Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai''' (neu, yn ôl sillafiad yr amser honno, "Uwch-gorfai") yn un o nifer | Roedd '''Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai''' (neu, yn ôl sillafiad yr amser honno, "Uwch-gorfai") yn un o nifer o gymdeithasau cyfeillgar a sefydlwyd yng nghanol y 19g. Byddai'r aelodau'n talu tanysgrifiad a, phe baent yn dioddef salwch neu dlodi, byddai modd cael rhywfaint o arian gan y gymdeithas fel cynhaliaeth. Trefnid swper blynyddol neu gyngerdd weithiau hefyd, i gadw teyrngarwch yr aelodau. Roedd y cymdeithasau hyn yn niferus yn yr ardaloedd diwydiannol, megis ardal y chawareli, ac nid yw'n syndod felly fod nifer wedi bodoli yn [[Uwchgwyrfai]]. | ||
Yn achos Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai, fe'i sefydlwyd ym 1837. Ceir adroddiad yn y wasg am y dathliadau | Yn achos Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai, fe'i sefydlwyd ym 1837. Ceir adroddiad yn y wasg am y dathliadau ar Ddydd Iau Dyrchafael, 1840, pan ddathlwyd trydydd pen-blwydd ei sefydlu. Ymgasglodd yr aelodau yn ystod y bore yn neuadd y gymdeithas, sef Ystafell Glwb Moel Tryfan, er mwyn ystyried y cyfrifon ac ati. O'r fan honno, ymdeithiodd yr aelodau tu ôl i fand lleol trwy'r plwyf i [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]], lle pregethodd curad y plwyf, y Parch. M. Thomas, ar Mathew 22, adnod 39. O'r fan honno, aethant ymlaen, yng nghwmni'r Curad a sgweier [[Tryfan Mawr]], Owen Griffiths, ysw., i lawr i'r [[Bontnewydd]] lle cawsant ginio helaeth yn Nhafarn y Newborough Arms. Cafwyd adloniant gan y band wedyn cyn i bawb droi am adref tua 6 y nos.<ref>''North Wales Chronicle'', 2.6.1840, t.3</ref> | ||
Mae'n bosibl mai cymdeithas a gynhelid gan eglwyswyr y plwyf oedd hon, gan fod [[Cymdeithas Caredigion Rhostryfan]], cymdeithas a noddwyd gan y Wesleaid, yn bodoli'r un pryd, ac ar ôl i honno ddod i ben ym 1843, sefydlwyd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai yn ei lle.<ref>Gweler yr erthygl yng Nghof y Cwmwd.</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:23, 14 Mawrth 2025
Roedd Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai (neu, yn ôl sillafiad yr amser honno, "Uwch-gorfai") yn un o nifer o gymdeithasau cyfeillgar a sefydlwyd yng nghanol y 19g. Byddai'r aelodau'n talu tanysgrifiad a, phe baent yn dioddef salwch neu dlodi, byddai modd cael rhywfaint o arian gan y gymdeithas fel cynhaliaeth. Trefnid swper blynyddol neu gyngerdd weithiau hefyd, i gadw teyrngarwch yr aelodau. Roedd y cymdeithasau hyn yn niferus yn yr ardaloedd diwydiannol, megis ardal y chawareli, ac nid yw'n syndod felly fod nifer wedi bodoli yn Uwchgwyrfai.
Yn achos Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai, fe'i sefydlwyd ym 1837. Ceir adroddiad yn y wasg am y dathliadau ar Ddydd Iau Dyrchafael, 1840, pan ddathlwyd trydydd pen-blwydd ei sefydlu. Ymgasglodd yr aelodau yn ystod y bore yn neuadd y gymdeithas, sef Ystafell Glwb Moel Tryfan, er mwyn ystyried y cyfrifon ac ati. O'r fan honno, ymdeithiodd yr aelodau tu ôl i fand lleol trwy'r plwyf i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda, lle pregethodd curad y plwyf, y Parch. M. Thomas, ar Mathew 22, adnod 39. O'r fan honno, aethant ymlaen, yng nghwmni'r Curad a sgweier Tryfan Mawr, Owen Griffiths, ysw., i lawr i'r Bontnewydd lle cawsant ginio helaeth yn Nhafarn y Newborough Arms. Cafwyd adloniant gan y band wedyn cyn i bawb droi am adref tua 6 y nos.[1]
Mae'n bosibl mai cymdeithas a gynhelid gan eglwyswyr y plwyf oedd hon, gan fod Cymdeithas Caredigion Rhostryfan, cymdeithas a noddwyd gan y Wesleaid, yn bodoli'r un pryd, ac ar ôl i honno ddod i ben ym 1843, sefydlwyd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai yn ei lle.[2]