Pennarth (fferm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Fferm fawr yw '''Pennarth''' sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger [[Aberdesach]], ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod [[Cromlech Pennarth|cromlech]] ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar [[Pennarth (trefgordd)]]. | Fferm fawr yw '''Pennarth''' sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger [[Aberdesach]], ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod [[Cromlech Pennarth|cromlech]] ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar [[Pennarth (trefgordd)]]. | ||
Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennartrh wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd os nad yn fan uchelwr yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o [[Ystad Lleuar]], ac yn eiddo i deulu [[George Twisleton]]<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7574</ref>, a etifeddodd ei diroedd yn sgil ei briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu [[Glynllifon]].<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.270</ref> Fel gweddill yr ystad, fe gollodd teulu Twisleton afael ar y lle oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys. Rhaid cofio fod ystadau'n grynoadau organig o nifer o ddarnau o eiddo a thrwy'r canrifoedd bu llawer o werthu, prynu, cymynu, morgeisio a chyfnewid ac felly nid yw manylion unrhyw ystad yn aros yn gyson am byth. Mae'r manylion isod yn dod o restr o eiddo, rhenti, tenantiaid a dyledion rhent a anfonwyd at Thomas Wynn, A.S. pan oedd yn ei dŷ yn Stryd Warwig, Golden Square, Llundain ym 1724.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7634</ref> Ym 1729, fe brynodd sgweiar Glynllifon y morgeisi ar y tir oddi ar y sawl oedd wedi benthyg arian i George Twisleton, sef Samuel Shepheard. | |||
Erbyn adeg gwneud y map degwm ychydig cyn 1844, Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd y perchennog, a'r tenant oedd un John Jones. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn ymnestyn i ryw 151 o aceri.<ref>LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog</ref> | |||
Yn ''coachhouse'' Pennarth y cynhelid cyfarfodydd [[Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46]] y ceir ysgrif lawn amdani yn '''Cof y Cwmwd'''. | Yn ''coachhouse'' Pennarth y cynhelid cyfarfodydd [[Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46]] y ceir ysgrif lawn amdani yn '''Cof y Cwmwd'''. | ||
Fersiwn yn ôl 16:46, 15 Medi 2025
Fferm fawr yw Pennarth sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger Aberdesach, ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod cromlech ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar Pennarth (trefgordd).
Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennartrh wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd os nad yn fan uchelwr yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o Ystad Lleuar, ac yn eiddo i deulu George Twisleton[1], a etifeddodd ei diroedd yn sgil ei briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu Glynllifon.[2] Fel gweddill yr ystad, fe gollodd teulu Twisleton afael ar y lle oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys. Rhaid cofio fod ystadau'n grynoadau organig o nifer o ddarnau o eiddo a thrwy'r canrifoedd bu llawer o werthu, prynu, cymynu, morgeisio a chyfnewid ac felly nid yw manylion unrhyw ystad yn aros yn gyson am byth. Mae'r manylion isod yn dod o restr o eiddo, rhenti, tenantiaid a dyledion rhent a anfonwyd at Thomas Wynn, A.S. pan oedd yn ei dŷ yn Stryd Warwig, Golden Square, Llundain ym 1724.[3] Ym 1729, fe brynodd sgweiar Glynllifon y morgeisi ar y tir oddi ar y sawl oedd wedi benthyg arian i George Twisleton, sef Samuel Shepheard.
Erbyn adeg gwneud y map degwm ychydig cyn 1844, Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd y perchennog, a'r tenant oedd un John Jones. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn ymnestyn i ryw 151 o aceri.[4]
Yn coachhouse Pennarth y cynhelid cyfarfodydd Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46 y ceir ysgrif lawn amdani yn Cof y Cwmwd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma