Pennarth (fferm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.<ref>LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/3f94722d-c7e1-30fb-a038-c855662c72d2], cyrchwyd 18.9.2025</ref>
a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.<ref>LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/3f94722d-c7e1-30fb-a038-c855662c72d2], cyrchwyd 18.9.2025</ref>


Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi dal fel ystad fechan gyda'i gilydd hyd at ddyddiau'r map degwm tua 1844. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn oddeutu 151 o aceri.<ref>LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog</ref> Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd y perchennog erbyn hynny, a thenant Pennarth oedd un John Jones. Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau. Roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon. Rhaid ystyried felly ei fod wedi prynu'r pedair fferm fel buddsoddiad. Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur ''Erewhon''. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.<ref>Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [https://en.wikipedia.org/wiki/Thomas_Lloyd_(priest,_born_1824)], cyrchwyd 17.9.2025</ref>
Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau. Roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon. Rhaid ystyried felly ei fod wedi prynu'r pedair fferm fel buddsoddiad. Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur ''Erewhon''. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.<ref>Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [https://en.wikipedia.org/wiki/Thomas_Lloyd_(priest,_born_1824)], cyrchwyd 17.9.2025</ref> Esboniad mwy tebygol am i Bucknall Lloyd brynu'r ystad yw'r ffaith ei fod o a theulu Lloy Lloyd ddefnyddio'r un cwmni o dwrneiod yn Amwythig.<ref>Archifdy Gwynedd, XM1041/''passim''.</ref>
 
Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi dal fel ystad fechan gyda'i gilydd hyd at ddyddiau'r map degwm tua 1843. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn oddeutu 151 o aceri.<ref>LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog</ref> Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd y perchennog erbyn hynny, a thenant Pennarth yn ôl y ddogfen honno oedd un John Jones. Mae'n debyg mai ymddiriedolwr y sawl yn byw ym Mhennarth ac yn ffermio'r tir oedd John Jones, sef ewyrth bachgen tua 17 oed, Hugh Owen, na fyddai'n gymwys i fod yn denant swyddogol. Rhaid felly droi at hanes teulu Oweniaid Pennarth i gael eglurhad o'r sefyllfa. Trwy lwc mae cyfres o ewyllysiau ar gael, ynghyd â nifer o restrau eiddo'r fferm yn ystod hanner cyntaf y 19g. sydd yn datgelu cryn dipyn am hanes y fferm a'i thenantiaid.


Yn ''coachhouse'' Pennarth y cynhelid cyfarfodydd [[Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46]] y ceir ysgrif lawn amdani yn '''Cof y Cwmwd'''.
Yn ''coachhouse'' Pennarth y cynhelid cyfarfodydd [[Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46]] y ceir ysgrif lawn amdani yn '''Cof y Cwmwd'''.

Fersiwn yn ôl 08:39, 22 Medi 2025

Fferm fawr yw Pennarth sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger Aberdesach, ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod cromlech ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar Pennarth (trefgordd).

Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennarth wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd, os nad mân uchelwr, yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o Ystad Lleuar, ac yn eiddo i deulu George Twisleton[1], a etifeddodd ei diroedd o ganlyniad i'w briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu Glynllifon.[2] Er i deulu Twisleton golli'u gafael ar y rhan fwyaf o'u tiroedd oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys, ymddengys eu bod wedi dal eu gafael ar nifer bach o ffermydd, yn cynnwys Pennarth, Ynys yr Arch, Bryn Ifan a Chae Hir. Fe ymddengys fod Mary Ridsdale, aeres yr olaf o deulu Twisleton, sef George Twisleton III, wedi cadw ei gafael ar weddillion ystad Lleuar. Bu iddi ail-briodi â dyn o'r enw Henry Winstanley, masnachwr o ddinas Caer, ym 1758.[3] Yr adeg honno, Owen Roberts, iwmon, oedd yn ffermio Pennarth.[4] Ysywaeth, y flwyddyn wedyn aeth Winstanley'n fethdalwr, ac o ganlyniad i hynny fe wnaeth y Comisiynwyr Methdaliad orchymyn gwerthu'r ffermydd hyn, yn cynnwys Pennarth. Watkin Williams, Ysw., o Benbedw, Sir Dinbych a wnaeth brynu'r eiddo i gyd, am £2,445, a hynny ym 1768, gyda help morgais o £2000.[5] Roedd Watkin yn fab i Richard Williams (a hwnnw'n frawd i'r "Syr Watcyn" cyntaf a etifeddodd Wynnstay, un o ystadau mwyaf Cymru),[6]. Roedd gan Ystad Wynnstay diroedd eraill yn Sir Gaernarfon yn ardaloedd Llanbeblig, Llanrug a Beddgelert,[7] a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.[8]

Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau. Roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon. Rhaid ystyried felly ei fod wedi prynu'r pedair fferm fel buddsoddiad. Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur Erewhon. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.[9] Esboniad mwy tebygol am i Bucknall Lloyd brynu'r ystad yw'r ffaith ei fod o a theulu Lloy Lloyd ddefnyddio'r un cwmni o dwrneiod yn Amwythig.[10]

Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi dal fel ystad fechan gyda'i gilydd hyd at ddyddiau'r map degwm tua 1843. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn oddeutu 151 o aceri.[11] Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd y perchennog erbyn hynny, a thenant Pennarth yn ôl y ddogfen honno oedd un John Jones. Mae'n debyg mai ymddiriedolwr y sawl yn byw ym Mhennarth ac yn ffermio'r tir oedd John Jones, sef ewyrth bachgen tua 17 oed, Hugh Owen, na fyddai'n gymwys i fod yn denant swyddogol. Rhaid felly droi at hanes teulu Oweniaid Pennarth i gael eglurhad o'r sefyllfa. Trwy lwc mae cyfres o ewyllysiau ar gael, ynghyd â nifer o restrau eiddo'r fferm yn ystod hanner cyntaf y 19g. sydd yn datgelu cryn dipyn am hanes y fferm a'i thenantiaid.

Yn coachhouse Pennarth y cynhelid cyfarfodydd Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46 y ceir ysgrif lawn amdani yn Cof y Cwmwd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7574
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.270
  3. Archifdy Caernarfon, XM1041/8, 15
  4. Archifdy Caernarfon, XM1041/12
  5. Archifdy Gwynedd, XM1041/19-30
  6. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.18
  7. Archifdy Caernarfon, XM1041/31-55
  8. LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [1], cyrchwyd 18.9.2025
  9. Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [2], cyrchwyd 17.9.2025
  10. Archifdy Gwynedd, XM1041/passim.
  11. LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog