, Thomas Lloyd (1759-1829) yn dwrnai ac yn faer Amwythig ym 1810. Roedd y teulu wedi bod yn byw yn Amwythig ers diwedd y 16g., pan nodir fod John Lewis Lloyd, hen-hen-hen-hen-hen-hen daid Bucjnall Lloyd yn un o fwrdeiswyr y dref.<ref>''Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society'', Cyfres 4, Cyfrol XI, Rhan 1 (1923), t.9; Gwefan ''The Peerage'', t.49943 [https://www.thepeerage.com/p49943.htm], cyrchwyd 22.9.2025</ref> Roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon. Rhaid ystyried felly ei fod wedi prynu'r pedair fferm fel buddsoddiad. Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur ''Erewhon''. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.<ref>Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [https://en.wikipedia.org/wiki/Thomas_Lloyd_(priest,_born_1824)], cyrchwyd 17.9.2025</ref> Esboniad mwy tebygol am i Bucknall Lloyd brynu'r ystad yw'r ffaith ei fod o a theulu Lloyd Lloyd yn defnyddio'r un cwmni o dwrneiod yn Amwythig.<ref>Archifdy Gwynedd, XM1041/''passim''. Byddai twrneiod yn argymell buddsoddiad addas i'w cleientiaid.</ref>
Llinell 24: Llinell 23:
Ysywaeth, byr fu tenantiaeth Richard Hughes, gan mai ym 1834 y bu yntau farw, gan adael dau blentyn ifanc, Margaret Hughes a Hugh Owens, hwnnw ond tua 8 oed. Roedd ei fam ac un o'i chwiorydd wedi etifeddu hanner eiddo ei dad yn ystod eu hoes, ac nid syndod felly yw darllen yn rhestr o'i eiddo fod stoc y fferm ond hanner yr hyn a fu gan ei dad. Serch hynny, mae'r ffaith fod y rhestr wedi ei llunio ddiwedd Chwefror y flwyddyn honno  yn golygu bod modd cael argraff o ochr tyfu cnydau a fu ym Mhennarth. Roedd gan Richard gwerth £8 o wair a gwerth £14 o ŷd yn ei ysgubor pan fu farw.<ref>LlGC Dogfennau Profiant B/1834/63</ref>  
Ysywaeth, byr fu tenantiaeth Richard Hughes, gan mai ym 1834 y bu yntau farw, gan adael dau blentyn ifanc, Margaret Hughes a Hugh Owens, hwnnw ond tua 8 oed. Roedd ei fam ac un o'i chwiorydd wedi etifeddu hanner eiddo ei dad yn ystod eu hoes, ac nid syndod felly yw darllen yn rhestr o'i eiddo fod stoc y fferm ond hanner yr hyn a fu gan ei dad. Serch hynny, mae'r ffaith fod y rhestr wedi ei llunio ddiwedd Chwefror y flwyddyn honno  yn golygu bod modd cael argraff o ochr tyfu cnydau a fu ym Mhennarth. Roedd gan Richard gwerth £8 o wair a gwerth £14 o ŷd yn ei ysgubor pan fu farw.<ref>LlGC Dogfennau Profiant B/1834/63</ref>  


I droi'n ól at y map degwm dyddiedig 1843, gwelwyd uchod mai Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd perchennog Pennarth erbyn hynny, ond y tenant yn ôl y ddogfen honno oedd un John Jones. Mae'n debyg mai'r sawl oedd yn byw ym Mhennarth ac yn ffermio'r tir oedd Hugh Owen, mab Richard Hughes, y cyn denant a fu farw ym 1834. Bachgen tua 17 oed oedd Hugh Owen,ac felly na fyddai'n gymwys i fod yn denant swyddogol.<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog 1841. Nodir yno mai 15 oed oedd Hugh. </ref> John Jones, Tý'n-y-coed, sef (o bosibl) ewyrth Hugh oedd ymddiriedolwr eiddo Hugh Owen, wedi ei benodi yn ewyllys tad Hugh i'w gwarchod nes iddo gyrraedd oedran oedolyn. Digon naturiol (a bwrw bod perchennog y fferm yn fodlon i'r un teulu ddal y denantiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth) fyddai i ymddiriedolwr aer ifanc gael ei dderbyn dros dro fel y tenant swyddogol.  
I droi'n ôl at y map degwm dyddiedig 1843, gwelwyd uchod mai Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd perchennog Pennarth erbyn hynny, ond y tenant yn ôl y ddogfen honno oedd un John Jones. Mae'n debyg mai'r sawl oedd yn byw ym Mhennarth ac yn ffermio'r tir oedd Hugh Owen, mab Richard Hughes, y cyn denant a fu farw ym 1834. Bu Elizabeth Owens, mam Richard a nain Hugh fyw tan 1836<ref>LlGC Dogfennau Profiant, B/1836/86</ref>, ond wedyn rhaid bod ymddiriedolwr yr Hugh ifanc wedi rhedeg y fferm ar ei ran gyda 5 gwas a 2 forwyn, gan mai ond 10 oed oedd o pan farwodd ei nain. Na fyddai felly'n gymwys i fod yn denant swyddogol.<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog 1841. Nodir yno mai 15 oed oedd Hugh </ref> John Jones, Tý'n-y-coed, sef (o bosibl) ewyrth Hugh oedd ymddiriedolwr eiddo Hugh Owen, wedi ei benodi yn ewyllys tad Hugh i'w gwarchod nes iddo gyrraedd oedran oedolyn. Digon naturiol (a bwrw bod perchennog y fferm yn fodlon i'r un teulu ddal y denantiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth) fyddai i ymddiriedolwr aer ifanc gael ei dderbyn dros dro fel y tenant swyddogol.


Roedd Pennarth yn fferm sylweddol ac yn fuan gwnaeth yr Hugh ifanc ei farc. Erbyn Cyfrifiad 1851, roedd wedi priodi â Jane, a oedd flwyddyn neu ddwy'n iau nag ef. Roedd yn cyflogi pump o weision fferm ac yn ffermio 180 acer o dir. Erbyn 1861, nodwyd ei fod yn ffermio 205 acer, yn cynnwys tir Cae Hir. Roedd gan y cwpl bedwar o blant, Richard (11oed), Jane (9), Hugh (5) ac Anne (3).
<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1851, 1861</ref> Roedd wedi dechrau derbyn rhai cyfrifoldebau lleol: ym 1855 fe'i codwyd yn un o ddau warchedwad Undeb Dlodion Caernarfon dros Clynnog Fawr.<ref>''North Wales Chronicle'', 14/4/1855, t.8</ref> Roedd y cwpl a'u dau fab dal ar y fferm ym 1871 ac 1881, ond erbyn 1891, roedd y ddau a Richard wedi marw, a Hugh, y mab ieuengaf yno gyda'i wraig Laura (31 oed) a mab ifanc, Thomas, 4 oed. Cafwyd ail fab, Hughie (1894-1964) wedyn.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1891-1911</ref>


   
Roedd Hugh Owen, Pennarth a aned ym 1856, yn un o arweinwyr y fro fel aeth yn hŷn.. Roedd yn gadeirydd y Cyngor Plwyf ym 1904, yn gynghorydd sir ac yn ynad heddwch.<ref>'''Herald Cymreig''', 26.4.1904 t.5 a ''passim''</ref> Roedd yn un o hoelion wyth [[Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46]], ac yn ''coachhouse'' Pennarth y cynhelid cyfarfodydd y ceir ysgrif lawn amdani yn '''Cof y Cwmwd'''. Fe'i dilynwyd gan ei fab Hugh fel cadeirydd ym 1940, a oedd, fel ei dad, yn un o brif amaethwyr yr ardal. Roedd yntau'n ffarmio Pennarth fel oedd ei gyndadau ers o leiaf canrif a hanner.


Yn ''coachhouse'' Pennarth y cynhelid cyfarfodydd [[Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46]] y ceir ysgrif lawn amdani yn '''Cof y Cwmwd'''.
{{eginyn}}


[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Ffermydd]]
[[Categori:Ffermydd]]

Fersiwn yn ôl 15:00, 23 Medi 2025

Fferm fawr yw Pennarth sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger Aberdesach, ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod cromlech ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar Pennarth (trefgordd).

Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r ffermGwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; rhaid i dagiau 'ref' heb enw iddynt gynnwys testun ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennarth wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd, os nad mân uchelwr, yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o Ystad Lleuar, ac yn eiddo i deulu George Twisleton[1], a etifeddodd ei diroedd o ganlyniad i'w briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu Glynllifon.[2] Er i deulu Twisleton golli'u gafael ar y rhan fwyaf o'u tiroedd oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys, ymddengys eu bod wedi dal eu gafael ar nifer bach o ffermydd, yn cynnwys Pennarth, Ynys yr Arch, Bryn Ifan a Chae Hir. Fe ymddengys fod Mary Ridsdale, aeres yr olaf o deulu Twisleton, sef George Twisleton III, wedi cadw ei gafael ar weddillion ystad Lleuar. Bu iddi ail-briodi â dyn o'r enw Henry Winstanley, masnachwr o ddinas Caer, ym 1758.[3] Yr adeg honno, Owen Roberts, iwmon, oedd yn ffermio Pennarth.[4] Ysywaeth, y flwyddyn wedyn aeth Winstanley'n fethdalwr, ac o ganlyniad i hynny fe wnaeth y Comisiynwyr Methdaliad orchymyn gwerthu'r ffermydd hyn, yn cynnwys Pennarth. Watkin Williams, Ysw., o Benbedw, Sir Dinbych a wnaeth brynu'r eiddo i gyd, am £2,445, a hynny ym 1768, gyda help morgais o £2000.[5] Roedd Watkin yn fab i Richard Williams (a hwnnw'n frawd i'r "Syr Watcyn" cyntaf a etifeddodd Wynnstay, un o ystadau mwyaf Cymru),[6]. Roedd gan Ystad Wynnstay diroedd eraill yn Sir Gaernarfon yn ardaloedd Llanbeblig, Llanrug a Beddgelert,[7] a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.[8] Erbyn 1843, roedd y pedair fferm yn eiddo i ddyn ifanc o'r enw Thomas Bucknall Lloyd o Amwythig (1824-1896). Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi aros gyda'i gilydd fel ystad fechan. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn oddeutu 151 o aceri.[9]

Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad gwaed rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau, a'i daid, Thomas Lloyd (1759-1829) yn dwrnai ac yn faer Amwythig ym 1810. Roedd y teulu wedi bod yn byw yn Amwythig ers diwedd y 16g., pan nodir fod John Lewis Lloyd, hen-hen-hen-hen-hen-hen daid Bucjnall Lloyd yn un o fwrdeiswyr y dref.[10] Roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon. Rhaid ystyried felly ei fod wedi prynu'r pedair fferm fel buddsoddiad. Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur Erewhon. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.[11] Esboniad mwy tebygol am i Bucknall Lloyd brynu'r ystad yw'r ffaith ei fod o a theulu Lloyd Lloyd yn defnyddio'r un cwmni o dwrneiod yn Amwythig.[12]

Rhaid yn awr droi at hanes teulu Oweniaid Pennarth i gael eglurhad llawnach o'r sefyllfa. Trwy lwc mae cyfres o ewyllysiau ar gael, ynghyd â nifer o restrau eiddo'r fferm yn ystod hanner cyntaf y 19g. sydd yn datgelu cryn dipyn am hanes y fferm a'i thenantiaid. Mae'n sicr fod teulu Owen wedi bod yn ffermio Pennarth ers cyn dechrau'r 19g. Nodir ymysg cofnodion priodas y plwyf fod Hugh Owen, iwmon o Bennarth a'i briod Elizabeth wedi cael merch, Elizabeth a anwyd 25 Gorffennaf 1799.[13] Mae ewyllys Thomas Owen, Pennarth, dyddiedig 1804[14] yn dystio i'r ffaith ei fod yn denant Pennarth ac yn ddi-briod, ond roedd ganddo ddau frawd, Griffith a Hugh a chwaer, Elizabeth. Dyn llythrennog ydoedd, a barnu oddi wrth ei lofnod mewn llawysgrifen hyderus. Erbyn 1829, pan wnaeth ei fab Hugh Owens ei ewyllys yntau, roedd yn amlwg yn denant ar y fferm (ac yn berchennog ar fferm Derwin Bach ar ffin Eifionydd).[15] Nid yw'n sicr beth a ddigwyddodd i'w frawd Griffith, ond mae'n bosibl ei fod wedi sicrhau tenantiaeth fferm Maesog yn yr un plwyf, lle bu gŵr o'i enw ef farw ym 1829. Roedd perthynas da rhwng teulu Griffith a Hugh Owen, Pennarth, o leiaf, gan fod hwnnw'n un o briswyr yr eiddo, a hyn yn cryfhau'r tebygrwydd mai brodyr oeddynt.[16]

Pan fu farw, gadawodd Hugh Owens hanner stoc y fferm i'w fab Richard Hughes (sylwer fod y teulu wedi dychwelyd at system batronymig o ran cyfenw), a hanner i'w wraig Eizabeth a'i ferch ddi-briod, hefyd o'r enw Elizabeth Hughes - a chymynroddion i'w tair merch arall. Roedd ei eiddo yn werth £356.8.6c i gyd, ac mae'n werth manylu ar gynnwys y rhestr eiddo. Cofied mai ym mis Mai y gwnaethpwyd y rhestr, ar adeg pan fyddai'r gwair a'r ŷd wedi eu hysbyddu i raddau helaeth.

Dillad, cyfrwy a ffrwyn £5.10.0c
6 cheffyl £42.0.0c
12 buwch â chyrn £84.0.0c
16 bustych a heffrod â chyrn £83.0.0c
10 llo blwydd £30.0.0c
2 gert £10.0.0c
Erydr, ogau ac offer amaethu £8.18.0c
6 mochyn @ £1.10s yr un £9.0.0c
120 o ddefaid yn ôl 6s yr un ar gyfartaledd £36.0.0c
Dodrefn y tŷ a'r llyfrau £40.10.0s
Ieir £0.10.0c
Gwair £6.10.6c

Ysywaeth, byr fu tenantiaeth Richard Hughes, gan mai ym 1834 y bu yntau farw, gan adael dau blentyn ifanc, Margaret Hughes a Hugh Owens, hwnnw ond tua 8 oed. Roedd ei fam ac un o'i chwiorydd wedi etifeddu hanner eiddo ei dad yn ystod eu hoes, ac nid syndod felly yw darllen yn rhestr o'i eiddo fod stoc y fferm ond hanner yr hyn a fu gan ei dad. Serch hynny, mae'r ffaith fod y rhestr wedi ei llunio ddiwedd Chwefror y flwyddyn honno yn golygu bod modd cael argraff o ochr tyfu cnydau a fu ym Mhennarth. Roedd gan Richard gwerth £8 o wair a gwerth £14 o ŷd yn ei ysgubor pan fu farw.[17]

I droi'n ôl at y map degwm dyddiedig 1843, gwelwyd uchod mai Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd perchennog Pennarth erbyn hynny, ond y tenant yn ôl y ddogfen honno oedd un John Jones. Mae'n debyg mai'r sawl oedd yn byw ym Mhennarth ac yn ffermio'r tir oedd Hugh Owen, mab Richard Hughes, y cyn denant a fu farw ym 1834. Bu Elizabeth Owens, mam Richard a nain Hugh fyw tan 1836[18], ond wedyn rhaid bod ymddiriedolwr yr Hugh ifanc wedi rhedeg y fferm ar ei ran gyda 5 gwas a 2 forwyn, gan mai ond 10 oed oedd o pan farwodd ei nain. Na fyddai felly'n gymwys i fod yn denant swyddogol.[19] John Jones, Tý'n-y-coed, sef (o bosibl) ewyrth Hugh oedd ymddiriedolwr eiddo Hugh Owen, wedi ei benodi yn ewyllys tad Hugh i'w gwarchod nes iddo gyrraedd oedran oedolyn. Digon naturiol (a bwrw bod perchennog y fferm yn fodlon i'r un teulu ddal y denantiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth) fyddai i ymddiriedolwr aer ifanc gael ei dderbyn dros dro fel y tenant swyddogol.

Roedd Pennarth yn fferm sylweddol ac yn fuan gwnaeth yr Hugh ifanc ei farc. Erbyn Cyfrifiad 1851, roedd wedi priodi â Jane, a oedd flwyddyn neu ddwy'n iau nag ef. Roedd yn cyflogi pump o weision fferm ac yn ffermio 180 acer o dir. Erbyn 1861, nodwyd ei fod yn ffermio 205 acer, yn cynnwys tir Cae Hir. Roedd gan y cwpl bedwar o blant, Richard (11oed), Jane (9), Hugh (5) ac Anne (3).

[20] Roedd wedi dechrau derbyn rhai cyfrifoldebau lleol: ym 1855 fe'i codwyd yn un o ddau warchedwad Undeb Dlodion Caernarfon dros Clynnog Fawr.[21] Roedd y cwpl a'u dau fab dal ar y fferm ym 1871 ac 1881, ond erbyn 1891, roedd y ddau a Richard wedi marw, a Hugh, y mab ieuengaf yno gyda'i wraig Laura (31 oed) a mab ifanc, Thomas, 4 oed. Cafwyd ail fab, Hughie (1894-1964) wedyn.[22]

Roedd Hugh Owen, Pennarth a aned ym 1856, yn un o arweinwyr y fro fel aeth yn hŷn.. Roedd yn gadeirydd y Cyngor Plwyf ym 1904, yn gynghorydd sir ac yn ynad heddwch.[23] Roedd yn un o hoelion wyth Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46, ac yn coachhouse Pennarth y cynhelid cyfarfodydd y ceir ysgrif lawn amdani yn Cof y Cwmwd. Fe'i dilynwyd gan ei fab Hugh fel cadeirydd ym 1940, a oedd, fel ei dad, yn un o brif amaethwyr yr ardal. Roedd yntau'n ffarmio Pennarth fel oedd ei gyndadau ers o leiaf canrif a hanner.

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7574
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.270
  3. Archifdy Caernarfon, XM1041/8, 15
  4. Archifdy Caernarfon, XM1041/12
  5. Archifdy Gwynedd, XM1041/19-30
  6. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.18
  7. Archifdy Caernarfon, XM1041/31-55
  8. LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [1], cyrchwyd 18.9.2025
  9. LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog
  10. Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society, Cyfres 4, Cyfrol XI, Rhan 1 (1923), t.9; Gwefan The Peerage, t.49943 [2], cyrchwyd 22.9.2025
  11. Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [3], cyrchwyd 17.9.2025
  12. Archifdy Gwynedd, XM1041/passim. Byddai twrneiod yn argymell buddsoddiad addas i'w cleientiaid.
  13. Archifdy Caernarfon, Ciofrestr bedyddiadau Clynnog
  14. LlGC, Dogfennau Profiant B/1809/46
  15. LlGC Dogfennau Profiant B/1829/74
  16. LlGC Dogfennau Profiant b/1829/73
  17. LlGC Dogfennau Profiant B/1834/63
  18. LlGC Dogfennau Profiant, B/1836/86
  19. Cyfrifiad plwyf Clynnog 1841. Nodir yno mai 15 oed oedd Hugh
  20. Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1851, 1861
  21. North Wales Chronicle, 14/4/1855, t.8
  22. Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1891-1911
  23. Herald Cymreig, 26.4.1904 t.5 a passim