Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:


[[Categori:Elusen]]
[[Categori:Elusen]]
[[Categori:Cymdeithasau cyfeillgar]]
[[Categori:Cymdeithasau Cyfeillgar]]

Fersiwn yn ôl 18:37, 13 Mawrth 2025

Roedd Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai (neu, yn ôl sillafiad yr amser honno, "Uwch-gorfai") yn un o nifer bo gymdeithasau gyfeillgar a sefydlwyd yng nghanol y 19g. Byddai'r aelodau'n talu tanysgrifiad a, phe baent yn dioddef salwch neu dlodi, byddai modd cael rhywfaint o arian gan y gymdeithas fel cynhaliaeth. Trefniwyd swper blynyddol neu gyngerdd weithiau hefyd, i gadw teyrngarwch yr aelodau. Roedd y cymdeithasau hyn yn niferus yn yr ardalydd diwydiannol megis ardal y chawareli ac nid syndod felly yw'r ffaith fod nifer wedi bodoli yn Uwchgwyrfai.

Yn achos Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai, fe'i sefydlwyd ym 1837. Ceir adroddiad yn y wasg am y dathliadau ay Ddydd Iau Dyrchafael, 1840, pan nodwyd trydydd pen-bleydd ei sefydlu. Ymgasglodd yr aelodau yn ystod y bore yn neuadd y gymdeithas, sef Ystafell Glwb Moel Tryfan, er mwyn ystyried y cyfrifon ac ati. O'r fan honno, ymdeithiodd yr aelodau tu o i fand lleol trwy'r plwyf i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda, lle pregethodd curad y plwyf, y Parch. M. Thomas, ar Mathew 22, p.39. O'r fan honno, aethant ymlaen, yng nghwmni'r Curad a sgweier Tryfan Mawr, Owen Griffiths, ysw., i lawr i'r Bontnewydd lle cawsant ginio helaeth yn Nhafarn y Newborough Arms. Cafwyd adloniant gan y band wedyn cyn i bawb droi am adref tua 6 y nos.[1]

Maer'n bosibl mai cymdeithas a gynhelid gan eglwyswyr y plwyf oedd hon, gan fod Cymdeithas Caredigion Rhostryfan, cymdeithas a noddwyd gan y Wesleaid, yn bodoli'r un pryd, ac ar ol i honno ddod i ben ym 1843, sefydlwyd Cymdeithas Gynorthwyol Uwchgwyrfai yn ei lle.[2]

Cyfeiriadau

  1. North Wales Chronicle, 2.6.1840, t.3
  2. Gweler yr erthygl yng Nghof y Cwmwd.